Croeso!

Blog ar gyfer pobl sy'n dysgu Cymraeg yn ardal Aberteifi yw hwn. Mae'n cynnwys adnoddau ac erthyglau sy'n berthnasol i'n dosbarthiadau sgwrsio. Byddwn ni'n trafod ystod eang o destunau yn ystod y flwyddyn (garddio, byd y natur, byd busnes a gwaith, hanes lleol, coginio, tafodiaith, barddoniaeth i enwi ond rhai o'r pynciau) gan edrych ar wahanol fathau o'r iaith. Croeso i bawb sydd am ddatblygu eu sgiliau Cymraeg.

Wednesday 20 January 2016

Llyfrau Cymraeg - llythyr agored at Ken Skates, Dirprwy Weinidog Diwylliant

 
Yn gymuned o awduron ac ysgolheigion Cymraeg, ysgrifennwn atoch i fynegi ein pryder a'n siom o glywed am y toriadau arfaethedig i gyllideb Cyngor Llyfrau Cymru. Dyma ostyngiad o 10.6% yn yr arian a roddir i'r Cyngor Llyfrau, sef lleihad o £374,000. Bydd hyn yn cael effaith niweidiol ar gyhoeddi llyfrau yn y ddwy iaith yng Nghymru, ond bydd yr effaith ar gyhoeddi Cymraeg, yn benodol, yn gwbl andwyol. Mae'r diwydiant llyfrau yng Nghymru yn esiampl o'r gwaith anhygoel y gellir ei gyflawni ar gyllideb fechan. Dros y degawd diwethaf, er gwaethaf toriadau blynyddol i'w gyllideb, mae Cyngor Llyfrau Cymru wedi llwyddo'n rhyfeddol i gynnal diwylliant cyhoeddi hyfyw, deniadol ac effeithlon. 
 
Yn sgil y toriadau arfaethedig, ni fydd parhau i wneud hyn yn bosibl.

Mae cynnyrch y diwydiant cyhoeddi Cymraeg a Chymreig yn apelio at bobl trwy Gymru a thu hwnt, ac yn fodd i gryfhau ymdeimlad o gymuned ddiwylliannol ar draws holl amrywiaeth y genedl. Bob blwyddyn, dan ofal y Cyngor Llyfrau, cyhoeddir ystod eang o lyfrau Cymraeg a Saesneg, a'r rheiny'n amrywiol o ran cynnwys ac yn ddeniadol eu diwyg. Mae'r Cyngor Llyfrau hefyd, ochr yn ochr â'r gweisg, yn chwarae rôl allweddol wrth hyrwyddo a hybu gwerthiant y llyfrau hynny. 

Dyma gynnyrch diwylliannol sy'n chwarae rhan allweddol yn addysg ac ym mhrofiadau holl bobl Cymru, yn fabanod a phlant, yn ddisgyblion ysgol a myfyrwyr coleg, ac yn oedolion o bob oedran a chefndir. Nid sôn am nofelau a barddoniaeth yn unig yr ydym, ond llyfrau mewn meysydd o bob math, o chwaraeon i ddiwylliant poblogaidd, yn gofiannau enwogion Cymreig ac yn gyfrolau poblogaidd sy'n trafod hanes a diwylliant Cymru.

Nid oes angen pwysleisio bod y llyfrau hyn yn adnodd diwylliannol holl bwysig. 

Maent yn cadw ein hanes a'n treftadaeth yn fyw, yn gyfrwng inni fynegi ein hunain yn ddiwylliannol yn y presennol ac yn ffordd i ni agor ein llygaid tua'r dyfodol. Maent hefyd yn ffenest siop werthfawr i Gymru gerbron y byd. Erbyn hyn, mae llyfrau Cymraeg a Chymreig yn cael eu cyfieithu i ieithoedd byd-eang, o'r Sbaeneg i'r Tsineeg, ac mae hyn yn cryfhau proffil Cymru yn rhyngwladol. 

Mae i hyn hefyd ei fudd economaidd ei hun. Ni ellir rhoi pris ar arwyddocâd o'r fath. Eto, mae Cyngor Llyfrau Cymru wedi llwyddo i gyflawni'r gwaith hwn yn effeithlon a llwyddiannus ers blynyddoedd lawer, a hynny ar gyllideb fechan sydd wedi dioddef toriadau blynyddol er 2011. 

Mae'r Cyngor wedi galluogi gweisg Cymru i ddal eu tir gerbron gweisg masnachol Prydeinig, a hynny mewn hinsawdd economaidd a diwylliannol heriol. Mae wedi sicrhau ein bod ni - yn awduron, darllenwyr ac ysgolheigion - yn gallu gweithio'n effeithiol o fewn fframwaith cynhaliol a gofalgar, a bod gennym hyder yn y corff sy'n hybu a hyrwyddo ein diwylliant llenyddol mewn modd adeiladol ac agored. Unwaith eto: llwyddwyd i wneud hyn oll yn effeithlon a di-wastraff ar gyllideb dynn. Mae Cyngor Llyfrau Cymru hefyd wedi methrin perthynas agos a ffrwythlon gyda siopau llyfrau lleol ar draws Cymru: mae'r rheiny yn eu tro yn ganolfannau diwylliannol pwysig yn sydd yn cynnal digwyddiadau llenyddol poblogaidd, gan gyfrannu at hyfywedd a hunaniaeth ein trefi a'n dinasoedd. Ar ben hynny, trwy ei wefan, Gwales.com, mae Cyngor Llyfrau Cymru'n sicrhau bod llyfrau Cymraeg a Chymreig ar gael i'r cyhoedd, waeth ble y bônt yn y byd, a sicrheir hefyd fod y llyfrau hyn yn cael eu hadolygu ar y wefan: mae hynny yn ei dro yn ffynhonnell werthfawr o wybodaeth i'r cyhoedd. Yn ychwanegol at hyn, mae'r Cyngor, dros y degawd diwethaf, wedi sicrhau bod y diwydiant llyfrau yng Nghymru yn ymateb i ofynion y cyfryngau digidol, gyda dros fil a hanner o e-lyfrau Cymraeg a Chymreig bellach ar gael trwy Gwales. 

Effaith y toriadau arfaethedig, yn y lle cyntaf, fydd tanseilio'r holl lwyddiannau hyn. 

• Bydd y Cyngor, sydd eisoes dan bwysau enbyd, yn cael ei roi dan bwysau annioddefol a bydd y strwythur cyfan yn gwegian.
• Bydd llai o lyfrau'n cael eu cyhoeddi, a bydd hyn yn ei dro yn rhoi llai o ddewis - o brofiadau a chyfleon - i holl ddarllenwyr Cymru (yn blant, yn bobl ifanc ac yn oedolion).
• Bydd yn lleihau siawns llyfrau Cymraeg a Chymreig o gyrraedd cynulleidfaoedd y tu hwnt i Gymru, yn ogystal, ac yn mennu ar broffil diwylliannol Cymru nid yn unig o fewn y Deyrnas Unedig, ond yn
rhyngwladol. O ganlyniad, bydd yn tanseilio enw da Cymru fel gwlad sydd, er ei bychander, yn creu cynnyrch llenyddol grymus ac arwyddocaol.
• Bydd marchnata a hyrwyddo llyfrau yn myndyn llai effeithlon, a bydd y gynulleidfa a gyrhaeddir yn crebachu.
• Bydd holl strwythur ysgrifennu a darllen yn ein gwlad yn dioddef.

Ar ben y cyfan, bydd swyddi yn cael eu colli: mae'r diwydiant cyhoeddi yng Nghymru yn gwneud mwy na chyflogi awduron a chyhoeddwyr. Mae hefyd yn cyfrannu'n arwyddocaol at incwm cysodwyr, dylunwyr, ffotograffwyr, a darlunwyr, heb sôn am y golygyddion sydd yn gwneud gwaith allweddol yn cynnal safon uchel ein cyhoeddiadau. Mae llawer o'r bobl hyn yn gweithio ar eu liwt eu hunain, yn aml mewn ardaloedd yng Nghymru lle mae'r cyfleon gwaith yn fach. Bydd effaith y toriadau hyn ar eu bywoliaeth hwythau yn andwyol. 

Am ganrifoedd, llenyddiaeth oedd unig sefydliad cenedlaethol y Cymry. Dyma sut y buom yn ein mynegi ein hunain fel pobl: dyma a gadwodd ein hunaniaeth a'n hiaith yn fyw. Ers dyfodiad Datganoli a sefydlu'r Cynulliad Cenedlaethol mae'r rôl honno, a'r diwydiant cyhoeddi yng Nghymru, wedi mynd o nerth i nerth, a bu'r budd i bobl Cymru, a'n hunanhyder fel gwlad, yn anfesuradwy. Gofynnwn i chi yn awr beidio â thanseilio'r holl waith rhagorol sy'n digwydd ym myd cyhoeddi llyfrau yng Nghymru heddiw, a'r momentwm rhyfeddol sy'n nodweddu'r diwydiant cyhoeddi Cymraeg a Chymreig ar hyn o bryd. Bydd y toriadau arfaethedig yn niweidio'r diwydiant am ddegawdau, ac, mewn rhai achosion, yn creu niwed parhaol. Gofynnwn i chi yn ddwys ac yn ddiffuant i ailystyried y toriadau arfaethedig ac anghytbwys i gyllideb Cyngor Llyfrau Cymru ac i ystyried gwir faintioli'r niwed a wneir trwyddynt. 
 
Bydd yn ddinistriol i iechyd diwylliannol y genedl gyfan.

Yr eiddoch yn gywir,

No comments:

Post a Comment