Croeso!

Blog ar gyfer pobl sy'n dysgu Cymraeg yn ardal Aberteifi yw hwn. Mae'n cynnwys adnoddau ac erthyglau sy'n berthnasol i'n dosbarthiadau sgwrsio. Byddwn ni'n trafod ystod eang o destunau yn ystod y flwyddyn (garddio, byd y natur, byd busnes a gwaith, hanes lleol, coginio, tafodiaith, barddoniaeth i enwi ond rhai o'r pynciau) gan edrych ar wahanol fathau o'r iaith. Croeso i bawb sydd am ddatblygu eu sgiliau Cymraeg.

Sunday 24 January 2016

Môr o gariad

BBC Cymru Fyw sy'n holi ydych chi'n berson rhamantus?

 

1. Mae'ch partner yn dechrau sôn am bethau mae'n ei hoffi. Beth yw'ch ymateb?



2. Chi mas am bryd o fwyd gyda'ch partner. Beth yw'r peth cyntaf rydych chi'n ei wneud ar ôl eistedd?


3. Mae'ch partner wedi bod mas gyda'i ffrindiau ac yn methu cael tacsi adre. Mae'r ffôn yn canu am 01:00 y bore. Beth wnewch chi?

4. Beth yw'ch barn chi am rieni'ch partner?


5. Beth yw barn eich partner am eich rhieni chi?

6. Gyda pha anifail fyddech chi'n cymharu'ch partner?


No comments:

Post a Comment