Croeso!

Blog ar gyfer pobl sy'n dysgu Cymraeg yn ardal Aberteifi yw hwn. Mae'n cynnwys adnoddau ac erthyglau sy'n berthnasol i'n dosbarthiadau sgwrsio. Byddwn ni'n trafod ystod eang o destunau yn ystod y flwyddyn (garddio, byd y natur, byd busnes a gwaith, hanes lleol, coginio, tafodiaith, barddoniaeth i enwi ond rhai o'r pynciau) gan edrych ar wahanol fathau o'r iaith. Croeso i bawb sydd am ddatblygu eu sgiliau Cymraeg.

Sunday 15 May 2016

Tantryms

Dyma farn Vaughan Roderick, Golygydd Materion Cymreig y BBC, am ddigwyddiadau diweddar yn y Cynulliad.

_____________

Un cwestiwn ac un cwestiwn yn unig sydd gen i yn sgil digwyddiadau'r pedair awr ar hugain diwethaf. Beth ar y ddaear oedd ar feddwl Carwyn Jones pan benderfynodd galw pleidlais i ethol Prif Weinidog heb sicrhau bod ganddo'r niferoedd i'w hennill?

Mae sawl aelod Llafur wedi cynnig atebion i'r cwestiwn hwnnw. Mae'r rheiny'n amrywio a dydw i ddim yn sicr fy mod mymryn yn agosach at y lan o'u clywed.  [none the wiser]

Yn ôl un fersiwn o'r stori roedd Llafur a Phlaid Cymru wedi cyrraedd cytundeb y byddai Plaid yn cael dewis Llywydd y Cynulliad ac o ganlyniad yn rhoi rhwydd hynt [= free passage] i Carwyn gadw ei swydd. Yr honiad yw bod Plaid Cymru wedi torri ei gair ar y funud olaf.

Pe bai hynny'n wir fe fyddai Llafur wedi gwneud môr a mynydd o'r peth. Gallwn ddiystyru'r fersiwn yna'n weddol hawdd felly.

Mae stori arall yn portreadu Carwyn Jones fel rhyw fath o gynllwyniwr Maciafelaidd oedd yn dymuno colli'r bleidlais er mwyn gallu defnyddio fideo o aelodau Ukip yn cefnogi Leanne Wood mewn darllediadau gwleidyddol.

Does ond angen ail-adrodd yr honiad i sylweddoli pa mor wirion yw e. Pam ar y ddaear y byddai Prif Weinidog yn peryglu ei swydd er mwyn cynhyrchu deunydd propaganda ar gyfer etholiad sy'n flynyddoedd i ffwrdd a lle na fydd e'n ymgeisydd?

Serch hynny mae'r ail esboniad yna yn cynnig cliw bach i ni ynghylch meddylfryd o fewn y blaid Lafur a allasai wedi arwain at drybini [= trafferth] ddoe.

Am ryw reswm neu'i gilydd mae 'na gred ymhlith actifyddion Llafur bod mwyafrif pobl Cymru yn perthyn i'w llwyth. Eu cred yw bod rhyw 30% o bobol Cymru yn Dorïaid digyfaddawd a digyfnewid [= uncompromising and unchanging]. Mae pawb arall yn y bôn yn bobl Llafur - beth bynnag yw eu pleidlais.

Mewn geiriau eraill roedd yr holl bobl yna wnaeth bleidleisio i Blaid Cymru, y Blaid Werdd, y Democratiaid Rhyddfrydol a'r gweddill wythnos yn ôl rili, rili, rili moen gweld Carwyn Jones yn llywodraethu am bum mlynedd arall. Oherwydd hynny fe fyddai'n hunanladdiad gwleidyddol i gynrychiolwyr y pleidiau hynny torri'r un gair â Thori neu Ukipwr. Doedd dim peryg felly o alw'r bleidlais.

Dydw i ddim yn gwybod o ble mae'r syniadau yma'n dod ond mae'n rhyfeddod bod rhai o actifyddion Plaid Cymru yn eu credu hefyd. Er mwyn y nefoedd, bois, mae'r pyllau wedi hen gau a neb dan ddeugain yn cofio Margaret Thatcher. Rhowch daw arni. ['give it a rest', 'shut up']

Heddiw cawsom wybod bod Llafur yn trafod ag Ukip a'r Ceidwadwyr yn ogystal â Phlaid Cymru mewn ymdrech i ddod allan o'r picl. Hynny yw, mae Llafur yn cyflawni'r union bechod a'r un gan Blaid Cymru yr oedd Aelodau Seneddol Llafur yn brefu yn ei gylch ar y cyfryngau cymdeithasol neithiwr.

Yr Aelodau Seneddol oedd yn gwneud hynny, sylwer, nid yr Aelodau Cynulliad. Mae'r rheiny wedi sylweddoli nad oes dewis mewn siambr grog ond siarad - a siarad â phawb. Mae'n biti efallai na sylweddolwyd hynny cyn pleidlais ddoe.

No comments:

Post a Comment