Croeso!

Blog ar gyfer pobl sy'n dysgu Cymraeg yn ardal Aberteifi yw hwn. Mae'n cynnwys adnoddau ac erthyglau sy'n berthnasol i'n dosbarthiadau sgwrsio. Byddwn ni'n trafod ystod eang o destunau yn ystod y flwyddyn (garddio, byd y natur, byd busnes a gwaith, hanes lleol, coginio, tafodiaith, barddoniaeth i enwi ond rhai o'r pynciau) gan edrych ar wahanol fathau o'r iaith. Croeso i bawb sydd am ddatblygu eu sgiliau Cymraeg.

Tuesday 25 February 2014

Adleoli Pencadlys S4C

Mae’r drafodaeth wedi bod yn un brwd dros yr wythnosau diwethaf ynglŷn â dyfodol Pencadlys S4C, ar ôl i’r Sianel gyhoeddi eu bod nhw’n ystyried symud o Gaerdydd.

Caernarfon a Chaerfyrddin yw’r ddwy dref sydd wedi rhoi eu henwau ymlaen hyd yn hyn, gyda chynnig Caernarfon yn cael ei harwain gan Gyngor Gwynedd a chais Caerfyrddin wedi’i arwain gan Brifysgol Y Drindod Dewi Sant.

Mae’r ddwy ymgyrch wedi bod yn pwysleisio rhai o fanteision dewis eu trefi nhw fel lleoliad Pencadlys y sianel – ond mae’n bosib y gall S4C benderfynu aros yng Nghaerdydd.

Caerfyrddin?

Cynhaliwyd cyfarfod yr wythnos diwethaf yng Nghaerfyrddin gan grŵp Egin sydd yn ymgyrchu i ddod a’r Pencadlys i’r dref.

Maen nhw’n dadlau y byddai’n hwb enfawr i ardal Sir Gaerfyrddin a Cheredigion, ble mae’r Gymraeg wedi dirywio, yn ôl y Cyfrifiad diwethaf.

Maen nhw hefyd yn pwyntio at sefydliadau fel y Theatr Genedlaethol yng Nghaerfyrddin fel rhai all gyfrannu at greu hwb creadigol a diwylliannol yn y dref.



Os 'dych chi'n cytuno gyda'r bobl yma, cewch chi arwyddo llythyr agored at Awdurdod S4C (yn fan hyn) .

Caernarfon?

Ar y llaw arall mae ymgyrchwyr o blaid Caernarfon wedi dadlau y byddai modd creu hwb cyfryngol yn y gogledd petai pencadlys S4C yn symud i’r dref.

Mae’r ardal eisoes yn gartref i nifer o gwmnïau cyfryngol llai gan gynnwys nifer yn adeilad Galeri’r dref, ynghyd a chanolfan Pontio a stiwdios y BBC ym Mangor.

Byddai creu clwstwr o sefydliadau cyfryngol a chreadigol o gwmpas Caernarfon hefyd yn cydbwyso llawer o swyddi sydd ar hyn o bryd yn mynd i Gaerdydd, yn ôl cefnogwyr.

… neu aros yng Nghaerdydd?

Wrth gwrs gall S4C benderfynu nad ydyn nhw am symud eu Pencadlys o gwbl, ac aros yn eu lleoliad presennol yng Nghaerdydd.

Mae rhai’n dadlau y byddai hyn yn arbed ar gostau symud, a bod canolfan yn y brifddinas yn gwneud mwy o synnwyr beth bynnag.

Felly ble ydych chi’n credu dylai Pencadlys S4C fod?

(Diolch i Golwg360)

No comments:

Post a Comment