Gwenan Gibbard - Cenedl gan Gerallt Lloyd Owen
'Daw dydd y bydd mawr y rhai bychain' *
Roedd yma genedl cyn i genhedloedd
Wthio'u rhifedi ar ddieithr fydoedd;
Roedd yma nodded y myrdd mynyddoedd,
Galar hen hil yn y glaw a'r niwloedd;
Hen iaith cyn geni ieithoedd i ddynion,
Deuai'r acenion gyda'r drycinoedd.
Hon oedd ein cenedl drwy bob cenhedlaeth
A hon fu'n arwain ein cof a'n hiraeth;
Hon wybu hanes ein hannibyniaeth
A hon wybu gynnal bob gwahaniaeth;
Rhoi arwyr ac arwriaeth i'w coffáu,
Mynych delynau a mwyn chwedloniaeth.
Bydd yma genedl pan fydd cenhedloedd
Yn anghofiedig a'u heang fydoedd;
Bydd yma nodded tra bydd mynyddoedd,
Bydd eco'r glewion tra bydd creigleoedd,
A bydd iaith tra bydd ieithoedd, a'i geiriau
Yn rhoi oeriasau i lawr yr oesoedd.
* Dyfyniad o gerdd Waldo Williams
rhifedi - number
nodded - gair henffasiwn am nawdd: lloches, diogelwch [refuge]
myrdd - rhif diderfyn (infinity, myriad)
wybu - gwybu [amser gorffennol ffurfiol o 'gwybod']
arwriaeth - heroism
coffáu - cofio, gwneud rhywbeth er cof am rywun neu rywbeth [commemmorate]
mynych - aml, cyson
mwyn - caredig, tyner
glewion - glew: dewr, di-ofn
creigleoedd - rocky places
oeriasau - oer+ias: chill, shiver [?]
drycin - storm o wynt a glaw
No comments:
Post a Comment