Mae yna negeseuon clir wedi dod allan o Sgwrs Fawr Radio Cymru yr wythnos hon, yn ôl Golygydd newydd yr orsaf.
Yn siarad ar raglen Taro’r Post ar Faes yr
Eisteddfod y prynhawn yma, dywedodd Betsan Powys hefyd bod ganddi
benderfyniadau anodd i’w gwneud ac na fydd y rheiny’n plesio pawb.
Yn ôl y newyddiadurwraig a ddechreuodd ar ei gwaith y mis
diwetha’, fe fydd hi’n cyhoeddi “cyfeiriad clir” o ran ei gweledigaeth
ar gyfer Radio Cymru erbyn mis Hydref.
Fe fydd yna elfennau o ganlyniadau’r Sgwrs Fawr yn cael ei
chyhoeddi bryd hynny, ond nid y cyfan gan eu bod rhai ohonynt yn
“gymhleth”, meddai wedyn.
Mynegodd hefyd ei syniad o gael rhaglen a fyddai’n cael ei
chwarae yn ystod cyfnod y mae plant yn mynd adref ar ddiwedd diwrnod
ysgol.
“Mae yna ryw bwynt yn y dydd lle r’yn ni angen apelio at y
gynulleidfa iau,” meddai Betsan Powys. “Mi fyswn i wrth fy modd yn cael
rhaglen sy’n apelio at blant ar y ffordd o’r ysgol yn y prynhawn.”
[Diolch i Golwg360]
No comments:
Post a Comment