Ffaelu aros! S4C. Nos Sul am 9.00
Mae cyfrinachau a chelwyddau yn dod i’r wyneb wrth i frodyr a chwiorydd
ddod ynghyd i daenu llwch eu mam, Mair ac i drafod dyfodol y cartref
teuluol. Croeso i Dolwen – hen dŷ mawreddog sy’n lleoliad i’r gyfres
newydd o’r ddrama ddirgel 35 Diwrnod,sy’n dechrau nos Sul, 5 Mawrth.
Dyma gyfres sydd wedi ei hysgrifennu gan yr awdures Siwan Jones, lle
rydym yn gwybod pwy sydd wedi’i llofruddio ond pwy o blith y teulu sy’n
gyfrifol am hyn? A pham? Dros gyfnod o 35 diwrnod, mae tyndra a
thristwch chwerw yn datblygu o fewn waliau’r hen ffermdy, sydd yn y
pendraw yn arwain at farwolaeth Ifan, brawd ieuenga’r teulu sy’n cael ei
chwarae gan yr actor Gwydion Rhys.
Dyw teulu fferm Dolwen ddim wedi bod o dan yr un to ers dathlu
pen-blwydd eu diweddar dad Gwyndaf, bum mlynedd ynghynt. Bydd sawl
breuddwyd yn chwalu’n deilchion wrth i’r plant amau bod eu hewythr Huw
wedi dwyn perswâd ar eu mam i newid ei hewyllys. Wrth iddyn nhw ei herio
a mynnu cael y tir yn ôl, mae trais a chenfigen yn lledu cysgod tywyll
dros fferm Dolwen.
“Doeddwn i ddim am wybod pwy oedd yn gyfrifol am lofruddio Ifan tan y
funud olaf,” meddai Gwydion Rhys, sy’n dod o Felinfach, Bro Preseli ac
yn wyneb cyfarwydd ar gyfresi drama fel Tir a Cara Fi. “Weithiau mae
ffeindio mas misoedd o flaen llaw yn medru effeithio’r actio. Wrth adael
hwn tan y funud olaf, ro’n i wir yn teimlo y gallai unrhyw beth
ddigwydd. Fe wnaeth e’n sicr fy nghadw i on edge!”
“Roedd ffilmio’r gyfres yn gymaint o hwyl a chael chwarae rôl person
sy’n cael ei lofruddio yn gyffrous iawn. Mae’r stori i gyd am ddeinamig
deuluol ac mae digon o ddadlau rhwng y brodyr a’r chwiorydd ynglŷn â
phwy ddylsai etifeddu beth,” ychwanegodd Gwydion, sydd nawr yn byw yn
ardal Pontarddulais.
“Mae pwysau mawr ar ysgwyddau Ifan bob amser a dyw e ddim yn un i
leisio ei farn,” meddai Gwydion.”A gan ei fod e bob amser yn edrych wedi
blino ac o dan straen, ro’n i’n medru mynd i’r ystafell golur yn y bore
wedi blino a dyna oedd yr edrychiad ro’n i angen i chwarae cymeriad
Ifan!Mi roedden ni gyd fel actorion yn medru uniaethu gyda rhai o’r
themâu, mae teuluoedd i gyd yr un fath. Er, yn 35 Diwrnod mae ‘na
lofruddiaeth felly dyw bob teulu ddim cweit run fath!”
Y cwestiwn mawr ar wefusau pawb fydd pwy sy’n gyfrifol am lofruddio
Ifan a pham? Fe fydd digon o waith dyfalu a chraffu yn y gyfres newydd o
35 Diwrnod.
No comments:
Post a Comment