Mae un o brydau traddodiadol Cymru wedi bod yn llwyddiannus wrth wneud cais am statws gwarchodedig.
Mae'r saig yn cael ei wneud o wymon Nori, sy'n cael ei gasglu ar arfordir Cymru.
Bydd y bwyd yn ymuno a chynnyrch fel halen môr o Ynys Môn, tatws newydd o Sir Benfro a chig oen Cymreig, sydd eisoes wedi derbyn y statws.
Mae'r statws yn cydnabod bwydydd sy'n cael eu cynhyrchu, eu prosesu a'u paratoi mewn ardal benodol gan ddefnyddio arbenigedd cydnabyddedig.
Mae 80 o gynhyrchion wedi eu diogelu yn y DU, sy'n cynnwys bwydydd, gwinoedd, cwrw, seidr, gwirodydd a gwlân ar hyn o bryd.
Ham Caerfyrddin
Diolch i lleol.cymru am y stori hon.
Mae cigydd o Gaerfyrddin wedi derbyn plac yn hysbysebu statws gwarchodedig ei rysáit teuluol traddodiadol ar gyfer ham enwog Caerfyrddin.
Cafodd y Cigydd Albert Rees o Farchnad Dan Do Caerfyrddin statws Dynodiad Daearyddol Gwarchodedig (PGI) gan yr Undeb Ewropeaidd yn ddiweddar am ei Ham Caerfyrddin.
Ymwelodd
Lesley Griffiths, Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Amgylchedd a Materion
Gwledig, â Marchnad Caerfyrddin ddydd Gwener diwethaf yng nghwmni'r
Cynghorydd David Jenkins, Aelod o Fwrdd Gweithredol Cyngor Sir
Caerfyrddin sy'n gyfrifol am farchnadoedd, i gyflwyno'r plac.
Mae PGI yn
un o dri dynodiad Ewropeaidd a grëwyd i ddiogelu bwydydd rhanbarthol
sy'n cynnwys safon, enw da neu nodweddion eraill sy'n gysylltiedig â'r
ardal honno. Mae'n fath o Nod Masnach ac mae'n atal gweithgynhyrchwyr
o'r tu allan i'r rhanbarth rhag efelychu cynnyrch rhanbarthol a'i werthu
fel y cynnyrch rhanbarthol hwnnw.
Sefydlwyd
busnes Albert Rees ym 1962 gan Albert a Brenda Rees. Ym 1989, cymerwyd
yr awenau gan Chris ac Ann Rees ar ymddeoliad rhieni Chris ym
Marchnadoedd Caerfyrddin a Doc Penfro wrth i'w frawd Jonathan a'r teulu
gymryd gofal o'r busnesau yn Abergwaun ac Aberhonddu.
Cyfrinach
Mae'r
rysáit teuluol ar gyfer yr ham, sy'n blasu'n debyg i ham Parma, yn
gyfrinach fawr, ond mae'r broses sylfaenol yn cynnwys halltu'r ham a'i
sychu am gyfnod o rhwng naw mis a blwyddyn. Ei dad Albert wnaeth
berffeithio'r rysáit ar gyfer ham Caerfyrddin yn y 1960au, mewn ymateb i
gais gan gwsmer.
Mae'r
halltu'n cael ei wneud mewn adeilad pwrpasol sydd wedi'i addasu yn eu
cartref, ac mae Chris yn amcangyfrif bod ganddo tua 300 o hamiau ar
wahanol gyfnodau o'r broses halltu.
O
ganlyniad mae'r ham bellach yn ddanteithfwyd Cymreig, ac wedi cipio
amrywiol wobrau ac ymddangos mewn bwytai ar ffurf salad, wedi'i lapio o
gwmpas asbaragws, yn cael ei weini gyda melon ac mewn nifer o fwydydd
eraill. Gellir olrhain pob darn i gartref Chris ac Ann, lle mae'r ham
yn cael y gofal gorau bob dydd.
Nid Ham
Caerfyrddin yw'r unig gynnyrch cartref sy'n cael ei werthu gan Chris ac
Ann. Maent hefyd yn gwerthu bacwn, ffagots, brôn, brisged ac amrywiaeth o
gigoedd wedi'u coginio gartref.
Dywedodd
Chris Rees: "Rydym yn falch iawn o fod wedi ennill y statws hwn i'r
teulu cyfan ac rydym hefyd am roi Marchnad Caerfyrddin yn ei chyfanrwydd
ar y map."
"Mae wedi
cymryd chwe blynedd i ennill y statws hwn. Dechreuodd yr ymgyrch pan
brynodd un o swyddogion Safonau Masnach y Cyngor ham rhad a werthwyd fel
Ham Caerfyrddin. Gwyddai fod Ham Caerfyrddin yn gynnyrch o safon ond
nid oedd dim byd y gallai ei wneud. Awgrymodd ein bod yn ceisio cael y
statws hwn i warchod ein cynnyrch."
Dywedodd y
Cynghorydd Jim Jones, yr Aelod o'r Bwrdd Gweithredol dros y
Gwasanaethau Amgylcheddol: "Rwy'n falch iawn dros y teulu Rees ac mae'r
wobr yn brawf i'r gwaith caled y mae’r teulu wedi'i wneud yn cynhyrchu
cynnyrch o safon.
"Rwyf hefyd yn falch bod y Safonau Masnach wedi gallu helpu drwy awgrymu gwneud cais am statws gwarchodedig."
Rhannu llwyddiant
Dywedodd y
Cynghorydd David Jenkins, yr Aelod o Fwrdd Gweithredol y Cyngor sy'n
gyfrifol am farchnadoedd: "Mae'n gyflawniad gwych i Chris ac Ann. Rwy'n
gobeithio y bydd eu llwyddiant a safon y cig y maen nhw'n ei werthu yn
denu mwy o bobl i Farchnad Caerfyrddin ac y bydd masnachwyr eraill yn
rhannu eu llwyddiant."
Dywedodd
Lesley Griffiths, Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Amgylchedd a Materion
Gwledig: "Roeddwn wrth fy modd o gael ymweld â busnes Albert Rees ym
Marchnad Caerfyrddin a chyflwyno plac haeddiannol iawn i Chris ac Ann
sy'n nodi eu llwyddiant i gael statws PGI ar gyfer Ham Caerfyrddin.
“Mae hyn
yn newyddion gwych i'r cynnyrch ac i Gymru. Mae hefyd yn arwydd o'n
hymrwymiad ni, yn Llywodraeth Cymru, i gefnogi cynnyrch Cymreig o'r radd
flaenaf a chydnabod ei ansawdd unigryw."
No comments:
Post a Comment