Paham mae dicter, O Myfanwy,
Yn llenwi'th lygaid duon di?
A'th ruddiau tirion, O Myfanwy, [tirion – caredig, mwyn, tyner]
Heb wrido wrth fy ngweled i? [gwrido – cochi yn yr wyneb]
Pa le mae'r
wên oedd ar dy wefus
Fu'n cynnau
'nghariad ffyddlon ffôl?
Pa le mae
sain dy eiriau melys,
Fu'n denu'n nghalon ar dy ôl?
Pa beth a wneuthum, O Myfanwy
I haeddu gwg dy ddwyrudd hardd? [gwg – frown] [grudd – boch]
Ai chwarae oeddit, O Myfanwy
 thanau euraidd serch dy fardd?
Wyt eiddo im drwy gywir amod [drwy gywir amod – addawaist ti]
Ai gormod cadw'th air i mi?
Ni cheisiaf fyth mo'th law, Myfanwy,
Heb gael dy galon gyda hi.
Myfanwy boed yr holl o'th fywyd
Dan heulwen ddisglair canol dydd.
A boed i rosyn gwridog iechyd
I ddawnsio ganmlwydd ar dy rudd.
Anghofia'r oll o'th addewidion
A wneist i rywun, 'ngeneth ddel,
A dyro'th law, Myfanwy dirion [dyro – rho]
I ddim ond dweud y gair "Ffarwél".
No comments:
Post a Comment