Croeso!

Blog ar gyfer pobl sy'n dysgu Cymraeg yn ardal Aberteifi yw hwn. Mae'n cynnwys adnoddau ac erthyglau sy'n berthnasol i'n dosbarthiadau sgwrsio. Byddwn ni'n trafod ystod eang o destunau yn ystod y flwyddyn (garddio, byd y natur, byd busnes a gwaith, hanes lleol, coginio, tafodiaith, barddoniaeth i enwi ond rhai o'r pynciau) gan edrych ar wahanol fathau o'r iaith. Croeso i bawb sydd am ddatblygu eu sgiliau Cymraeg.

Sunday, 11 March 2018

Catrin o Ferain, 'Mam Cymru'

Catrin o Ferain, 1534/5-1591


Mae bywyd Catrin o Ferain yn llawn dirgelwch. Roedd gan yr aeres gyfoethog hon o Sir Ddinbych waed Tuduraidd, ac roedd yn perthyn o bell i'r Frenhines Elisabeth I.
Ei hanes hi a'i gŵyr niferus oedd un o brif straeon rhamant y gogledd. Cafodd chwech o blant a thros dri deg o wyrion ac wyresau oedd i gyd yn rhan o deuluoedd cyfoethocaf y wlad. Yn sgil hyn cafodd y teitl 'Mam Cymru'.
Yn oes Catrin, roedd pobl yn priodi am arian, tir a phŵer, nid cariad. Fel aeres gyfoethog o dras frenhinol, ystyriwyd Catrin yn dipyn o fachiad! Priododd bedair gwaith gyda Chymry enwog, ac roedd yn perthyn i deuluoedd cyfoethocaf, pwysicaf y gogledd.
Byddai pobl gyfoethog yn aml yn cael rhywun i beintio eu portreadau er mwyn gwneud sioe fawr o'u cyfoeth a'u statws cymdeithasol. Ond yn yr oes grefyddol hon, roedd hi'r un mor bwysig ymddangos yn ddiymhongar o flaen Duw.
Ffynhonnell: Amgueddfa Cymru

Geirfa
o dras frenhinol....of royal descent
bachiad ....catch  [bachu - to hook]
diymhongar....modest
_________________
Dyma glip o'r gyfres Cynefin, gyda Siôn Tomos Owen yn adrodd am fywyd Catrin.


Sgript
Dw i’n neud fy ffordd i Lanefydd, ddim yn bell o fferm Llaeth y Llan, ond y fferm yna, Fferm y Berain, oedd yn perthyn i Catrin o Ferain yn yr unfed ganrif ar bymtheg, ac mae ei stori hi’n werth ei hadrodd. Y rhannau gwir, a’r rhannau sydd…sut alla i ddweud…ddim.
Wnaeth Catrin briodi bedair o weithiau, peth prin iawn yn yr oes yna.
Daeth priodas gynta Catrin i ben ar ôl naw mlynedd ar farwolaeth ei gŵr, ac un stori boblogaidd yw ei bod hi ‘di derbyn un cynnig briodi ar y ffordd mewn i’r angladd, ac un arall ar y ffordd ma’s. Tipyn o fenyw!
Celwydd yw’r stori’n anffodus, ond fel maen nhw’n dweud, ‘sdim pwynt sbwylio stori dda ‘da’r gwir.
Yr ail ŵr oedd Richard Clough. Roedd e’n un ‘da chwedl neu ddwy ‘da fe ‘fyd.
Roedd rhai’n dweud fod e’n ysbïwr ar ran Elisabeth y Cyntaf, tra bod eraill yn dweud fod e’n ateb i rywun mwy sinistr. Mae ‘na sôn bod Catrin un noson wedi pipo drwy dwll y clo a ‘di weld e’n sgwrsio am hanner nos gyda’r diafol.
Ychydig ar ôl hyn, wnaeth Richard Clough farw’n annisgwyl tra’n teithio i’r Almaen, neu ife’r diafol wnaeth gymryd e?
Fe briododd Catrin ddwywaith ‘to, a thrwy hyn i gyd aeth hi i weld ei mab cynta, Thomas, yn cael ei ddienyddio am geisio lladd y frenhines Elisabeth.
Arhosodd hi’n driw i’r ardal.
Wedi noddi dwsinau o feirdd ac artistiaid, mae’n hawdd gweld sut enillodd Catrin yr enw ‘Mam Cymru’, ond rhywle fan hyn yn eglwys Llanefydd mae Catrin wedi’i chladdu heb ddim I farcio’r tir.
Dim ond y straeon sydd ar ôl.



No comments:

Post a Comment