Rhiwbob |
Diolch unwaith yn rhagor i Ar Asgwrn y Graig
Dwi'n falch
bod hwnna drosodd! Ar y 6ed o Awst y llynedd bu criw o gwmni teledu Fflic acw,
yn ffilmio darn ar gyfer Cegin Bryn.
Ar ôl wyth
mis o boeni a hel meddyliau, cafodd y bennod am riwbob ei darlledu wsos
d'wytha.
Chwarae teg,
trwy ddefnyddio llwyth o close-ups a gwaith camera'n symud yn gyflym o lun i
lun, fe lwyddon nhw i wneud i'r ardd a'r rhandir edrych yn well ac yn llawnach
nag oedden nhw!
Mi fuodd
Bryn y Cogydd; a'r criw ffilmio: Rhodri, Lois a'r dyn camera/sain
(#teimlo'n-euog-am-anghofio'r-enw) acw o ddeg y bore tan wedi chwech y nos! Ond
er bod y gwaith yn ailadroddus a'r diwrnod yn hir, roedden nhw'n griw hwyliog a
difyr. Doedd dim byd yn fawreddog nac ymffrostgar am seren y gyfres; roedd o'n
gwmpeini difyr, ac yn ddigon caredig i ganmol y frechdan bacwn gafodd o yma i
ginio!
Roedd y saws
rhiwbob wnaeth o ar y rhandir i fynd efo selsig yn flasus iawn. Ac mae'r gin
rhiwbob yn neis iawn hefyd, diolch yn fawr.
Doedd hi
ddim yn hir cyn i'r tynnu coes ddechrau ar y stryd yn Stiniog 'ma. Er i mi
beidio deud wrth neb bron, am y ffilmio, mae'n amhosib gwneud dim mewn cymuned
gyfeillgar fel hon, heb i bawb wybod amdano! Ac wrth gwrs, efo S4C yn
ail-ddangos pob peth, a'r rhaglen ar y we am gyfnod, does yna ddim dianc!
Roedd o'n
brofiad difyr, oedd; ond dwi'n rhy swil i wneud hynna'n rhy aml!
Ryseitiau - ond nid ryseitiau Bryn mohonynt!
Saws Rhiwbob
1/2 pwys
rhiwbob wedi ei dorri'n fân
1 /4 peint seidr
ychydig o sudd lemwn
ychydig o
nutmeg wedi ei falu
2 llond llwy
fwrdd siwgr brown
Rhowch y
cynhwysion uchod mewn sosban a'i mudferwi am tua ugain munud - gweiniwch y
pysgod gyda'r saws drosto.
Pwdin hyfryd a syml iawn yw Syllabub
Rhiwbob. Dyna fydd arnoch angen:
1/2 pwys o
rhiwbob wedi ei ferwi nes iddo dorri lawr yn dda
1/4 peint o
hufen wedi ei chwipio
1/4 peint
cwstard (rwy'n defnyddio tin parod er mwyn hwylustod)
un twb
bychan o iogwrt plaen neu iogwrt mêl
2 llond llwy
fwrdd o siwgr ychydig o 'stem ginger'
Ar ôl i'r
rhiwbob ferwi ychwanegwch y siwgr iddo a'i adael i oeri. Rhowch yr hufen mewn
bowlen ac ychwanegwch y cwstard a'r iogwrt iddo, wedyn yr ychydig sinsr wedi ei
falu'n fân. Mae'n edrych yn ddeniadol os gweinir mewn gwydrau gwin, gan
ddechrau gyda rhiwbob wedyn yr hufen. Addurnwch gyda darn o lemwn neu siocled
wedi ei falu.
No comments:
Post a Comment