Yn ôl yr adroddiad yma gan Lywodraeth Cymru mae cylchrediad ein Papurau Bro yn 66 mil, bron ddwy-waith maint chylchrediad y Western Mail a'r Daily Post gyda'u gilydd, ac nid yw'r ffigyrau yn dangos cylchrediad pob papur bro chwaith, megis Y Bedol ac Y Gadlas (er fod ffigwr Y Fan a'r Lle i'w weld braidd yn amheus).
Wrth feddwl am ddiffygion y wasg Gymraeg, ydy'r ateb yn syllu yn syth atom yma?!
Yr Atom
Yn dilyn cais llwyddiannus i’r gronfa gyllid cyfalaf Canolfannau Iaith a Gofodau Dysgu, derbyniodd Prifysgol Drindod Dewi Sant grant o £355,000 tuag at sefydlu Canolfan Iaith yng nghalon tref Caerfyrddin. Agorwyd Yr Atom yn swyddogol gan y Prif Weinidog Hydref 2015.
Yn ogystal a’r caffi sydd bellach wedi ennill ei le ar restr Wales Online o’r llefydd gorau i fwyta yn Sir Gâr, mae’r Ganolfan yn gartref i Gylch Meithrin Myrddin, stiwdio radio Cymru FM a swyddfa Menter Iaith Gorllewin Sir Gâr.
Ers agor, mae Yr Atom wedi gwreiddio ei hun ym mhob rhan o fywyd y dref gan sicrhau fod cymdeithasau a sefydliadau sy’n ymwneud a hyrwyddo’r Gymraeg yn lleol yn cydweithio a chydgynllunio er budd y Gymraeg. Yn arbennig felly, mae’r Ganolfan yn rhoi’r cyfle i ddarparwyr rhaglenni addysgol Cymraeg yn yr ardal i gydgynllunio rhaglenni sydd wedi eu teilwra’n benodol at anghenion pobl tref Caerfyrddin a’r ardaloedd cyfagos megis:
- Trosglwyddo’r iaith a’r defnydd o’r Gymraeg o fewn y teulu
- Darparu gwasanaethau addysg
- Creu bwrlwm cymdeithasol a diwylliannol
- Dwyieithogi busnesau tref Caerfyrddin cyn dyfodiad Canolfan S4C, Yr Egin yn 2018.
No comments:
Post a Comment