Beth yw Sais? Dyma ddiffiniad Geiriadur Prifysgol Cymru:
Brodor o Loegr, un o dras neu
genedligrwydd Seisnig; Sacson; siaradwr Saesneg (di-Gymraeg).
Ifor ap Glyn
sy'n esbonio mwy.
Nodiadau
Cân:
"Mae Cymru wedi cael ei dydd. Dw i eisiau bod yn Sais."
Os gwnewch
chi gwglo'r gair Sais, daw pob math o atebion annisgwyl...
gair
Hindwstani i ddisgrifio gwas sy'n gofalu am y ceffylau - mi wnaeth hynny wneud
i mi wenu, rhaid
i mi gyfadde...
Mae’r gair
yn dod o’r Lladin Sacso, a'r ffurf luosog Saeson yn fenthyciad o'r Lladin
Sacsones.
Yn
wreiddiol, roedd e'n disgrifio llwyth o ganol yr Almaen, ardal sy'n cael ei
hadnabod hyd heddiw fel
Sachsen.
Oherwydd y
traffig cyson sy wedi bod rhwng Cymru a Lloegr dros y canrifoedd, mae'r gair Sais wedi
dod i ddisgrifio pob math o bethau yn ein iaith lafar ni.
Myrddin ap
Dafydd sydd ag ychydig o enghreifftiau.
Cwlwm Sais - math arbennig o gwlwm oedd yn cael
ei ddefnyddio yn Lloegr yn rhywle.
[Dyma
esboniad y GPC: knot used in tying sheaves (so called because Welsh reapers
became acquainted with it while harvesting in Herefordshire) (lit. Englishman’s
knot)]
Gwenith Sais - math
o wenith mae angen tir da ar ei gyfer e.
Mae ambell i
ddefnydd o'r gair Sais yn llai caredig...
Unwaith eto
yng Ngheredigion, [roedd pobol] yn galw siswrn yn 'Sais', darlun cartwnaidd o Sais ei fod e fel siswrn...
Dyn ni'n dweud hynny am rywun blin, "fod e'n blin
fel siswrn". A hefyd galw pladur [scythe] (benywaidd ydy pladur) ...a'i
galw hi yn 'y Saesnes', byddai rhywun yn meddwl bod 'na dinc o hen bladurwr
wedi dod adre i Gymru a teimlo ei fod e wedi cael cam yn rhywle ar y daith.
Ond wrth gwrs, nid y ni yw'r unig rai sy'n byw drws nesa
i Loegr ac yn siarad iaith wahanol.
Tybed beth mae ein cefndryd Celtaidd ni'n galw'r Saeson,
a'r wlad lle maen nhw'n byw?
I'r Gwyddelod Sasana
yw enw'r wlad, a Sasanach yw un sy'n
byw yno...ond Béarla maen nhw'n galw'r iaith mae'r Sasanach yn ei siarad, sy'n gallu golygu iaith annealladwy. I'r Cernywiaid Sowson
yw'r bobol sy'n byw draws nesa, a Sowsnek
maen nhw'n siarad, ond Pow Sows yw eu
gwlad nhw. Mae 'pow' yn golygu 'gwlad' - yr un gair yn y bôn â'r hyn dyn ni'n
ei ganu tua diwedd ein hanthem genedlaethol: "a'r môr
yn fur i'r bur hoff bau".
Mae'r geiriau Sais a Saeson yn elfen yn sawl enw lle. Mae
'na Bont-ar-sais ger Caerfyrddin, mae 'na sawl Rhyd-y-saeson i'w cael hefyd, ac roedd
Geraint Jarman yn canu yn fanno am Gae'r Saeson lle y cynhaliwyd gigs Cymdeithas yr Iaith yn
ystod eisteddfod Caernarfon yn 1979. Ond ydy hyn yn golygu bod Saeson wedi bod yn byw ar
hyd a lled Cymru yn rhai o rannau Cymreiciaf ein gwlad ers canrifoedd lawer? Wel,
dim o reidrwydd.
Myrddin ap Dafydd: y cofnodion cynhara sy gynnon ni nôl
yn yr oesoedd canol...Einion Sais o ym Mrycheiniog, wel Cymro oedd o ond fod o'n medru siarad
Saesneg, felly yn yr ystyr yna, rhywun sy'n medru siarad Saesneg, hyd yn oed os ydy o'n
Gymro sy'n cael ei alw'n Sais. Mae 'na gyfeiriad at Gwilym Sais yn y llys yng Nghaernarfon
yn niwedd yr oesoedd canol. Mae'n bosib mai cyfieithydd oedd o.
Ac Elidir Sais, wrth gwrs, un o feirdd y tywysogion, alla
i'm mentro mai nid Sais mo hwnnw. Ac roedd Daniel Owen yn defnyddio Sais yn yr ystyr o
rywun sy'n medru siarad Saesneg pan sgwennodd e hyn yn ei nofel Rhys Lewis:
Roeddwn yn sicr fy mod yn amgenach
Sais nag ef, ac yn gwybod mwy am the way of the world.
[Ystyr
'amgenach' yma yw 'gwell, rhagorach']
Ac dyn ni'n
gweld olion o'r un peth hyd heddiw pan ddwedwn ni bethau fel: "Dos di i
ofyn. Ti'n well
Sais na fi."
Ond gadewch
inni gloi drwy drafod y gwahaniaeth rhwng Sais sydd yn amal yn foi hoffus a dymunol, a
'real Sais'. Myrddin ap Dafydd eto.
Mae hwnna'n
ansoddair pwysig iawn, dw i'n meddwl. Yn y 'real Sais' yma dyn ni'n cael Sais ystrydebol,
y cartŵn, y John Bull... Dyn ni'n ei
ddefnyddio fe weithiau am Sais sydd yn methu neu'n
gwrthod bacio nôl ar lôn gul...Dw i'n cofio ryw dro o'n i'n gadael Caergybi i
fynd am Iwerddon
ar y fferi, ac mi oedd 'na deulu o Saeson 'na, y tad yn esbonio bod nhw'n mynd
i Iwerddon, ac wedyn Môn dirion dir yn pasion heibio'r ffenest y fferi, ac yn
codi llaw yn dweud, "Goodbye England".
Ôl-nodyn
GPC: Fe’i clywir yng nghanolbarth Cered. yn yr ystyr
‘trempyn’, B iv. 301. Weithiau cyfeirir at siswrn fel Sais.
Hefyd: gwahanglwyf y Sais: psoriasis (lit. Englishman’s
leprosy).
No comments:
Post a Comment