Mi fues i’n trafod llyfrau plant ar y radio eto heddiw – recordio rhaglen Dan yr Wyneb efo Dylan Iorwerth a Siwan Rosser.
Roald Dahl oedd dan sylw a finnau’n diolch yn fawr am y pres dwi’n ei gael drwy’r Roald Dahl Foundation am greu gweithdai sgwennu ac ati ond yn cwyno (fel arfer – yr un hen stori…) am y diffyg sylw i awduron eraill Cymraeg yng Nghymru. Roedd hi’n sgwrs ddigon difyr. Ond ro’n i wedi bwriadu sôn am yr angen i ofalu bod pob athro Cymraeg sy’n gwneud cwrs ymarfer dysgu o hyn ymlaen yn sylweddoli pa mor bwysig ydi hi iddyn NHW ddarllen llyfrau plant hefyd. AC NID DIM OND ADDASIADAU!
Sut fedran nhw argymell llyfrau i’w disgyblion os nad ydyn nhw’n darllen llyfrau plant eu hunain? Ond ar y llaw arall, dwi’m isio iddo fod yn orfodol – dwi isio iddyn nhw eu darllen am ei fod yn bleser – fel i’r plant. Sefyllfa anodd tydi? Ond naci, go drapia (= drat it Gog.), mae athrawon cynradd yn gorfod cadw ar dop eu gêm efo mathemateg a gwyddoniaeth, felly mi ddylen nhw neud yr un ymchwil ar gyfer darllen! Mae’r un peth yn wir am athrawon Cymraeg uwchradd. Mae pob athro isio bod yr athro gorau y medran nhw fod tydyn? Wel, mae darllen llyfrau plant yn mynd i neud byd o les felly tydi? Ac nid dim ond y llyfrau sydd ar y cwriwclwm.
Dwi’n gwybod bod ‘na lawer iawn o athrawon a llyfrgellwyr sydd yn darllen y llyfrau ‘ma, diolch yn fawr, ond dwi’n gwybod bod ‘na lawer iawn sydd ddim.
A dach chi’n gwybod be fyddai o help i bawb? Rhestrau o lyfrau mewn categoriau ar gael yn hawdd ar rywle fel gwefan Gwales.com, fel sydd ar wefan lovereading – dyma linc i restr o lyfrau ar gyfer plant 9+
http://www.lovereading4kids.co.uk/genre/9/9-plus-readers.html
Grêt tydi? Plis fedar rhywun gyflogi rhywun i wneud pethau tebyg yn Gymraeg?
Ac mewn llyfrgelloedd, be am focsus/silffoedd lliwgar yn arddangos teitlau ar thema?
Pethau fel:
- Llyfrau am bêl-droed/rygbi 6+. 8+, 12+
- Nofelau am geffylau 6+, 8+, 12+
- Nofelau/straeon gyda chefndir amaethyddol/dinesig ( prinder rhai dinesig gyda llaw)(prinder rhai amaethyddol ar ôl 5 oed…)
- Nofelau am hoci, sombis, ysbrydion, y gofod, anifeiliaid, hud a lledrith ayyb ayyb
Oes y Tuduriaid, yr ymfudo i Batagonia, y Rhyfel Byd Cyntaf, yr Ail Ryfel Byd – mae 'na stwff addas ar gael! Bron i gyd gan Haf Llewelyn gyda llaw…
Ia, dwi’n gwybod mai addasiad ydi Asterix, ond addasiad o’r Ffrangeg gwreiddiol, felly dwi’n maddau. A dwi’n addoli Asterix.
Be am gasgliad o gasgliadau o straeon byrion?
Be am lincs: “Os wnaethoch chi fwynhau hwnna, be am hwn?”
A sbiwch syniad da ydi hwn:
Roedd hwnna drwy Twitter ‘Patron of reading’ – llwyth o syniadau yno bob amser. A dyna fi’n ôl at bwysigrwydd athrawon…ond gellid gwneud hyn mewn llyfrgelloedd, siopau llyfrau – bob man. Hoff lyfrau rhywun adnabyddus yn blentyn?
Y Prifathro?
No comments:
Post a Comment