Diolch i Golwg360
Mae dyn wedi croesawu penderfyniad llys ei fod yn ddieuog o dair
trosedd, ar ôl i weithiwr siop ei hebrwng allan o siop ym Mhenygroes am
iddo wrthod siarad Saesneg.
Cafodd Richard Thomas Jones, sy’n 72 oed, ei alw gerbron Llys y
Goron Caernarfon yr wythnos diwethaf yn dilyn ffrae gyda Lynda Jones,
gweithiwr yn siop elusen Annie’s Wyddfa, wedi iddi hi fynnu bod Richard
Jones yn siarad Saesneg yn y siop.
Roedd Richard Jones, neu Dic Jones, wedi cael ei gyhuddo o
aflonyddu hiliol a dau gyhuddiad o ymosodiad corfforol. Roedd Lynda
Jones yn honni ei fod wedi ei galw yn “fuwch Saesneg”, yn “Natsi” yn
ogystal â’i fod wedi ei tharo.
Flwyddyn a hanner wedi’r digwyddiad yn 2012, cafodd yr achos ei gynnal yn Llys y Goron Caernarfon.
Cafwyd Dic Jones yn ddieuog o’r tri chyhuddiad yn ei erbyn, gyda’r rheithgor yn dod i’r penderfyniad hwnnw o fewn llai nag awr.
‘Gwarthus’
Yn dilyn yr achos dywedodd Dic Jones wrth Golwg360: “Mae’r peth
yn warthus. Fasa hyn ddim yn digwydd mewn dim un wlad arall. Meddyliwch
am ddyn Ffrengig yn cael ei hel allan o siop yn Ffrainc am siarad
Ffrangeg!” meddai Dic Jones.
Cefndir
Ym mis Hydref 2012, fe aeth Dic Jones a bocs o nwyddau i’r siop
elusen ar Stryd yr Wyddfa ym Mhenygroes a chychwyn sgwrsio yn Gymraeg
gyda’r gweithiwr siop, Lynda Jones.
Ymateb Lynda Jones oedd gorchymyn ei fod yn troi o’r Gymraeg i’r Saesneg, gan ddweud fod yn rhaid iddo siarad Saesneg yn y siop.
“Ddychrynis i am ‘y mywyd – roedd o’n mynd drwyddach chi rywsut,” meddai Dic Jones.
“Ac mi roedd hi’n deall Cymraeg beth bynnag.”
Penderfynodd y gŵr fynd yn ôl i’r siop gyda dyfais recordio, i
weld os fyddai’n cael yr un ymateb ar dâp. A’r tro yma, bu i’r un ddynes
ei hebrwng allan i’r stryd:
“Mi wnaeth hi afael ynddo fi a bygwth galw’r heddlu. Ac mi ro’n i isio iddyn nhw ddod yno, i weld y peth yn digwydd.
“Dyna pam es i yn ôl hefo dyfais recordio, am fy mod i’n meddwl
na fasa neb yn coelio bod y ffasiwn beth wedi digwydd fel arall.”
Yn ddiweddarach, fe ddaeth heddwas i dy Dic Jones gyda’r neges
fod Lynda Jones yn dwyn achos yn ei erbyn am aflonyddu hiliol sarhaus ac
am ei tharo.
Cynigodd yr heddwas i Dic Jones arwyddo datganiad i ddweud na
fyddai’n mynd i’r siop byth eto, ac fe fyddai’r achos yn cael ei ollwng.
Ceisiodd yr heddwas gael gafael ar y ddyfais recordio, ond gwrthododd
Dic Jones iddo fynd a’r dystiolaeth.
Ar ôl ymweliad yr heddlu, roedd cyhuddiad ychwanegol yn erbyn
Dic Jones - gyda’r heddwas yn dweud ei fod wedi ymosod arno fo yn
ogystal. Cafodd ei arestio, a’i gadw yn y ddalfa am bedair awr.
Ymateb Comisiynydd y Gymraeg
Dywedodd llefarydd ar ran Comisiynydd y Gymraeg: “Mae gan
Gomisiynydd y Gymraeg bwerau statudol o dan Fesur y Gymraeg (Cymru) 2011
i ymchwilio ac ymateb i gwynion am fethiant sefydliadau i weithredu eu
cynlluniau iaith Gymraeg; achosion o ymyrraeth â rhyddid unigolion i
ddefnyddio’r Gymraeg gyda’i gilydd yng Nghymru; ac yn y dyfodol, cwynion
am fethiant sefydliadau i gydymffurfio â safonau.
“Nid yw pwerau’r Comisiynydd i ymchwilio yn cwmpasu’r gŵyn dan sylw ac felly nid oedd modd ystyried yr achos.”
Ychwanegodd y llefarydd: “Ddiwedd Tachwedd 2013 lansiodd y
Comisiynydd wasanaeth rhanbarthol newydd i gefnogi busnesau bach a
chanolig. Fel rhan o’r gwasanaeth newydd, mae pedwar swyddog cynghori
busnes yn gweithio’n uniongyrchol â busnesau ar draws Cymru er mwyn
datblygu defnydd o’r Gymraeg mewn ffordd sy’n ateb anghenion penodol y
busnes a’r gymuned leol.”
No comments:
Post a Comment