Diolch i Golwg360
Bydd Yr Ysgwrn ger Trawsfynydd, cartref y bardd Hedd Wyn, yn ail agor
i’r cyhoedd heddiw wedi gwaith adnewyddu ar y tŷ ac adeiladau’r fferm.
Daw’r agoriad union 100 mlynedd ers seremoni’r Gadair Ddu yn
Eisteddfod Penbedw 1917 – Hedd Wyn oedd wedi ennill y Gadair ond cafodd
ei ladd ychydig ddyddiau cyn yr eisteddfod.
Am flynyddoedd bu nai’r bardd, Gerald Williams, yn croesawu
ymwelwyr i’r Ysgwrn yn anffurfiol ond bellach mae’r cartref yn amgueddfa
a chanolfan treftadaeth swyddogol.
Dan ofal cadwraethwyr a staff Awdurdod Parc Cenedlaethol Eryri
ac wedi ei ariannu gan grant £3,081,000 Gronfa Treftadaeth y Loteri, mae
hen gartref y bardd wedi’i weddnewid.
Gwedd newid
Yn yr Ysgwrn ei hun, mae creiriau’r gegin a’r cadeiriau wedi cael eu glanhau ac mae wal y parlwr wedi cael ei hail-bapuro.
Hefyd mae Cadair Ddu Penbedw wedi cael stafell ar ei phen ei hun
lawr staer ar ôl cael ei hadfer yn fanwl gan grefftwr o Sir Gâr.
Cost mynediad fydd £5.75 i oedolion, £4.50 i’r rheiny sydd wedi
ymddeol, a £3 i blant, ac yn ôl rheolwyr y safle mae’n rhaid trefnu o
flaen llaw os ydych am ymweld ym mis Mehefin (oherwydd prysurdeb
cychwynnol.)
No comments:
Post a Comment