Croeso!

Blog ar gyfer pobl sy'n dysgu Cymraeg yn ardal Aberteifi yw hwn. Mae'n cynnwys adnoddau ac erthyglau sy'n berthnasol i'n dosbarthiadau sgwrsio. Byddwn ni'n trafod ystod eang o destunau yn ystod y flwyddyn (garddio, byd y natur, byd busnes a gwaith, hanes lleol, coginio, tafodiaith, barddoniaeth i enwi ond rhai o'r pynciau) gan edrych ar wahanol fathau o'r iaith. Croeso i bawb sydd am ddatblygu eu sgiliau Cymraeg.

Friday 3 March 2017

Cywirdeb 'yn atal rhai chwaraewyr' rhag siarad Cymraeg

Diolch i BBC Cymru Fyw am y stori isod.

Wrth i'r Gymraeg gael mwy o sylw nag erioed ym maes chwaraeon a darlledu mae cyn faswr [maswr - fly-half] Cymru, Jonathan Davies yn galw am fwy o anogaeth i'r rheiny sy'n llai hyderus yn eu Cymraeg.

Dywedodd bod rhoi pwysau ar bobl i siarad Cymraeg pur yn gwneud rhai chwaraewyr yn llai parod i arddel yr iaith.

Cafodd ei farn ei hategu [cadarnhau, cefnogi] gan y cyn bêl-droediwr, Owain Tudur Jones, sy'n dweud bod y sefyllfa'n debyg yn ei gamp o.

Daeth sylwadau Davies cyn cynhadledd yng Ngholeg Caerdydd a'r Fro i hyrwyddo dwyieithrwydd mewn chwaraeon.

'Pwysau'

Yn siarad ar raglen Newyddion 9 nos Iau, dywedodd Davies: "Fi'n trio siarad yn naturiol, 'smo'n Gymraeg i mor dda â lot o bobl ond dwi'n gwneud rhaglenni chwaraeon a newyddion chwaraeon yn Gymraeg.

"Os fi'n gallu neud a helpu'r iaith fi'n hapus i wneud hynny.

"Fi'n credu mae cymaint o bwysau... os yw pobl yn trio siarad Cymraeg mae'r bobl na sy'n meddwl bo nhw'n bwysig yn yr iaith Gymraeg yn tueddu dodi nhw lawr.




"A fi'n gwybod bod sawl chwaraewr ddim mo'yn siarad Cymraeg achos bo nhw'n meddwl bod nhw'n cael cymaint o bwysau arnyn nhw achos dyw pobl ddim yn meddwl bod eu Cymraeg nhw ddim yn ddigon pur.

"A fi'n credu byddech chi'n surprised pwy yw'r chwaraewyr 'na sydd ddim mo'yn siarad Cymraeg achos y pwysau hynny."

'Anghyfforddus'

Dywedodd y cyn bêl-droediwr, Owain Tudur Jones, bod y sefyllfa'n debyg yn y gamp honno.

"Dwi'n meddwl ei bod hi'n hawdd i fi, i bobl sy' wedi'u dwyn i fyny yn siarad yr iaith fel iaith gyntaf, ond dydy hi ddim mor hawdd i bobl sydd yn Gymraeg ail iaith," meddai.

"Yn y byd pêl-droed, dyna'n union dwi wedi'i weld. Ma' Joe [Allen] yn gyfforddus ofnadwy yn gwneud cyfweliadau'n Gymraeg rŵan, ond dwi'n gw'bod dros y blynyddoedd ei fod o ddim yn gyfforddus gwneud cyfweliadau'n Gymraeg achos ei fod o'n meddwl bod ei Gymraeg o ddim digon da. Aaron [Ramsey] 'run fath.


"Mi o'dd Aaron yn gwneud cyfweliadau'n Gymraeg pan oedd o'n chwarae i Gaerdydd. Ond iddo fo, yn anffodus, gael y profiad o bobl yn cywiro geiria', sut i siarad a gwneud iddo fo deimlo'n anghyfforddus, 'da ni rŵan mewn sefyllfa lle 'da ni ddim yn cael clywad o'n siarad yn ein iaith ni.


"Dydy o ddim y mwyafrif, ond yn anffodus oll mae'n gymryd ydy i un person dd'eud rwbath. Os ti ar Twitter ar ôl gêm bêl-droed a ma' 20 o bobl yn d'eud bod chdi'n 'briliant', ac un person yn d'eud fel arall, yn aml iawn un fela sy'n aros yn y cof."

'Tamed bach o slac'

Dywedodd Davies ei bod hi'n bwysig i bobl "feddwl am eraill" wrth fynd ati i newid y sefyllfa.

"Falle bod eu iaith nhw yn bur ac yn iawn ond sdim pawb fel nhw achos sdim pawb yn defnyddio'r iaith bob dydd," meddai.

"Os ydyn nhw mo'yn i'r iaith i gadw fynd a chryfhau'r iaith mae angen rhoi tamed bach o slac i bobl, a gweud os ydyn nhw'n fodlon siarad Cymraeg fel maen nhw'n hapus, wel dyna ni."

________________ 



Plismyn iaith ar waith?

Mae sylwadau'r cyn-chwaraewr rygbi Jonathan Davies am amharodrwydd [unwillingness] rhai pobl yn y maes chwaraeon i siarad Cymraeg wedi ennyn [kindle] ymateb chwyrn [heated] ymysg y Cymry. Fe ddywedodd 'Jiffy' bod cywirdeb yn atal rhai pobl rhag siarad Cymraeg. 

Ond ydy'r plismyn iaith yn bodoli i'r fath raddau, neu ai esgus ydy hyn i bobl roi gorau i siarad yr iaith?

Ar fore cynhadledd yng Nghaerdydd i hyrwyddo dwyieithrwydd mewn chwaraeon ddydd Iau, fe siaradodd Ian Gwyn Hughes, pennaeth cyfathrebu Cymdeithas Bêl-droed Cymru gyda'r Post Cyntaf am y rheswm pam nad ydy Aaron Ramsey - un o sêr y gamp - bellach yn defnyddio'r Gymraeg.

"Dwi'n meddwl mai mater o ddiffyg hyder ydy o efo Aaron," meddai. "Mi ddigwyddodd rhywbeth mewn cynhadledd gyhoeddus rhai blynyddoedd yn ôl ac mi wnaeth hynny effeithio ar ei hyder o.

"Mi yda ni wedi ceisio siarad efo Aaron am y peth sawl tro ond hira'n byd [the longer] mae'r peth yn mynd ymlaen, mwya'n byd [the more]  mae'n effeithio'r hyder. Ond i fod yn deg dydy Aaron ddim yn hoffi gwneud cyfweliadau yn Saesneg beth bynnag!"

Un sydd wedi chwarae gyda Aaron Ramsey ydy'r cyn-chwaraewr rhyngwladol Owain Tudur Jones.

"Yndi, mae o wedi digwydd," meddai Owain, wrth gyfeirio at bobl yn gwneud i chwaraewyr deimlo'n anghyfforddus wrth ddefnyddio'r Gymraeg. "Dyna pam o'n i'n cytuno efo geiria' Jonathan Davies.

"Efalla' ddylia ni wedi gwneud iddo fo deimlo'n fwy cyfforddus i 'neud cyfweliada' Cymraeg - a dwi ddim yn siarad am y bobl sy'n ei gyfweld o'n unig, ond efalla yn y byd Twitter. Mae'n hawdd i'r trolls dd'eud rwbath ac yn naturiol wedyn fel person, dim chwaraewr pêl-droed, mae Aaron yn eistedd adra ac ella'n meddwl: 
'Ydw i angan hyn yn fy mywyd?' A pam ddylia fo os ydy o'n gwneud iddo fo deimlo'n anghyfforddus.

"Mae Aaron yn byw bywyd mewn 'stafall newid lle mae 'na gymaint o ieithoedd eraill yn cael ei siarad ond yn amlwg mae o wedi cael ei 'neud i deimlo'n anghyfforddus siarad ei iaith ei hun. Dim fod hyn yn esgus hawdd iddo chwaith ond mi allith o fyw heb [y Gymraeg] felly ein colled ni ydy o."

Yn ôl gohebydd chwaraeon BBC Cymru, Dylan Griffiths, roedd adeg yn ystod Euro 2016 ble mai yn Gymraeg yn unig yr oedd Joe Allen yn fodlon gwneud unrhyw gyfweliad.

"Anogaeth ac nid beirniadaeth sydd ei angen," meddai.

'Trafodaeth ystyrlon'

Mae'r cyn-athro a'r ymgyrchydd iaith Ieuan Wyn o'r farn na ddylid "hyrwyddo [promote]  nac ymfalchïo [take pride in] mewn bratiaith" ac yn credu mai annog Cymraeg safonol sy'n bwysig.

"Mae 'na ffordd i fynd ynglŷn â'r peth," meddai. "Dydy pobl ddim yn sôn am ymosod [attack] ar unigolion. Creu sefyllfa sydd ei angen lle mae 'na agwedd fwy gadarnhaol [positive] ac mae'n rhaid bod yn sensitif iawn efo'r ffordd 'da chi'n mynd ati.

"Nid beirniadu unigolion ydy'r ateb, na tynnu sylw at ddiffyg yn gyhoeddus fel yna. Diffyg sensitifrwydd ydy hynny. Ond pan mae rhywun yn dibynnu ar dystiolaeth anecdotaidd mae'n anodd cael trafodaeth ystyrlon [meaningful] am y peth."

Bu Cymru Fyw hefyd yn siarad gyda'r person sy'n gyfrifol am gyfrifon Twitter a Facebook poblogaidd, B**ycs Cymraeg, sy'n aml yn dod ar draws pobl sy'n cywiro ei Gymraeg ar-lein.

"Pan mae pobl yn cael go ar B**ycs Cymraeg neu bobl eraill, mae'r ymateb yn 99 y cant o blaid pobl yn dweud bod yn well ganddyn nhw weld pobl yn defnyddio'r Gymraeg yn hytrach na chywirdeb yr iaith.

"Mae'r un person yna'n gallu 'neud lot o niwed. Ma' pobl yn mynd allan o'i ffordd i ddefnyddio'r Gymraeg. Os ydy'r BBC yn gwneud camgymeriad yna iawn, cael go arnyn nhw, maen nhw'n sefydliad ac maen nhw fod i gael safonau, ond munud mae rhywun yn ymyrryd [interfere] ym mywydau pobl go iawn... mae'n gallu rhoi pobl off."

Ond oes yna beryg bod sêr y maes chwaraeon yn chwarae i'r naratif bod y mwyafrif yn bychanu'r [belittle] bobl sydd ddim yn siarad Cymraeg 'perffaith'?

"Dydy o ddim y mwyafrif, ond yn anffodus oll mae'n gymryd ydy i un person dd'eud rwbath," meddai Owain Tudur Jones. "Os ti ar Twitter ar ôl gêm bêl-droed a ma' 20 o bobl yn d'eud bod chdi'n 'briliant', ac un person yn d'eud fel arall, yn aml iawn un fel'na sy'n aros yn y cof."



No comments:

Post a Comment