Croeso!

Blog ar gyfer pobl sy'n dysgu Cymraeg yn ardal Aberteifi yw hwn. Mae'n cynnwys adnoddau ac erthyglau sy'n berthnasol i'n dosbarthiadau sgwrsio. Byddwn ni'n trafod ystod eang o destunau yn ystod y flwyddyn (garddio, byd y natur, byd busnes a gwaith, hanes lleol, coginio, tafodiaith, barddoniaeth i enwi ond rhai o'r pynciau) gan edrych ar wahanol fathau o'r iaith. Croeso i bawb sydd am ddatblygu eu sgiliau Cymraeg.

Wednesday 28 February 2018

"Rhefru yn erbyn Prydeindod"

Diolch i BBC Cymru Fyw am yr erthygl hon.

Mae AC Ceidwadol wedi beirniadu pennaeth Amgueddfa Cymru am "refru yn erbyn Prydeindod" yn ystod digwyddiad i ystyried dyfodol diwydiant twristiaeth Prydain wedi Brexit.
Mewn araith yn ystod seminar gan y corff Visit Britain yn Llundain fis diwethaf, fe ddywedodd David Anderson bod marchnata'r DU dan y faner 'Britain is GREAT' yn "gelwydd" sy'n "gwneud i ni edrych yn dwp".
Oherwydd ei sylwadau, medd llefarydd diwylliant y Ceidwadwyr Cymreig, Suzy Davies, mae Mr Anderson wedi "cefnu ar ei ddyletswydd i fod yn ddi-duedd yn wleiddyddol" ag yntau'n bennaeth ar gorff sy'n derbyn arian cyhoeddus.
Ond mae Mr Anderson yn dweud bod ysgogi trafodaeth yn rhan o'i rôl fel cyfarwyddwr cyffredinol Amgueddfa Cymru, a bod angen "diffiniad mwy cyfoes o Brydeindod" sy'n rhoi llais llawer cryfach i Gymru.

'Pedlera anwiredd'

Roedd Mr Anderson ymhlith y siaradwyr gwadd mewn seminar undydd yn San Steffan, ac yn ymateb i themâu yn cynnwys sgiliau, buddsoddi a strategaethau'r diwydiant ar ôl i'r DU adael yr UE.
Fe gyfeiriodd at agoriad arddangosfa gan Amgueddfa Cymru yn Chongqing yn China yn 2013, a'r profiad o sefyll dan faneri'n datgan 'Britain is GREAT'.
Roedd y baneri hynny'n hybu sefydliadau fel Oriel Tate, Llundain ond fe ddywedodd nad oedd yn ymddangos bod 'na un yn hybu Amgueddfa Cymru.
Dywedodd yn ei araith: "Dydw i byth eto eisiau sefyll dan y faner 'Britain is GREAT'. Mae'r geiriau yn gelwydd.
"Rydyn ni'n gwybod hynny. Mae llawer o ymwelwyr o dramor yn gwybod hynny. Maen nhw ond yn gwneud i ni edrych yn dwp. Fe wnaethon nhw gyfrannu at wallgofrwydd lledrithiol torfol Brexit."
Ychwanegodd bod gofyn i'r diwydiant twristiaeth, dan arweiniad y cyrff Visit England a Visit Britain "stopio pedlera'r anwiredd o 'Fawredd Prydeinig'" a chreu hunaniaeth "amgen, mwy gonest, cadarnhaol a chynhwysol ar gyfer rhannau Seisnig yr ynysoedd yma".

'Hunan-faldodus'

Wrth feirniadu'r araith, dywedodd Ms Davies bod Mr Anderson wedi cael gwahoddiad i annerch y digwyddiad yng nghyd-destun ei swydd, ac nid ar lefel bersonol.
"Roedd disgwyl i'r siaradwyr ganolbwyntio ar rannu ymarfer da o ran hybu'r hyn sydd ganddyn nhw i'w gynnig i dwristiaid," meddai.
"Mae Llywodraeth Cymru wedi gwneud hi'n glir i Amgueddfa Cymu bod angen gwella niferoedd ymwelwyr a chynyddu incwm ac fe allai hwn wedi bod yn gynhadledd ddefnyddiol iawn o ran hynny i'r cyfarwyddwr cyffredinol.
"Yn hytrach, fe benderfynodd yntau'n hunan-faldodus i refru'n afreolus, heb gynnig unrhyw beth adeiladol, oedd bron yn gyfystyr â rhefru pleidiol yn erbyn Prydeindod, Brexit, a nifer o faterion eraill y tu hwnt i faes gorchwyl y gynhadledd."
Dywedodd bod yr ymgyrch 'Britain is GREAT' wedi rhoi hwb gwerth £800m i economi Prydain, a bod Mr Anderson wedi gwastraffu cyfle i Amgueddfa Cymru gryfhau'r cysylltiadau gyda Visit Britain a hybu delwedd Cymru dramor.
"Yr hyn sy'n drist yw, yng nghanol y stranciau, fe allai fod wedi bod â nifer o bwyntiau diddordol am roi lle cryfach i Gymru o fewn yr ymgyrch farchnata, neu am ran yr amgueddfa yn cyflwyno staeon Prydain. Fodd bynnag, roedd yn well ganddo golli'r gynulleidfa a'i ddylanwad."

Adlewyrchu amrywiaeth

Mewn ymateb i'r feirniadaeth, dywedodd Mr Anderson ei fod wedi cysylltu gyda swyddfa Suzy Davies a chynnig i'w chyfarfod er mwyn trafod ei phryderon.
"O ran bod yn niwtral, fe fyddwn yn dadlau nad dim ond ceidwaid goddefol y gorffennol ydy amgueddfeydd ond [sefydliadau] gyda rôl allweddol yn codi cwestiynau heriol ac ysgogi dadl," meddai.
"Ac fy rôl i fel cyfarwyddwr cyffredinol Amgueddfa Cymru yw ysgogi dadl.
"O fewn y cyd-destun hwnnw y gwnes i gyflwyno'r ddadl yn y gynhadledd bod angen ar frys ddiffiniad newydd a mwy cyfoes o Brydeindod lle mae llais Cymru'n cael ei glywed yn llawer iawn cryfach, ac sy'n adlewyrchu amrywiaeth diwylliannau a hunaniaeth cenhedloedd a rhanbarthau'r DU."
Ychwanegodd eu bod wedi cydweithio'n agos yn gyson gyda Visit Wales a Visit Britain i hybu Cymru ar draws y DU a thramor, ac i wneud y gorau o'r cyfleoedd i ddenu ymwelwyr i Gymru.
Wrth feirniadu araith David Anderson, fe gyfeiriodd Suzy Davies at niferoedd ymwelwyr Amgueddfa Cymru gan ddweud eu bod wedi gostwng dros 100,000 y flwyddyn - neu 6.4% - ers ei benodi'n gyfarwyddwr cyffredinol yn 2010.
Cyfeiriodd hefyd at weithredu diwydiannol gan staff, cynlluniau posib i uno Amgueddfa Cymru gyda Cadw, ac adroddiad gan gyn brif weithredwr Heritage England a gafodd ei gomisiynu gan Lywodraeth Cymru er mwyn helpu gwella perfformiad yr amgueddfa.
Ond mae Mr Anderson yn dweud bod Amgueddfa Cymru yn debygol o weld eu niferoedd ymwelwyr mwyaf erioed yn 2017-18, a bod eu perfformiad wedi torri sawl record yn ddiweddar.
Fe wnaeth 297,792 o bobl ymweld â saith amgueddfa'r sefydliad fis Awst y llynedd - y mis Awst gorau erioed yn hanes Amgueddfa Cymru, a chynnydd o 18.9% o'i gymharu ag Awst 2016.

No comments:

Post a Comment