Croeso!

Blog ar gyfer pobl sy'n dysgu Cymraeg yn ardal Aberteifi yw hwn. Mae'n cynnwys adnoddau ac erthyglau sy'n berthnasol i'n dosbarthiadau sgwrsio. Byddwn ni'n trafod ystod eang o destunau yn ystod y flwyddyn (garddio, byd y natur, byd busnes a gwaith, hanes lleol, coginio, tafodiaith, barddoniaeth i enwi ond rhai o'r pynciau) gan edrych ar wahanol fathau o'r iaith. Croeso i bawb sydd am ddatblygu eu sgiliau Cymraeg.

Friday 2 March 2018

Stori Dewi Sant fel na chlywsoch chi hi erioed o'r blaen

Garmon Ceiro sy'n esbonio.....

A hithau'n Ddydd Gŵyl Dewi, beth am inni edrych ar rai o'r hanesion am y dyn ei hun? Prin yw'r ffeithiau, ond mae digonedd o chwedlau....

I ddechre cyn y dechre: yn ôl chwedl, dwedodd angel wrth Sant Padrig am enedigaeth Dewi Sant dri deg mlynedd cyn i Dewi gael ei eni. Piti mawr na ddwedodd Padrig wrth Non, mam Dewi, fodd bynnag - achos fe ffindodd hi ei hunan yn rhoi genedigaeth i'w mab mewn storm fawr ar ben clogwyn. Sy ddim yn ddelfrydol.

Doedd Dewi ddim yn yfed diod feddwol nac yn bwyta cig. Yn wir, roedd ei ddeiet e'n swnio'n ddigon llwm - bara a dŵr....neu gennin a dŵr. Naill ffordd neu'r llall, fyddech chi ddim wir ishe gwahoddiad i swper wrtho fe - a fyse fe ddim yn debygol o ennill ar Come Dine With Me.

Roedd Dewi'n dipyn o dasgfeistr. Wrth i'r mynachod ffermio'r tir, ro'dd Dewi'n mynnu eu bod nhw'n gwneud hynny, gan gynnwys aredig, heb gymorth anifeiliaid. Ar ôl clywed hyn, rhaid cyfaddef y byddai dathlu Dewi gyda gŵyl banc yn eithaf eironig! A fyddech chi'n sicr ddim eisiau fe fel rheolwr llinell.

Ymddengys bod agwedd galed Dewi wedi mynd ar nerfau rhai mynachod lleol, ac fe benderfynon nhw ei wenwyno! Ond rhybuddiwyd Dewi am y gwenwyn a thorrodd y bara gwenwynig yn 3 darn - rhoddodd un darn i gi a darn arall i frân, a buodd y ddau farw. Yna, bendithiodd y trydydd darn a'i fwyta ei hun - ac ni fuodd farw. Gwyrth! Lwcus iddo fe bod hyn cyn dyddiau'r RSPCA.

Ond rhag ofn eich bod chi'n dechre drwghoffi Dewi - mi oedd e'n dipyn o foi gyda'r gwyrthiau: creu ffynonellau dŵr i helpu gyda thiroedd sychion ei gymdogion, gwella dallineb gŵr drwy sblasho dŵr i'w lygaid, ac achub bywyd bachgen drwy olchi ei wyneb â dagrau. Oedd, roedd Dewi'n reit handi gyda'r dŵr. Ond nid dyma pam y'i gelwid yn Dewi Ddyfrwr. Yn hytrach, roedd hynny am mai dyna'r oll yr oedd yn yfed....ac am ei hoffter o sefyll mewn llyn hyd at ei wddwg yn adrodd ysgrythur. Wel, pawb at y peth y bo!

Y chwedl enwocaf am Dewi yw, ar ôl i bobol gwyno nad o'n nhw'n gallu ei glywed yn pregethu ger Llanddewi Brefi, ei fod wedi llwyddo i dyfu'r ddaear o dan ei draed i ffurfio bryn. Tipyn o gamp, cyhyd a bod e ddim eistedd o'ch blaen chi yn y sinema.

Oedd, roedd Dewi'n dipyn o foi. Yn wir, roedd gan y Pab Calistus II gymaint o feddwl ohono iddo ddweud bod dau ymweliad â Thŷ Ddewi'n gyfwerth ag un â Rhufain. A chyda prisiau trenau fel y maen nhw, efallai bod hynny dal yn wir.

Dydd Gŵyl Dewi Hapus!




No comments:

Post a Comment