Diolch eto byth i Bethan Gwanas am y darn hyfryd yma (wedi'i thalfyrru) gyhoeddwyd ym mis Tachwedd 2015.
Mae hi wedi bod fel ffair yma, ac yn dal i fod, ond dwi am drio rhoi
sylw i hynny alla i o lyfrau Cymraeg GWREIDDIOL i blant cyn y Nadolig.
Un o fy ffefrynnau ydi hwn:
Ia, plant sydd wedi sgwennu’r straeon yma, a phwy sy’n gwybod yn well
na phlant be mae plant yn ei hoffi? Enillwyr cystadleuaeth gan Radio
Cymru llynedd ydyn nhw, ac mae pob un yn cael sylw fel hyn:
Ac ew, straeon da ydyn nhw, bob un. Nofelwyr y dyfodol, yn bendant! A
gesiwch be – am fod cystadleuaeth llynedd wedi bod mor llwyddiannus,
maen nhw wedi penderfynu cynnal un arall eleni, efo’r un beirniaid: Anni
Llŷn, Bedwyr Rees a fi. A dwi’n meddwl mai Rhagfyr 11 ydi’r dyddiad cau
ar gyfer eu gyrru i BBC Bangor. Dwi’n edrych mlaen yn arw at gael
ffraeo efo fy nghyd-feirniaid eto! Gwasg Carreg Gwalch sy’n cyhoeddi –
pris £5.99.
Mae Meleri Wyn James newydd fod ar daith o gwmpas ysgolion efo’i
llyfrau hynod boblogaidd Na, Nel, ac os dach chi isio llyfryn bach difyr
i’r hosan, be am hwn? Na, Nel!: Ho, Ho!
Mae o’n lliwgar ac yn llawn direidi [=sbort a sbri, gan amlach drygioni chwareus] a syniadau difyr am bethau i’w gwneud adeg y Nadolig. Bargen am £2.99.
O, ac mae na ddarn bach difyr gan ferched Meleri yn Golwg yr wythnos yma.
A sôn am Golwg – dyna i chi un rheswm pam mod i wedi bod yn rhy
brysur i flogio: dwi’n gweithio iddyn nhw’n rhan amser dros gyfnod
mamolaeth. Ac wythnos nesa ynde…mi fydd ‘na dudalennau hyfryd, lliwgar,
difyr am lyfrau plant a barn plant am lyfrau! Mi fydd ‘na sylw i hwn:
................
“Mae’r llyfr hwn yn llawn cerddi clyfar a choeglyd ac yn berwi o
ryfeddodau o fyd natur, bywyd bob dydd a ffantasi” yn ôl Llinos Griffin
ar gwales.com.
Dwi wedi gwirioni efo fo, rhaid cyfadde. Clawr caled hefyd – ieee! Dwi
rioed wedi cyhoeddi llyfr efo clawr caled o’r blaen. A dwi’n meddwl bod
Janet Samuel yn un o’r arlunwyr gorau yn y byd ar gyfer plant bach. Mae
hyd yn oed ei madarch hi’n gorjys!
....................
Ac os dach chi’n nabod bobl ifanc sy’n hoffi
llyfrau ffantasi, dyma i chi linc i flog difyr am lyfrau ffantasi, a’r
tro yma am un i bobl ifanc gafodd ei gyhoeddi sbel yn ôl:
http://fideowyth.com/2015/11/25/clwb-llyfrau-f8-samhain/
No comments:
Post a Comment