Croeso!

Blog ar gyfer pobl sy'n dysgu Cymraeg yn ardal Aberteifi yw hwn. Mae'n cynnwys adnoddau ac erthyglau sy'n berthnasol i'n dosbarthiadau sgwrsio. Byddwn ni'n trafod ystod eang o destunau yn ystod y flwyddyn (garddio, byd y natur, byd busnes a gwaith, hanes lleol, coginio, tafodiaith, barddoniaeth i enwi ond rhai o'r pynciau) gan edrych ar wahanol fathau o'r iaith. Croeso i bawb sydd am ddatblygu eu sgiliau Cymraeg.

Thursday, 4 January 2018

Tecwyn Ifan - Cerdded mlaen

Roedd mynyddoedd y Preselau
Fel tadau mwyn i mi,
Rhain ydoedd fy hoffus ffrindiau i,
Bryd hynny ro’n i’n ifanc
A phur ydoedd fy nghân,
Minnau megis newydd gynnau’r tân.

Ond rwy’n dal i gerdded mlaen,
Dal i gerdded mlaen,
Am fod rhai yn dal i ‘ngharu,
Rwy’n dal i gerdded mlaen.

Dechreuais innau gerdded,
Cerdded ar fy nhaith,
Dros y bryniau teg, ’rhyd dolydd llaith,
Profais oriau tywyll,
Brwydrau gwaedlyd fu,
Trosof aeth ’na rai trwy’r angau du.
Ond rwy’n dal i gerdded mlaen ….

A nawr ar fy hen lwybrau
Fe dyf y glaswellt hir tyf - tyfu
Ac ni allaf bellach grwydro’r tir,
Paid a chynnig cymorth
I hen wraig ar ffo,
’Mond dy fywyd cyfan wnaiff y tro.
Ond rwy’n dal i gerdded mlaen ….

Mae bywyd yn y canu,
Ond marw yw y gân,
Dyna ofid yr hen wreigen lân, gwreigan - hen fenyw fach
Ond pan drodd y Cymry ati
Fe ganfu hi ei hedd
A throdd hithau’n ieuanc hardd ei gwedd.
Ac mae’n dal i gerdded mlaen ,
Dal i gerdded mlaen,
Am fod rhai yn dal i’w charu,
Mae’n dal i gerdded mlaen. x2

No comments:

Post a Comment