Croeso!

Blog ar gyfer pobl sy'n dysgu Cymraeg yn ardal Aberteifi yw hwn. Mae'n cynnwys adnoddau ac erthyglau sy'n berthnasol i'n dosbarthiadau sgwrsio. Byddwn ni'n trafod ystod eang o destunau yn ystod y flwyddyn (garddio, byd y natur, byd busnes a gwaith, hanes lleol, coginio, tafodiaith, barddoniaeth i enwi ond rhai o'r pynciau) gan edrych ar wahanol fathau o'r iaith. Croeso i bawb sydd am ddatblygu eu sgiliau Cymraeg.

Friday 12 May 2017

Mam Merched y Wawr

Diolch i BbC Cymru Fyw am yr erthygl hon.

Wrth i fudiad Merched y Wawr ddathlu ei ben-blwydd yn 50 efallai y bydd rhai'n synnu i glywed mai Saesnes oedd sylfaenydd y mudiad Cymreig yma.

Zonia Bowen o Sir Efrog oedd yn bennaf gyfrifol am ddechrau'r mudiad ar ôl iddi symud i fyw i bentref bach gwledig y Parc ger y Bala ynghanol y chwedegau.

Pan glywodd hi bod cangen o Sefydliad y Merched - y WI - yn cael ei sefydlu yno roedd hi'n meddwl y byddai'n gyfle da i ymarfer ei Chymraeg a dod i adnabod menywod y pentref yn well.

Ond pan ddywedwyd wrth yr aelodau mai Saesneg oedd iaith y sefydliad ac nad oedd modd iddyn nhw gael ffurflenni a gwaith papur yn Gymraeg fe heriodd hi hynny ac aethon nhw ati i greu cangen Gymraeg.
Mae Zonia a rhai o'r aelodau cyntaf eraill yn y Parc, Sylwen Lloyd Davies a Lona Puw, yn dweud sut y trodd y gangen honno yn fudiad cenedlaethol mewn cyfres newydd ar Radio Cymru.
  
Gweld o'r tu allan

Efallai fod y ffaith ei bod yn dod o'r tu allan i Gymru yn golygu ei bod yn fwy parod i herio'r drefn meddai Zonia Bowen wrth Cymru Fyw:

"Pe buaswn i wedi cael fy magu yn Gymraes, efallai y baswn i wedi cymryd pethau yn ganiataol fy hunan.

"Doedd y merched yn y Parc, y rhan fwyaf ohonyn nhw, ddim yn sylweddoli bod y Gymraeg mewn perygl a ddim yn hidio.

"Roedden nhw'n ei chymryd yn ganiataol. Doedd dim byd yn y Parc oedd yn Saesneg o gwbl ond roedden nhw jyst yn cymryd hwn fel y sefyllfa, fod y Gymraeg yn ddiogel."

Cyfnod o brotest

Yn wreiddiol o Sir Efrog, roedd Zonia wedi dysgu Cymraeg ar ôl dod i'r brifysgol ym Mangor.

Roedd hi'n briod â'r bardd a'r archdderwydd Geraint Bowen a'r ddau yn magu teulu mewn cyfnod lle roedd pobl ifanc yn protestio.

Bum mlynedd cyn sefydlu'r gangen gyntaf yn y Parc roedd Saunders Lewis wedi traddodi ei ddarlith radio enwog, Tynged yr Iaith, oedd yn darogan marwolaeth yr iaith os nad oedd newid mawr yn digwydd.

"Roedd sawl peth yn effeithio arna' fi pryd hynny," meddai Zonia.

"Un oedd agwedd Geraint, roedd e'n frwdfrydig iawn dros y Gymraeg. Cymreictod oedd popeth iddo fe. Dwi'n synnu weithiau ei fod wedi dewis priodi Saesnes i fod yn onest!

"Ond hefyd beth oedd yn digwydd yn y gymdeithas o gwmpas - Saunders Lewis ac araith Tynged yr Iaith ac Eileen Beasley yn gwrthod talu treth incwm nes cael ffurflenni yn Gymraeg a Chymdeithas yr Iaith yn brwydro dros lot fawr o bethe'.

"Ac roeddwn yn teimlo, pe baen ni yn y Parc yn mynd i dderbyn bod y WI yn Saesneg i gyd ein bod ni'n gadael yr ochr i lawr fel petai."

Ymddiswyddo dros grefydd

Mae'r stori am sefydlu'r mudiad yn y Parc yn cael ei dweud hefyd yn hunangofiant Zonia Bowen, 'Dy bobl di fydd dy mhobl i' (Y Lolfa).

Yn y gyfrol mae hi'n datgelu hefyd mai crefydd oedd y rheswm iddi ymddiswyddo fel Llywydd y mudiad ar ôl 10 mlynedd.

Roedd Zonia yn anffyddwraig ac roedd Merched y Wawr wedi ei sefydlu fel mudiad seciwlar, di-grefydd.

Ond dywed fod rhai aelodau wedi "defnyddio llwyfannau a threfniadau swyddogol y mudiad i hyrwyddo eu crefydd hwy [Cristnogaeth] a rhai pobl eraill yn teimlo eu bod nhw'n cael eu cau allan o rai o'r cyfarfodydd o'r herwydd."

Ymateb i'r angen

Doedd Zonia ddim yn disgwyl i'r mudiad wnaethon nhw ei sefydlu bara: "Sylweddolais fod Merched y Wawr yn ymateb i'r angen a oedd yn bodoli ar y pryd, ond y byddai angen mudiad o fath arall o bosibl yn y dyfodol, a byddai'n rhaid derbyn hynny.

"Nid y mudiad ei hun a oedd yn bwysig ond y math o waith roedd yn gallu ei gyflawni tuag at ddyfodol yr iaith Gymraeg a'i ffyniant ar dafodau mamau a merched o bob oed," meddai.

"Efallai bod merched yn edrych ar Merched y Wawr fel rhywbeth i hen wragedd, rhywbeth hen ffasiwn - oni'n sylweddoli ar y dechrau y buasai hynny efallai'n digwydd ac y buasai angen rhywbeth mwy modern i Gymru."

Ond mae'r mudiad yn dal i fynd 50 mlynedd yn ddiweddarach a chlybiau Gwawr hefyd wedi eu sefydlu bellach.

Cyfrifoldeb y Cymry Cymraeg

Fe ddysgodd Zonia Bowen Gymraeg fel myfyrwraig ifanc o Loegr am ei bod "eisiau bod yn rhan o bethau" pan sylweddolodd fod y rhan fwyaf o'i ffrindiau yn siarad Cymraeg a hithau'n teimlo "allan ohoni".

"Dwi'n credu mai dyna be' sy'n bwysig heddiw, bod pobl ddi-Gymraeg eisiau bod yn rhan o'r bywyd Cymraeg felly mae fyny i'r Cymry wneud y bywyd Cymraeg mor ddiddorol bod pobl eisiau bod yn rhan o hynny," meddai.

"Mae'r Cymry yn rhy dueddol o roi mewn a dechre siarad Saesneg os bydd grŵp o bobl i gyd yn siarad Cymraeg ond un.

"Ond pe bai fy ffrindiau ddim wedi parhau i siarad Cymraeg falle' na faswn i wedi mynd ati fy hunan i ddysgu Cymraeg. Felly dwi'n teimlo ei bod hi fyny i'r Cymry Cymraeg eu hunain.
"Mae'n anodd iawn i bobl sydd ddim yn frwdfrydig dros y Gymraeg sylweddoli bod rhaid gwneud rhywbeth pendant i wneud rhywbeth yn Gymraeg," meddai.

Mae'r gyfres o ddwy raglen yn trafod y cyfnod cynnar yn 1967 a gwaith y mudiad tu hwnt i hynny wrth iddi nodi 50 mlwyddiant yn 2017.

Siaradodd Cymru Fyw gyda Zonia Bowen yn wreiddiol yn 2015.


No comments:

Post a Comment