Daeth i mi mewn breuddwyd, daeth y feinwen lân, meinwen - cariadferch
Torrodd drysau melys cwsg i adrodd im ei chân,
Galwad ddaeth im gwely clud a’r nos yn wlyb ac oer,
Gwelais hi yn dawnsio’n ffri ar belydrau’r lloer ffri - rhydd
Gan ddweud:
Tyrd lle mae’r awyr yn burach,
Y tiroedd yn lasach,
Lle cana’r adar mwyn i gyd yn iach,
Yno mae heddwch
A hudol brydferthwch
A chysur clud i’r corff cyn mynd i’r llwch.
Cwmwl ddaeth yn llen i’r lloer a’i belydrau aur,
Ni welswn mwy y feinwen deg na sibrwd mwyn ei gair,
Trois yn ôl i drwmgwsg hir i wlad y Tylwyth Teg
Ac anghofiais sain y gân a'r sain oedd yn bêr.
Cytgan
Anghofiais lle’r oedd yr awyr yn burach …
Pan ddaeth newydd wawr dros fyd a’r nos yn cilio draw,
Minnau’n cyfarch haul y dydd tra chiliai cysgod braw,
Gwelais ar y gorwel pell fy mreuddwyd ferch mor rhydd,
Angel Cymru Newydd oedd yn dod i hawlio’i dydd.
A’r dydd hwnnw roedd yr awyr yn burach …
Cytgan
No comments:
Post a Comment