Croeso!

Blog ar gyfer pobl sy'n dysgu Cymraeg yn ardal Aberteifi yw hwn. Mae'n cynnwys adnoddau ac erthyglau sy'n berthnasol i'n dosbarthiadau sgwrsio. Byddwn ni'n trafod ystod eang o destunau yn ystod y flwyddyn (garddio, byd y natur, byd busnes a gwaith, hanes lleol, coginio, tafodiaith, barddoniaeth i enwi ond rhai o'r pynciau) gan edrych ar wahanol fathau o'r iaith. Croeso i bawb sydd am ddatblygu eu sgiliau Cymraeg.

Thursday 9 October 2014

A yw'r dosbarth canol Cymraeg yn lladd yr iaith?

Diolch unwaith eto i Ffwrti ac Ifan Morgan Jones am y darn hwn.

____________

Dydw i ddim yn siwr beth ysbrydolodd y ‘rant’ ['rant' Iola Wyn], ond ceir teimlad bod y dosbarth canol Cymraeg wedi bod dan y lach yn ddiweddar gan rai megis Gwilym Owen a Karen Owen.

Maent yn cyhuddo’r dosbarth canol Cymraeg o wladychu [= colonize]  trefi a phentrefi dosbarth gweithiol a gwneud i’r bobl deimlo fel “baw isa’r domen”.

Diddorol oedd nodi nad ydw i’n ffitio criteria Karen Owen o aelod o’r dosbarth canol Cymraeg. Serch hynny rwy’n eithaf siwr fy mod i’n 'ran o’r broblem' - os oes un!

Felly rydw i wedi creu prawf arbennig, a cwbl wyddonol, ar eich cyfer chi er mwyn i chi weld a ydych chi’n ddosbarth canol go iawn.

Cymerwch y cwis! – Pa mor ddosbarth canol Cymraeg ydw i?

Tabloid

Pythefnos yn ôl ges i gyfeirio at hen flogiad gen i fel prawf fy mod i’n hollol gywir am bopeth.

Wel, rhag i chi feddwl fy mod i’n ben mawr, y tro yma rydw i am rwygo un o fy hen erthyglau yn afrif [ = countless] rubannau.

Yn y blog hwnnw fe fues i’n dadlau bod llawer o gynnyrch y Gymraeg yn naturiol ‘uchel ael’ am mai dim ond drwy gyfrwng llenyddol a chelfyddydol y mae modd i’r iaith gynnig deunydd gwahanol i’r Saesneg. Camgymeriad fyddai darparu rwtsh ‘tabloidaidd’ ar gyfer yr hoi polloi.

Ers ysgrifennu’r blog hwnnw rydw i wedi treulio llawer iawn o amser yn astudio hanes cyhoeddi yn y Gymraeg, ac mae bellach yn reit amlwg nad oes digon wedi ei wneud er mwyn apelio at chwaeth [ = taste] y dosbarth gweithiol.

Dyna ran o’r rheswm o leiaf, yn fy marn i, pam y cefnwyd [ = troi cefn a gadael] ar y Gymraeg yn nifer o ardaloedd diwydiannol Cymru  - doedd diwylliant crefyddol, llenyddol, sych, Cymraeg y dosbarth canol ddim yn apelio at y dosbarth gweithiol a drigai yno.

Ers canol yr 19eg ganrif mae papurau Sul Saesneg wedi bod yn dylifo [ = ffrydio, arllwys]  i mewn i Gymru. Ac o flynyddoedd cynnar yr 20fed ganrif roedd papur dyddiol Llundeinig ar gael i’r mwyafrif.

Ac, yn anffodus, doedd yna ddim byd hanner mor gyffrous ym Maner ac Amserau Cymru ac oedd i’w gael yn y News of the World.

Roedd arweinwyr dosbarth canol (neu o leiaf uwch-ddosbarth gweithiol) y Cymry yn chwyrn [= vigorously] yn erbyn unrhyw fath o chwaraeon, sinema, a hyd yn oed am gyfnod nofelau a dramâu.

Rwy’n credu bod y Biwritaniaeth oedd ynghlwm wrth ddiwylliant anghydffurfiol [non-conformist] y Cymry Cymraeg hynny wedi rhoi’r argraff i nifer fod y Gymraeg yn iaith ddiflas, tra bod y Saesneg yn ddiddorol.

Hyd yn oed yn 2il hanner yr 20fed ganrif, roedd rhai, fel R. Tudur Jones, yn dadlau mai'r broblem oedd bod y diwylliant Cymraeg yn rhy adloniadol, yn hytrach nag i’r gwrthwyneb.

Ni fyddai, yn fy nhyb i [= yn fy marn i] felly, yn gwneud drwg ceisio apelio mwy at chwaeth fwy tabloidaidd mewn cyhoeddiadau Cymraeg, ac ar y teledu hefyd. Mae gan y Gymraeg ‘image problem,’ ys dywed y Sais, o hyd.

Fe geisiodd Heno gyflawni hyn am ryw bythefnos, cyn cael panic a thrawsffurfio yn ôl i mewn i Wedi 7, sy’n parhau i anelu at ddenu’r dosbarth canol Cymraeg yn unig.

Er bod llawer o droi trwyn a chwyno amdanynt ymysg y dosbarth canol, nid yw’n syndod efallai mai sioeau mwyaf poblogaidd S4C yw rhai fel Jonathan, sydd yn denu cynulleidfa na fyddai yn gwylio'r gweddill o arlwy'r sianel.

Ydi hyn yn golygu bod y dosbarth canol Cymraeg yn lladd yr iaith? Na, ond fe allai awgrymu ein bod ni yn gwneud yr un camgymeriad a dosbarth canol Cymraeg diwedd yr 19eg a dechrau’r 20fed ganrif, sef ceisio cadw’r iaith o fewn ffiniau sy’n dderbyniol i ni, yn hytrach na darparu ar gyfer chwaeth y mwyafrif.

Cyn i rywun fy nghyhuddo o fod yn snobyddlyd, rwy’n credu bod y ‘mwyafrif’ hefyd yn cynnwys nifer a fyddai yn cynnwys eu hunain ymysg y dosbarth canol Cymraeg.

Rydw i newydd fod yn gwylio’r X Factor – nawr fe fyddaf yn bwrw ati â nofel Gymraeg. Rwy’n gwybod pa un fydd fwyaf poblogaidd!

No comments:

Post a Comment