Tachwedd 7, 2016 08:32 Diweddarwyd Tachwedd 8,
2016 07:21
Mae Cymdeithas yr Iaith Gymraeg wedi beirniadu
Llywodraeth Cymru yn hallt am beidio buddsoddi digon mewn cynyrchiadau ffilm yn
y Gymraeg.
Mae Cymdeithas yr Iaith Gymraeg wedi canfod
fod Llywodraeth Cymru wedi buddsoddi £40,000 yn unig mewn ffilmiau Cymraeg ers
2011 tra’n gwario £7 miliwn ar ffilmiau Saesneg, sy’n gyfystyr ag ychydig dan
1% o’r cyfanswm. [cyfystyr = o'r un ystyr, tantamount]
Yn 2014, sefydlwyd cyllideb ‘Buddsoddi yn y
Cyfryngau’ gwerth £30 miliwn dros gyfnod o bum mlynedd gan Weinidogion Cymru.
Mewn ymateb i gais Cymdeithas yr Iaith
Gymraeg, meddai’r Llywodraeth mai dim ond 0.57% o arian sydd wedi ei fuddsoddi
mewn ffilmiau Cymraeg, “Yn 2013/14, darparwyd £40,000 i gefnogi ffilmiau
cyfrwng Cymraeg a £452,009 ar gyfer ffilmiau cyfrwng Saesneg. Yn 2014/15,
darparwyd £3,852,784 ar gyfer ffilmiau cyfrwng Saesneg ac yn 2015/16 darparwyd
£2,704,516 i gefnogi ffilmiau cyfrwng Saesneg.”
Mewn llythyr at y Gweinidog sy’n gyfrifol am y
gronfa, Ken Skates, dywedodd Carl Morris, cadeirydd grŵp digidol Cymdeithas yr
Iaith Gymraeg, “Mae’n fater o gryn siomedigaeth bod ein Llywodraeth ni, sy’n
rhannol gyfrifol am hybu’r Gymraeg, yn gallu ffafrio’r Saesneg i’r fath raddau,
yn enwedig gan ystyried y dalent a gallu i greu ffilmiau Cymraeg o’r safon
uchaf yn y Gymraeg.”
Yn ôl Carl Morris, “Mae buddsoddiad o £7
miliwn dros 3 blynedd yn y Saesneg yn sylweddol iawn, ac mae’r £40,000 yn wir
yn slap yn y wyneb i’r rheini sydd eisiau cynhyrchu ffilmiau yn Gymraeg, y
diwydiant ffilm a theledu Cymraeg a chefnogwyr y Gymraeg yn fwy cyffredinol. Ni
ellid tanamcangyfrif pwysigrwydd y cyfrwng ffilm fel ffordd o hybu
diwylliannau, yn enwedig diwylliannau lleiafrifedig fel rhai cyfrwng Cymraeg.
[tanamcangyfrif - under-estimate]
Unioni’r
sefyllfa
[unioni - rectify, put right]
Mae Carl Morris yn galw ar Lywodraeth Cymru i
newid y sefyllfa, “Gofynnwn ni i chi ddatgan nad ydych chi’n fodlon â’r
ffigurau hyn ac eich bod yn mynd i gymryd camau er mwyn unioni’r sefyllfa yma
dros y blynyddoedd nesaf. Awgrymwn eich
bod yn clustnodi o leiaf 50% o’r gyllideb “Buddsoddi yn y Cyfryngau”, fel rhan
o gynllun ar wahân, ar gyfer prosiectau Cymraeg eu hiaith.”
Mae Carl Morris hefyd yn annog Llywodraeth
Cymru i fuddsoddi mewn prosiectau i fuddsoddi yn y Gymraeg, “Dim ond un enghraifft ymhlith nifer o’r
anffafriaeth i’r Gymraeg o fewn cyllidebau prif-ffrwd y Llywodraeth yw hon, a
galwn arnoch chi i ystyried eich holl gyllideb a chymryd camau pendant i
fuddsoddi mwy ym mhrosiectau sy’n cael effaith positif ar y Gymraeg.”
[anffafriaeth - discrimination]
‘Cefnogaeth
sylweddol’
Ond mae
llefarydd ar ran Llywodraeth Cymru wedi wfftio honiadau Cymdeithas yr
Iaith.
“Mae’r datganiad i’r wasg gan Gymdeithas yr
Iaith yn ystyried cyllid ar gyfer ffilmiau yn unig, ac nid yw’n cydnabod y
gefnogaeth sylweddol a roddir gan Lywodraeth Cymru i brosiectau Iaith Gymraeg
sy’n cael eu darlledu drwy gyfryngau eraill megis teledu a llwyfannau ar-lein.”
Ychwanegodd: “Mae cefnogaeth neu fuddsoddiad
gan Lywodraeth Cymru ar gael ar gyfer prosiectau ffilm a theledu yn y Gymraeg
a’r Saesneg. Mae ein cefnogaeth yn dibynnu ar nifer o feini prawf yn cael eu
bodloni, gan gynnwys yr angen i ddangos marchnad ryngwladol, o leiaf 50% o’r
saethu yn cael ei wneud yng Nghymru a chryfder y budd economaidd tebygol i
Gymru.
[meini prawf -criteria]
“Ar y sail honno, yr ydym wedi cefnogi
cynyrchiadau llwyddiannus yn rhyngwladol fel Y Syrcas, Dan Y Wenallt a tri
thymor Y Gwyll ac rydym yn parhau i gefnogi cyfryngau sain a gweledol Cymraeg
o’r radd flaenaf trwy ein cwmnïau cynhenid megis Boom Cymru.”
No comments:
Post a Comment