Croeso!

Blog ar gyfer pobl sy'n dysgu Cymraeg yn ardal Aberteifi yw hwn. Mae'n cynnwys adnoddau ac erthyglau sy'n berthnasol i'n dosbarthiadau sgwrsio. Byddwn ni'n trafod ystod eang o destunau yn ystod y flwyddyn (garddio, byd y natur, byd busnes a gwaith, hanes lleol, coginio, tafodiaith, barddoniaeth i enwi ond rhai o'r pynciau) gan edrych ar wahanol fathau o'r iaith. Croeso i bawb sydd am ddatblygu eu sgiliau Cymraeg.

Sunday 24 January 2016

Gwefan Eurig

Diolch i Ein Cymraeg am dynnu sylw at wefan newydd Eurig Salisbury (yma). Dyma un o'i gerddi:

Cariad@iaith

Ar ôl llyncu'r holl lafariaid,
Gargol bwced o gytseiniaid,
Sipian ambell 'fore da',
Cnoi'n ofalus ar 'nos da',
Llowcio 'diolch' fesul dau,
Brathu mewn i ddeg 'su'mae'.....

Fe fydd rhywbeth mwy na iaith
Gennyt ti ar hyd y daith,
Sef y gallu i brofi'r byd
Heddiw yn Gymraeg i gyd.
Dos i flasu'r ddaear hon
Ar dy dafod newydd sbon!

No comments:

Post a Comment