Mae cynnwys Geiriadur Prifysgol Cymru bellach i’w gael ar y we (cliciwch yma).
Mae’r fersiwn ddigidol yn cynnwys bron i wyth miliwn o eiriau,
gyda geiriau newydd fel ‘cyfrifiadur’, ‘cymuned’ a ‘chyfathrebu’ wedi eu
hychwanegu, gan nad oedden nhw’n ymddangos yn y fersiwn brint.
Geiriadur Prifysgol Cymru yw’r geiriadur Cymraeg hanesyddol
safonol cyntaf ac fe gafodd ei sefydlu yn 1921 gan Fwrdd Gwybodau
Celtaidd Prifysgol Cymru. Gellir ei gymharu’n fras o ran ei ddull â’r Oxford English Dictionary, ond o ran ei fformat mae hanner ffordd rhwng y geiriadur hwnnw a’r Shorter Oxford English Dictionary.
No comments:
Post a Comment