Croeso!

Blog ar gyfer pobl sy'n dysgu Cymraeg yn ardal Aberteifi yw hwn. Mae'n cynnwys adnoddau ac erthyglau sy'n berthnasol i'n dosbarthiadau sgwrsio. Byddwn ni'n trafod ystod eang o destunau yn ystod y flwyddyn (garddio, byd y natur, byd busnes a gwaith, hanes lleol, coginio, tafodiaith, barddoniaeth i enwi ond rhai o'r pynciau) gan edrych ar wahanol fathau o'r iaith. Croeso i bawb sydd am ddatblygu eu sgiliau Cymraeg.

Saturday 28 June 2014

Celwyddau mae rhieni'n eu dweud wrth eu plant....

Diolch unwaith eto i Ffrwti am hyn.

Dyn ni i gyd wedi profi'r amheuaeth 'na pan fydd rhiant yn dweud wrthon ni bod rhywbeth penodol yn mynd i ddigwydd oni bai ein bod ni, y plentyn, yn bihafio neu'n gwneud fel mae'n rhieni ni'n ei ddweud.

Yn fan hyn, dw i wedi casglu rhai o'r celwyddau dw i wedi'u clywed mewn hanesion gan ffrindiau, teulu ac eraill.

 
"Rhaid i ti fihafio neu fydd Siôn Corn ddim yn dod."
Dyma glasur. Dw i'n siŵr bod y frawddeg hon wedi codi ofn ar gannoedd o blant ledled y byd.



"Paid a llyncu'r gwm cnoi 'na, neu fydd e'n sownd ynddot ti am byth."
Dyna ddeud wrth Mr. Wrigley felly 'te? Mae 'na amrywiadau lu ar y celwydd hwn. Un o fy hoff rai i ydy ei fod y gwm cnoi yn ffurfio gwe yn y stumog sy'n rhwystro bwyd rhag cael ei dreulio.






"Bwyta dy grystia' i ti gael gwallt cyrls."
Dw i ddim yn gwybod o le daw'r resymeg tu ôl i hwn. Hyd y gwn i does 'na ddim tystiolaeth sy'n awgrymu bod crystiau yn gwneud gwallt y sawl sy'n eu bwyta nhw'n gyrliog.



 "Os nad wyt ti a dy frawd/chwaer yn bihafio bydda' i'n eich anfon chi i ysgol breswyl ar y môr."
Oes 'na ffasiwn le yn bodoli? Y cyfan dw i'n gwybod yw bod y frawddeg hon yn codi mwy o ofn arna i na wnaeth bygwth bod Siôn Corn yn mynd i anghofio amdana' i erioed!





"Watsia di, os ti'n tynnu stumia fel 'na neith e sticio rhyw ddydd."

Eto, mi oedd 'na amrywiadau lu ar y celwydd hwn hefyd, un yn cynnwys bod yr anffawd hwn yn taro plentyn pe bai'r gwynt yn newid cyfeiriad ar y pryd.



"Na, pan mae'r miwsig yn chwarae mae'n golygu eu bod nhw wedi rhedeg allan o hufen iâ."
Bechod, cafodd y plant a lyncodd y celwydd hwn gam hufen ia-aidd. Dim 99 na Screwball ar bnawn heulog ar ôl 'rysgol - achos eu bod nhw wedi rhedeg allan o hufen ia. Siom.




"Os byddi di'n pi-pi yn y pwll nofio bydd y dŵr yn troi'n goch."
Sbardun paranoia plentyn sydd â phledren wan. Byddai'n rhaid cymryd trip i'r tŷ bach bob deg munud jyst i sicrhau nad oedd 'drips' yn dod allan.



Un o'r gwersi cyntaf mae rhieni'n ei dysgu i blant yw i beidio â dweud celwydd. Eironig.

Mae'n rhaid codi ein het i rieni yn gyffredinol am fod mor ddyfeisgar gyda'u celwyddau. Er gwaethaf eu celwydd a'u gallu i ddistyllu ofn mae'n nhw wedi ei dweud nhw "er ein lles ni".

Duwcs, dyn ni ddim wedi troi ma's yn rhy ddrwg.

No comments:

Post a Comment