Mae’r grefft o ddatgan
barddoniaeth i gyfeiliant [cyfeiliant - accompaniment] telyn, ar ryw ffurf neu’i gilydd, yn mynd yn
ôl yn bell iawn yn hanes y diwylliant Cymraeg. Yn anffodus, mae’r union
ffurf honno wedi hen fynd ar goll yn niwloedd y gorffennol, ac ni allwn
ond dyfalu sut yn union yr oedd canu gyda’r tannau [tant - string] yn swnio ganrifoedd
lawer yn ôl. Gwahanol iawn i heddiw, bid siwr. O ddechrau’r ugeinfed
ganrif y daw’r recordiadau sain cynharaf o ganu cerdd dant, ac mae hyd
yn oed y recordiadau hynny yn swnio’n wahanol iawn i gerdd dant yr unfed
ganrif ar hugain. Ar bapur, nid oes cofnod cerddorol o osodiad [setting] cerdd dant hyd at 1839, yn llyfr John Parry (Bardd Alaw), The Welsh Harper – ond nid oes sicrwydd fod y gosodiad hwnnw `chwaith yn adlewyrchiad cywir o’r hyn a glywid ar lafar gwlad. Mae’r delyn wedi chwarae rhan amlwg yn nhraddodiad cerddorol pob un o’r cenhedloedd Celtaidd. Yr hyn sy’n arbennig ynglyn â’r traddodiad Cymreig efallai yw’r berthynas glòs a ddatblygodd rhwng ein barddoniaeth a’n cerddoriaeth. Mewn cerdd dant, mae’r ddwy elfen yn gwbl annatod [integral]. Ar y geiriau y mae’r pwyslais, fodd bynnag: cyfrwng i gyflwyno barddoniaeth yw cerdd dant, a datgan y geiriau yn glir ac effeithiol yw’r nod bob amser. Credir mai’r un person oedd y telynor a’r datgeiniad [singer] ar un adeg – a cheir awgrym fod y person hwnnw, yn aml iawn, hefyd yn fardd. Roedd hi felly yn grefft arbenigol iawn, yn gyfyngedig i lysoedd y tywysogion a’r uchelwyr. Ond wedi i oes aur y tywysogion a’r uchelwyr [aristocrats] Cymreig ddod i ben, fe gymerwyd yr awenau o dipyn i beth [gradually] gan y werin bobl. Yr Ugeinfed Ganrif Pan gyhoeddodd Telynor Mawddwy ei werslyfr cerdd dant Y Tant Aur ym 1911, fe werthwyd y copïau i gyd o fewn dim o dro. Mae’n amlwg felly fod yna ddiddordeb yn yr hen grefft ym mhob rhan o’r wlad. Ond ar yr un pryd, mae’n ymddangos fod cryn lawer o ddadlau ac anghytuno ynglŷn â gwahanol ddulliau o osod, pa geinciau [cainc - tune] oedd yn addas, ac yn y blaen. Roedd diffyg cyfarwyddiadau a rheolau pendant yn creu ansicrwydd, a’r diffyg hwn a arweiniodd at sefydlu’r Gymdeithas Gerdd Dant ym 1934. Ar y pryd, roedd statws cerdd dant yn bur isel. Yn Eisteddfod Genedlaethol Wrecsam 1933, er enghraifft, fe wthiwyd y cystadlaethau cerdd dant i gyd i un o’r pebyll ymylol. Cwynai ambell un am ddirywiad mewn safonau o’i gymharu â’r dyddiau a fu. Sefydlu’r Gymdeithas Gerdd Dant ym 1934 oedd y digwyddiad mwyaf tyngedfennol a fu yn hanes y grefft erioed, oherwydd fe arweiniodd at dwf a datblygiadau mawr. Aethpwyd ati i dynnu rhestr o reolau unwaith ac am byth. Nid mater bach oedd hynny, a bu llawer o drafod a dadlau. Yn wir, ni chafodd yr holl reolau eu pennu’n derfynol hyd at y chwedegau. Cwynai rhai ar y pryd fod rheolau fel hyn yn fwy tebyg o fygu canu gyda’r tannau yn hytrach na’i hyrwyddo, ond yr effaith bwysicaf yn y pen draw oedd dileu unrhyw ansicrwydd, a chreu trefn allan o anhrefn. Ail Hanner yr Ugeinfed Ganrif Un o gewri’r byd cerdd dant yn ail hanner yr ugeinfed ganrif, a phrif hanesydd y gymdeithas, yw Aled Lloyd Davies. Yn ei lyfr Hud a Hanes Cerdd Dannau mae’n nodi 1947 fel dechrau cyfnod o adfywiad gwirioneddol. Bu newid mawr mewn cerdd dant yn ystod yr ugeinfed ganrif. Ar ddechrau’r ganrif, crefft i unigolion yn unig oedd hi. Yna dechreuwyd ffurfio deuawdau a phartïon bychain. Mentrwyd ymhellach i faes triawdau a phedwarawdau, ac yna, o’r 70au ymlaen, fe ymddangosodd corau cerdd dant am y tro cyntaf. Tyfodd cystadleuaeth y corau i fod yn un o’r rhai mwyaf poblogaidd, ac nid cyd-ddigwyddiad yw mai dyma’r cyfnod mwyaf llewyrchus erioed o ran nifer cystadleuwyr a chynulleidfaoedd. Yn y pumdegau, roedd hi’n dal yn bosibl cynnal yr Ŵyl Gerdd Dant mewn neuaddau pentref bychain fel un Penybontfawr, ond bu raid chwilio am lefydd mwy yn fuan iawn. Dechreuodd yr ŵyl gael sylw gan y cyfryngau radio a theledu, ac o’r nawdegau ymlaen bu S4C yn ei darlledu’n flynyddol.
|
Croeso!
Blog ar gyfer pobl sy'n dysgu Cymraeg yn ardal Aberteifi yw hwn. Mae'n cynnwys adnoddau ac erthyglau sy'n berthnasol i'n dosbarthiadau sgwrsio. Byddwn ni'n trafod ystod eang o destunau yn ystod y flwyddyn (garddio, byd y natur, byd busnes a gwaith, hanes lleol, coginio, tafodiaith, barddoniaeth i enwi ond rhai o'r pynciau) gan edrych ar wahanol fathau o'r iaith. Croeso i bawb sydd am ddatblygu eu sgiliau Cymraeg.
Thursday 2 January 2014
Hanes Cerdd Dant
Labels:
barddoniaeth,
cerdd dant,
cerddoriaeth,
traddodiadau
Subscribe to:
Post Comments (Atom)
No comments:
Post a Comment