Croeso!

Blog ar gyfer pobl sy'n dysgu Cymraeg yn ardal Aberteifi yw hwn. Mae'n cynnwys adnoddau ac erthyglau sy'n berthnasol i'n dosbarthiadau sgwrsio. Byddwn ni'n trafod ystod eang o destunau yn ystod y flwyddyn (garddio, byd y natur, byd busnes a gwaith, hanes lleol, coginio, tafodiaith, barddoniaeth i enwi ond rhai o'r pynciau) gan edrych ar wahanol fathau o'r iaith. Croeso i bawb sydd am ddatblygu eu sgiliau Cymraeg.

Wednesday 6 January 2016

Gwleidyddion yn trafod S4C

[Diolch i BBC Cymru Fyw)

Yn ystod oriau man bore dydd Mercher, bu Aelodau Seneddol yn trafod dyfodol ariannol S4C ar lawr y Senedd yn San Steffan. 

Fe gyfrannodd sawl Aelod Cymreig i'r ddadl, a ddechreuodd am 02:00.

Mae pryder fod Llywodraeth Prydain yn mynd i leihau'r grant mae'n ei roi i'r sianel, o £6.7m i £5m erbyn 2020.

Erbyn hyn, mae'r rhan fwyaf o gyllid S4C yn dod trwy drwydded deledu'r BBC.

'Annheg'

Yn dilyn y ddadl, dywedodd AS Aberconwy, Guto Bebb, wrth BBC Cymru fod penderfyniad y llywodraeth i dorri'n ôl ar gyllideb y sianel yn mynd yn groes i faniffesto'r blaid.

"Mae hwn yn gam diangen ac yn un rwyf yn ei wrthwynebu... Mae S4C eisoes wedi cymryd camau i arbed arian, ac mae'n annheg i ofyn iddyn nhw wneud mwy o arbedion.

"Er bod y drafodaeth wedi digwydd am ddau o'r gloch y bore, roedd nifer dda o aelodau trawsbleidiol ac roedd 'na ymdeimlad cryf o gefnogaeth i'r sianel gan y rhan fwya' ohonyn nhw."

Galwodd Mr Bebb eto am adolygiad annibynnol, a'i fod yn gobeithio y bydd Llywodraeth y DU yn newid eu meddyliau.

"Dyw hi ddim y tro cyntaf i'r llywodraeth wneud tro pedol...Yn ddiweddar, fe aethon nhw'n ôl ar eu gair ynglŷn â'u polisi credyd treth. Felly efallai y byddwn yn gweld hynny eto."


'Calonogol a siomedig'

Dywedodd Cadeirydd Awdurdod S4C, Huw Jones, fod y ddadl yn un bwysig.

"Cefais fy nghalonogi o weld bod cymaint o Aelodau Seneddol wedi ymgasglu ar awr annuwiol, ac yn falch o weld cynifer ohonyn nhw mor gefnogol i'r sianel. Byddwn hefyd yn galw eto am adolygiad annibynnol a fyddai'n cael rhywfaint o effaith ar unrhyw doriadau yn y dyfodol.

"Ar y llaw arall, roeddwn yn siomedig nad oedd y gweinidog, Ed Vaizey, wedi cyfeirio at y toriadau pellach rydym yn eu hwynebu yn y dyfodol oherwydd adolygiad i Siarter y BBC."

Mae'r AS dros Ynys Môn, Albert Owen, hefyd yn galw am adolygiad annibynnol. Dywedodd Ed Vaizey bod y llywodraeth yn cydymdeimlo â'r syniad o adolygiad annibynnol, ond nid oedd yn cadarnhau y byddai hyn yn digwydd.

No comments:

Post a Comment