Croeso!

Blog ar gyfer pobl sy'n dysgu Cymraeg yn ardal Aberteifi yw hwn. Mae'n cynnwys adnoddau ac erthyglau sy'n berthnasol i'n dosbarthiadau sgwrsio. Byddwn ni'n trafod ystod eang o destunau yn ystod y flwyddyn (garddio, byd y natur, byd busnes a gwaith, hanes lleol, coginio, tafodiaith, barddoniaeth i enwi ond rhai o'r pynciau) gan edrych ar wahanol fathau o'r iaith. Croeso i bawb sydd am ddatblygu eu sgiliau Cymraeg.

Monday 4 May 2015

Aderyn du a’i blufyn sidan



(Diolch i ‘Wilias’ sy’n sgwennu blog o’r enw Ar Asgwrn y Graig)

Fe ddaeth y gwanwyn i Stiniog o’r diwedd, a dwi wedi gorfod gwario eto! Ar ôl clirio’r pys a’r ffa a ballu [= ac ati] ar ddiwedd yr haf llynedd, mi rois y cansenni i hongian mewn dau fwndel  o dan do’r cwt coed-tân. Mi es i  i’w nôl nhw ddydd Gwener, a dyma be ffeindis i. Nyth mwyalchen [= aderyn du]!

Damia: dyna ddiwedd ar y cansenni yna am eleni  felly. Dwi angen codi fframiau i’r pys a’r ffa rŵan... felly roedd yn rhaid prynu mwy.

Tra oeddwn i wrthi yn paratoi gwelyau’r ardd gefn, bu’r iâr yn gori [=eistedd ar wyau] a gwylio’n ofalus bob tro oeddwn yn mynd heibio, neu’n piciad [=picio – ‘pop’] i’r cwt i ystyn [=estyn] rhywbeth. Daeth oddi ar y nyth ddwywaith/dair - i chwilio am fwyd am wn i, ond yn amlwg doedd ganddi ddim llawer o ofn. Yn ystod un o’i theithiau hela ges i dynnu’r llun; ac o ddefnyddio drych, gweld fod pedwar o wyau prydferth yng ngwaelod cwpan perffaith y nyth.  Pris bach iawn i’w dalu ydi methu cael defnyddio’r cansenni mewn gwirionedd; mae’n fraint gwybod fod yr ardd yma yn ddeniadol i adar. Mae nyth titw tomos las a llwyd y gwrych [=hedge sparrow] yma hefyd.

Mi glywais i’r gog ar yr un diwrnod; wythnos yn hwyrach na’r arfer. A damia eilwaith, doedd gen’ i ddim newid mân yn fy mhoced, er mwyn cadw at draddodiad/ofergoel deuluol y daw lwc am y flwyddyn i ddod. Ta waeth, roedd gen’ i ddiwrnod o wyliau ac roedd hynny’n ddigon o lwc i mi!
Roeddwn i wedi esgeuluso’r ardd gefn ers cael y rhandir, felly roedd yn hen bryd imi chwynnu a pharatoi a hau rhywbeth yno.

Dyma’r marchrawn [=rhedyn – horse-tail] ddaeth allan o un gwely, ac mi fydd yn rhaid imi frwydro efo fo trwy’r haf rŵan.

Mae’r brocoli’n dod i’w ddiwedd erbyn hyn, ond dwi wedi gadael tri phlanhigyn yn y gwely uchaf am rŵan, efo’r bresych deiliog a dwy genhinen sydd eto i’w codi. Roedd digon o le i roi rhes fer o bys yn y gwely ucha’. Yn y rhandir dwi’n bwriadu rhoi’r prif gnydau pys a ffa eleni, ond mae’n werth hau ychydig adra, er mwyn i’r plant (a finna’) gael ‘dwyn’ a mwynhau pys yn syth o’r pod. Un o bleserau mawr bywyd.

Tatws sydd yn y gwely canol eleni, heblaw’r rhesiad o ddail suran (sorrel) a garlleg. Mae’r rhandir dal yn rhy wlyb o lawer i’w plannu yno fel oeddwn wedi bwriadu. Dwi wedi llenwi bylchau efo hadau bresych deiliog du (cavalo nero): tydi trefn a thaclusrwydd ddim hanner mor bwysig a chael cymaint â phosib o fwyd allan o bob gwely!

Yn y gwely isaf, mae dwy res o oca (perthynas i’n blodyn suran [=sorrel] y coed ni, o’r Andes, sy’n cynhyrchu cloron [cloronen = tuber] blasus medden’ nhw), moron cwta, betys gwyn, sibols a nionod Cymreig, efo radish piws a radish coch wedi’u gwasgu i mewn fel cnwd cyflym, gyda lwc. Dwi hefyd yn rhoi cynnig eto ar dyfu ffenel. Mi lwyddais i gael bylbiau trwchus o ffenel ar y cynnig cyntaf, bum mynedd yn ôl. Bob blwyddyn ers hynny mae nhw wedi methu tewychu o gwbl, ac yn rhedeg i had yn rhy fuan. Lwc mul oedd y cynnig gynta efallai. Dyfal donc a dyrr y garreg, ond beryg y byddai’n llyncu mul os na chaf fylbiau da eleni.

Roedd yna lond dwrn o datws gwyllt yn tyfu’n braf yn y gwely yma, o’r rhai a fethais wrth gynaeafu y llynedd.  Mae’r gwybodusion a’r snobs yn dweud na ddylid tyfu dim os nad o had glân a phur, ond dwi am fentro i’r diawl, ac wedi eu trawsblannu i sachau tatws sydd wedi bod yn hel llwch tan rŵan.
Yn y tŷ gwydr, mae’r pys a’r ffa melyn bron yn barod i’w plannu allan, felly dwi’n eu rhoi nhw allan bob dydd i’w caledu. Dwi wedi hau brocoli piws a courgettes mewn hen gwpanau papur, i’w trosglwyddo i’r rhandir nes ymlaen, ac wedi hau hadau dail salad, berwr [=cress] tir, claytonia, a hefyd blodau haul.

Mae wedi bod yn rhy oer i’r hadau pwmpen egino, felly mae pedwar pot bach newydd ar sil ffenest y gegin ar hyn o bryd, gan obeithio am well hwyl arni. Tydi’r Pobydd heb ddweud y drefn hyd yma, ond maen nhw’n edrych yn well na bocsys wyau efo tatws ynddyn nhw mae’n siŵr!

Diwrnod cynhyrchiol felly, ac yn sicr yn well na diwrnod yn y gwaith. Mynd yn rhy gyflym wnaeth o braidd, ond roedd un pleser bach ar ôl. Wrth i’r Pobydd a finna’ wylio’r teledu tua unarddeg y nos, clywais sŵn crafu cyfarwydd wrth y drws cefn. Sŵn y mae, fel y gog, croeso iddo bob gwanwyn. Roedd y draenog yn ôl. Da was, da a ffyddlon. Mae’r fwyalchen a’i thylwyth [tylwyth = teulu a pherthnasau] yn bwyta malwod, ydyn, ond mae’r diawled digywilydd hefyd yn bwyta ceirios, cyrins duon, a mafon os nad wyf wedi rhoi rhwyd ar bopeth digon buan! Hyd yma, dwi ddim yn meddwl fod y draenog yn cystadlu efo fi am unrhyw fwyd, ac mi gaiff wledda faint fynnai ar falwod a slygs. Mae lle i bopeth o fyd natur yma, ond bod gwell croeso i ambell beth fel y draenog! Pwy ddywedodd fod angen troi  newid mân mewn poced i gael ychydig o lwc?

No comments:

Post a Comment