Croeso!

Blog ar gyfer pobl sy'n dysgu Cymraeg yn ardal Aberteifi yw hwn. Mae'n cynnwys adnoddau ac erthyglau sy'n berthnasol i'n dosbarthiadau sgwrsio. Byddwn ni'n trafod ystod eang o destunau yn ystod y flwyddyn (garddio, byd y natur, byd busnes a gwaith, hanes lleol, coginio, tafodiaith, barddoniaeth i enwi ond rhai o'r pynciau) gan edrych ar wahanol fathau o'r iaith. Croeso i bawb sydd am ddatblygu eu sgiliau Cymraeg.

Wednesday 28 February 2018

Prosiect i ddenu ymwelwyr i Gymru ac Iwerddon

Diolch i BBC Cymru Fyw am yr erthygl hon.

Annog ymwelwyr i grwydro ardaloedd llai adnabyddus yng Nghymru ac Iwerddon yw nod prosiect newydd gwerth €2m.
Mae prosiect y Llwybrau Celtaidd wedi derbyn €1.6m o arian o goffrau yr Undeb Ewropeaidd ac yn targedu ymwelwyr tebyg i'r rhai sydd wedi mynd i Ddulyn dros y penwythnos ar gyfer y gêm yn erbyn Iwerddon.
O dan arweiniad Cyngor Sir Gaerfyrddin, bydd y prosiect yn canolbwyntio ar ardaloedd yn Sir Gâr, Sir Benfro a Cheredigion yng Nghymru a Waterford, Wicklow a Wexford yn Iwerddon.
Y nod yw troi ardaloedd mae pobl yn gwibio trwyddynt fel arfer i fod yn ardaloedd twristiaeth newydd, gan annog ymwelwyr i dreulio mwy o amser ynddyn nhw a manteisio ar gyfleoedd i roi hwb i economïau lleol.

'Sbarduno'r economi'

Dywedodd y Gweinidog Diwylliant, Twristiaeth a Chwaraeon, Dafydd Elis-Thomas: "Mae Llwybrau Celtaidd yn esiampl wych o'r ffordd y gallwn ddefnyddio arian yr UE i helpu ardaloedd trawsffiniol yn Iwerddon a Chymru trwy annog ymwelwyr i fwynhau golygfeydd, croeso a diwylliant ardaloedd heblaw'r cyrchfannau gwyliau mwyaf poblogaidd bob tro.
"Trwy helpu i gynyddu nifer yr ymwelwyr, bydd y prosiect yn sbarduno'r economi ac yn creu ac yn diogelu swyddi yn y sectorau diwylliant, treftadaeth a thwristiaeth.
"Yng ngoleuni Brexit, mae hi nawr yn bwysicach nag erioed ein bod yn cefnogi ac yn dathlu'r ddolen Geltaidd gref rhwng y ddwy wlad."
Llynedd cafodd prosiect Ffordd Cymru ei lansio - sef prosiect 10 mlynedd i ddathlu'r amrywiaeth o lwybrau sydd ar gael yng Nghymru.


No comments:

Post a Comment