Mae prydferthwch ail i Eden
Yn dy fynwes gynnes, feinwen, [meinwen = cariadferch, gair barddonol]
Fwyn gariadus liwus lawen. [lliwus - teg yr olwg]
Seren syw, clyw di’r claf. [syw = llawen, siriol]
Addo’th gariad i mi heno,
Gwnawn amodau cyn ymado [amodau: yma 'vows']
I ymrwymo, doed a ddelo;
Rho dy gred, a dwed y doi.
Liwus lonnach, serch fy mynwes,
Wiwdeg orau ‘rioed a gerais [gwiwdeg orau = harddaf]
Mi’th gymeraf yn gymhares; [cymhares = partneres]
Rho dy gred, a d’wed y doi.
Yn dy lygaid caf wirionedd
Yn serennu gras a rhinwedd,
Mae dy weld i mi’n orfoledd: [gorfoledd = llawenydd mawr]
Seren syw, clyw di’r claf.
No comments:
Post a Comment