Croeso!

Blog ar gyfer pobl sy'n dysgu Cymraeg yn ardal Aberteifi yw hwn. Mae'n cynnwys adnoddau ac erthyglau sy'n berthnasol i'n dosbarthiadau sgwrsio. Byddwn ni'n trafod ystod eang o destunau yn ystod y flwyddyn (garddio, byd y natur, byd busnes a gwaith, hanes lleol, coginio, tafodiaith, barddoniaeth i enwi ond rhai o'r pynciau) gan edrych ar wahanol fathau o'r iaith. Croeso i bawb sydd am ddatblygu eu sgiliau Cymraeg.

Tuesday 17 May 2016

Un o gwestiynau oesol dynoliaeth: lan neu lawr?

Diolch i BBC Cymru Fyw am holi'r cwestiwn holl bwysig yma. Lawr, yn bendant!

Cyllyll a ffyrc lan neu gyllyll a ffyrc lawr yn eich peiriant golchi llestri?

Ai fel hyn chi'n llenwi'ch peiriant chi? (Pwy roddodd y fforc 'na'r ffordd anghywir!!!?)
Am hunllef!

Ydy hwn yn gwestiwn llosg yn eich tŷ chi? Oes unrhyw ffyrdd arbennig gyda chi o lenwi'ch peiriant golchi llestri (os 'dych chi'n ddigon ffodus i fod yn berchen ar un hynny yw)?

Synnwyr cyffredin?

Mae'r cogydd ac ymgynghorydd bwyd Nerys Howell, yn bendant ei barn:

"Mae synnwyr cyffredin yn dweud fod yn well i'r llafnau a'r ffyrc wynebu lan. Mae'r peiriannau 'ma'n gweithio drwy chwistrellu jets o ddŵr ac os yw'r cyllyll a'r ffyrc a'u handlen i lawr bydd y dŵr yn taro'r darnau brwnt, sydd yn wynebu lan ac yn rhoi lle i'r bwyd ac ati lifo lawr i waelod y fasged a drwy'r tyllau i'r draen.

"Os yw pethau'r ffordd arall rownd, does dim lle gyda'r bwyd i fynd ac mae'n cronni ar y gwaelod gyda phigau'r ffyrc, y llwyau a chyllyll yn nofio yn y baw yma."

Bach o 'loteri'

Ond ai barn bersonol un person yw hyn, neu oes yna ryw sail hylendid? Aeth Cymru Fyw at lygad y ffynnon sef Sioned Mai Fidler o'r Asiantaeth Safonau Bwyd:

"Does gyda fi ddim peiriant fy hun, ond fi'n cofio pan oedden ni'n byw gartre gyda Mam a Dad ac yn cael dadleuon tebyg ond nid dim ond am safle a sefyllfa'r cyllyll a ffyrc ond am lle'r oedd pob dim yn mynd!
"Cofiwch, roedd hi wastad yn ychydig bach o dishwasher lottery yn ein tŷ ni, gan fod gyda mam yr arferiad yma o ddechrau ail lenwi'r peiriant cyn ei wacau!"

Dim pwynt poeni gormod



 "O ran y cyllyll a ffyrc, mae yna ryw resymeg dros eu rhoi nhw yn y fasged fach gyda'r llafnau'n wynebu i fyny, gan fod y dŵr yn draenio lawr ac yn cadw'r llafnau'n lanach. Ond mae'r peiriannau 'ma mor effeithiol dyddie 'ma, does dim llawer o wahaniaeth mewn gwirionedd."

Mae Nerys Howell yn cytuno i raddau gyda hyn, er mae gyda hi ei amheuon, "Efallai bod y peiriannau hyn yn effeithiol ac yn gweithio ar dymheredd uchel, ond os yw'r cutlery'n wynebu am lawr, sut mae'r dŵr am gyrraedd gwaelod y fasged?"

Ond mae'r ddwy'n gytûn ar un peth. Meddai Sioned:

"Mae'n llawer pwysicach peido gorlenwi'r fasged na'r peiriant yn gyffredinol. Yn fy marn i, arfer personol yn unig yw sut chi'n rhoi llestri a chyllyll a ffyrc mewn i'r peiriant a dydy e ddim yn gwneud llawer o wahaniaeth o safbwynt glendid na hylendid, ond fod gyda'r dŵr digon o le i olchi pob dim yn iawn."

Yr hen ffordd Gymreig?

Felly ydy hi'n wir i ddweud fod hi'n llawer glanach golchi mewn peiriant na gyda llaw? Dim o reidrwydd yn ôl Sioned Mai Fidler:

"Os fyddwch chi'n golchi gyda dŵr twym iawn a sebon, mae golchi â llaw yn ffordd effeithiol iawn o ladd bacteria. Ond dau ddarn o gyngor. Gwisgwch fenig rwber fel eich bod yn medru goddef dŵr llawer twymach, a gadewch i'r llestri sychu'n naturiol.

"Mae'r lliain sychu llestri yn medru bod yn fferm bacteria effeithiol iawn. Meddyliwch amdano, mae'n damp ac yn weddol gynnes ar ôl sychu llestri, ac wedyn mae'n cael ei hongian ar fachyn, lle mae'r bacteria'n cael digon o amser i dyfu."

Mae hyn yn destun dadlau yng nghartref Nerys hefyd, "Gan bod fi'n gweithio ym maes arlwyo, 'rwy wedi pasio cwrs hylendid bwyd ac yn gweld pethau mewn ffordd wahanol i'm gŵr. Fydd e'n hapus iawn i sychu'r llestri gyda'r clwtyn sychu llestri mae newydd ddefnyddio i sychu gwaed!"

Cyngor cignoeth

Ac un darn o gyngor olaf pwysig gan Sioned:

"Peidiwch â golchi cig amrwd dan y tap! Mae'r holl facteria peryg sydd ar y cig yn cael ei wasgaru dros eich sinc a'ch cegin lle mae'n medru heintio pob dim arall. Chi'n llawer mwy tebygol o fynd yn sâl o ganlyniad i'r pethau hyn nag i ba gyfeiriad fydd eich cyllyll a ffyrc yn wynebu!"

"Ond rwy'n credu y gwnâ i barhau i gadw nhw i wynebu lan... jest rhag ofn."

No comments:

Post a Comment