Mae’r hanesydd, y darlithydd a’r darlledwr Dr John Davies wedi marw yn 76 oed.
Ei waith enwocaf a phwysicaf oedd Hanes Cymru sy’n cael ei gydnabod fel y gwaith pwysicaf ar hanes y wlad.
Cafodd ei eni yn y Rhondda yn 1938 ond symudodd y teulu i bentref Bwlchllan ger Llanbedr Pont Steffan pan oedd yn saith oed ac roedd yn cael ei adnabod gan lawer fel John Bwlchllan.
Cafodd ei addysg ym Mhrifysgol Cymru, Caerdydd a Choleg y Drindod, Caergrawnt cyn ymuno ag adran hanes Prifysgol Cymru, Aberystwyth.
Roedd hefyd yn warden neuadd breswyl Pantycelyn am nifer o flynyddoedd. Symudodd i Gaerdydd wedi iddo ymddeol.
‘Angerdd heintus’
Wrth dalu teyrnged iddo, dywedodd Cyfarwyddwr BBC Cymru, Rhodri Talfan Davies:
“Fel darlledwr ac academydd, roedd Dr John Davies yn hanesydd eithriadol.
“Llwyddodd nid yn unig i ddod â hanes Cymru a’i phobol yn fyw – fe wnaeth hynny yn ei ffordd liwgar ei hun. Ac roedd ei angerdd heintus yn cyffwrdd a chyfoethogi bywydau cymaint o bobol.
“I unrhyw un sydd o ddifrif eisiau deall y grymoedd sydd wedi llunio – ac sy’n parhau i lunio – ein cenedl, mae ei waith yn cynnig etifeddiaeth anhepgor.”
‘Ysbrydoli cenhedlaeth newydd o ymgyrchwyr iaith’
John Davies oedd ysgrifennydd cyntaf Cymdeithas yr Iaith Gymraeg, ac fe drefnodd brotest gyntaf y mudiad ar bont Trefechan ym 1963.
Dywedodd Sel Jones, Is-gadeirydd Cymdeithas yr Iaith Gymraeg: ”Bu cyfraniad John Davies i’n hiaith, a’r mudiad cenedlaethol yn gyffredinol, yn amhrisiadwy. Athrylith, ysgolhaig, cofnodydd hanes ei bobl oedd a’i draed ar y ddaear. Bydd colled enbyd ar ei ôl.
“Fel ein hysgrifennydd cyntaf, fe oedd yn gyfrifol am sefydlu ein mudiad; ond, yn bwysicach na hynny, fe ysbrydolodd e genhedlaeth newydd o ymgyrchwyr iaith. Pobl sydd wedi llwyddo i gadw’n hiaith yn fyw. Mae’n cydymdeimlad gyda’i deulu a’i gyfeillion heddiw, ond bydd ein dyled i John Davies – fel ymgyrchwyr iaith ac fel pobl - yn para am byth.”
Diolch i Golwg360. Gweler y stori lawn yma.
No comments:
Post a Comment