Tra bo dau
Mae’r hon a gâr fy ’nghalon i, [a gâr - who loves]
Ymhell oddi yma’n byw
A hiraeth am ei gweled hi
A’m gwnaeth yn llwyd fy lliw.
Ymhell oddi yma’n byw
A hiraeth am ei gweled hi
A’m gwnaeth yn llwyd fy lliw.
CYTGAN
Cyfoeth nid yw ond oferedd [oferedd - vanity]
Glendid nid yw yn parhau; [glendid - beauty]
Ond cariad pur sydd fel y dur,
Yn para tra, tra bo dau
O’r dewis hardd ddewisais i
Oedd dewis lodes lân; [lodes - merch]
A chyn bydd ’difar gennyf fi ['difar - edifar - regret]
O rhewi wnaiff y tân.
Cytgan
Mae f’annwyl Rhian dros y lli,-
Gobeithio’i bod hi’n iach-
Rwy’n caru’r tir lle cerdda hi
Dan wraidd fy nghalon fach.
No comments:
Post a Comment