Croeso!

Blog ar gyfer pobl sy'n dysgu Cymraeg yn ardal Aberteifi yw hwn. Mae'n cynnwys adnoddau ac erthyglau sy'n berthnasol i'n dosbarthiadau sgwrsio. Byddwn ni'n trafod ystod eang o destunau yn ystod y flwyddyn (garddio, byd y natur, byd busnes a gwaith, hanes lleol, coginio, tafodiaith, barddoniaeth i enwi ond rhai o'r pynciau) gan edrych ar wahanol fathau o'r iaith. Croeso i bawb sydd am ddatblygu eu sgiliau Cymraeg.

Friday 12 May 2017

Ap neu ferch?

BBC Cymru Fyw sy'n esbonio hanes cyfenwau Cymreig.

Ydych chi'n gwybod o ble mae eich cyfenw chi'n dod?

Yn ôl yr ystadegau mae'r rhan fwyaf ohonon ni'n Jones, Williams, Davies ac Evans a'r cyfenwau yma'n cael eu hystyried yn rhai nodweddiadol o'r Cymry.

Ond enwau eithaf diweddar ydy'r rhain mewn gwirionedd - mae ein henwau traddodiadol yn llawer hŷn a mwy amrywiol  [=varied]

Y ffordd fwyaf traddodiadol o enwi yng Nghymru ydy'r ffordd 'batronymig' sy'n dangos achau - sef rhoi enw bedydd [=baptismal name] y tad yn ail enw i blentyn drwy gynnwys 'ap' neu 'ab' (talfyriad [abbreviation] o 'mab') i fechgyn a 'ferch' neu 'ach' i ferched.

Maen nhw'n fwy prin erbyn hyn ond fe ddylen ni eu defnyddio gyda balchder, meddai Siân Llywelyn Ferch Elfed.

'Casáu'r enw'

Fe wnaeth hi guddio ei henw traddodiadol am flynyddoedd.

Roedd yr athrawes o Benrhyndeudraeth yn galw ei hun yn Siân Roberts, ond nid dyna'r enw ar ei thystysgrif geni.

Fe gafodd Siân a'i chwaer Catrin eu henwi'n 'ferch Elfed' yn y ffordd Gymreig, sef ar ôl enw cyntaf eu tad, Elfed Roberts.

Ond doedd Catrin ddim yn hoffi ei henw ac yn defnyddio cyfenw'r teulu, Roberts, yn lle. Fe ddilynodd Siân ei chwaer hŷn drwy ei chyfnod yn yr ysgol.

"Roedd hi'n casáu'r enw," meddai Siân.

"Gan ei bod hi saith mlynedd yn hŷn na fi a finna' wedi fy nylanwadu dipyn go lew ganddi, ro'n i wedi cael fy argyhoeddi [=persuade, convince]bod yr enw ddim yn un i'w arddel [to own to, acknowledge]  ddim yn un i ddweud wrth y byd amdano fo.

"Doedd 'na neb arall roeddan ni'n ei adnabod efo enw tebyg - roedd pawb arall yn Jones neu'n Davies. Roedd yr enw mor wahanol."

Pang o euogrwydd

Ond wrth fynd yn hŷn fe newidiodd Siân ei meddwl.

"O'n i'n teimlo mod i'n amharchu [=disrespect] dad wrth beidio arddel ei enw fo.

"Ges i ryw bang o euogrwydd [guilt] ryw ddiwrnod a meddwl 'Duw annwyl dad, dyna ydy'n enw fi, pam nad ydwi'n ei ddefnyddio fo?' felly mi newidiais i o ar Facebook ac wedyn roedd pawb yn gwybod!

"Mi ddechreuais i gwestiynu fy hun pam nad o'n i'n ei ddefnyddio fo achos mae'n cynnwys enw nhad ac enw taid - Llywelyn oedd taid - felly pam ddim ei arddel o? Dyna ydy'n enw fi. Enw wedi ei Seisnigo ydy Roberts."
  
Cyfuniad unigryw

Cyn i Gymru ddod o dan gyfraith Lloegr a gorfod cofnodi enwau yn y dull Saesnig, roedd yr enwau traddodiadol yn ffordd o ddangos achau a pherchnogaeth tir meddai'r darlithydd hanes Dr Nia Powell.

"Yn aml iawn, byddai tri enw neu fwy yn cael ei roi fel hyn," meddai Dr Powell, er enghraifft Gruffydd ap Llywelyn ap Cynan.

"Byddai'n weddol brin cael yr un cyfuniad [combination] ac felly roedd yn rhoi enw go unigryw.

"Roedd hyn yn gwneud achau rhywun yn amlwg iawn ac roedd hynny'n bwysig er mwyn dangos yr hawl i etifeddu tir."

Roedd hyn yn arferiad cyffredin tan y 15fed ganrif. Wedyn dechreuodd uchelwyr Cymru ddefnyddio'r dull oedd yn cael ei ddefnyddio yn Lloegr o roi cyfenw teuluol parhaol a threiglodd hyn i weddill y boblogaeth erbyn y 19eg ganrif.

Felly byddai enw fel Rhys ap Gruffudd yn troi'n Rees Griffiths.

Ab Owen

Ond wnaeth yr 'ap' ddim diflannu'n llwyr chwaith - cael ei addasu wnaeth o.

"Mae rhai enwau wedi eu ffosileiddio mewn cyfenwau fel Powell - ap Hywel; ap Huw wedi mynd yn Puw; ap Robert yn Probert; ap Richard yn Pritchard ac yn y blaen," meddai Nia Powell.

'Ab' oedd y ffurf cyn enw gyda llafariad felly mae Bevan, Bifan, Bowen, Beynon a Bennion (o ab Einion) yn dod o'r un broses hefyd.

Y 'Mac' Gwyddelig

Mae'r un traddodiad mewn cyfenwau sy'n cychwyn efo 'Mac' yn Iwerddon a'r Alban sy'n dod o'r un gair â 'mab', meddai Dr Powell.

Mae'r un traddodiad yn bodoli mewn nifer o wledydd eraill fel Sgandinafia a Gwlad yr Ia a hefyd yn y Dwyrain Canol - yr un ystyr sydd i 'ibn' a 'bin', fel yn enw Osama bin Laden.

Ychwanegu 's' ar ddiwedd enw yw'r hen ffordd batronymig Saesneg hefyd.

Ond nid dyma'r unig ffordd draddodiadol o enwi.

Mae'r arferiad o ddefnyddio enw sy'n disgrifio person yn mynd yn ôl yn bell, meddai Nia Powell.

"Os oeddech chi'n bryd [complexion] tywyll, fe allech chi gael yr enw Du, os oedd ganddoch chi wallt coch, fe allech chi fod yn Goch ac os oeddech chi'n berson addfwyn, ffeind, mi gaech chi'r enw Annwyl."

Daw Gethin hefyd o Cethin, sy'n golygu tywyll.

"Mae nifer o'r cyfenwau Cymraeg hyn sy'n ddisgrifiad corfforol wedi goroesi yn Saesneg e.e. goch wedi troi'n Gough, melyn yn Mellings, du yn Dee er enghraifft John Dee, Llwyd yn Lloyd a hefyd tew o bosib yn troi'n Dew," meddai.

Enwi ar ôl eich swydd

Mae rhai o'n cyfenwau yn dod o enw sy'n deillio [stem from] o alwedigaeth benodol.

"Roedd hyn yn fwy cyffredin yn Saesneg," meddai Nia Powell (e.e. Archer, Baker, Butcher) "ond mae 'na enghreifftiau Cymraeg hefyd e.e. Gof - o bosib wedi troi'n Gove yn Saesneg."

Mae'n bosib hefyd mai o'r un ystyr yn un o'r ieithoedd Celtaidd, fel Hen Wyddeleg, y daw Gove.

Mae nifer o enwau hefyd ar ôl llefydd e.e. Trefor, Aethwy, Pennant a Prysor.

Daw'r enw Nanney o blasty Nannau ger Dolgellau a Lougher o Gasllwchwr.

Beth am y fam?

Prin ydy'r enghreifftiau o enwi ar ôl y fam yn Gymraeg, meddai Dr Powell, ond roedd 'na rai, yn enwedig fel llysenwau.

"Mae gen i lyfr sy'n rhestru pwy oedd yn talu trethi Edward y cyntaf adre," meddai Siân Llywelyn Ferch Elfed, "ac mae'r enwau yn wirioneddol anhygoel.

"Enwau fel Urien Farfgoch ap Gwerfyl - bron iawn fel llysenwau yn disgrifio sut oedd rhywun yn edrych.

"Ac roedd enw'r fam yn cael ei ddefnyddio weithiau yn hytrach nag enw'r tad, dwi ddim yn gwybod a oedd hynny'n golygu fod gan y ferch statws, fod y tad 'di marw neu nad oedd na dad?

"Dwi ddim yn awgrymu am funud bod ni'n mynd nol i enwi fel'na ond pam ddim defnyddio 'ap' neu 'ferch' os mai dyna'r traddodiad?"

Câi'r lleidr penffordd Twm Siôn Cati ei adnabod ar ôl ei fam, Cati Jones, hefyd.
Fe barhaodd y traddodiad o enwi ar ôl y tad heb yr ap neu ab neu ach mewn ffyrdd eraill hefyd: "Yng nghyfrifiad 1841 ac 1851 er enghraifft yn lle bod Robert yn cael ei gofrestru yn fab i John Davies, byddai'n cael ei gofrestru fel Robert Jones.

"Byddai ei blant yntau wedyn yn rhywbeth Roberts," meddai Nia Powell.

Mae'r traddodiad o roi enw bedydd y tad yn ail enw ar blentyn, heb 'ap' neu 'ach', yn gyffredin hefyd y dyddiau hyn.



No comments:

Post a Comment