Tra bu 20 o aelodau
Cymdeithas yr Iaith yn picedu siop M&S Caerfyrddin heddiw (11 Mai) oherwydd
ei diffyg defnydd o'r Gymraeg wrth ailfrandio'r siop,
gwnaeth un o'r aelodau ymwisgo mewn siwt a het M&S a chyflwyno
ei hun fel "Mark Spencer". Treuliodd 5 munud yn dweud wrth siopwyr na
allai M&S ymdrafferthu gyda materion bach "pitw" fel yr
iaith Gymraeg ac y dylai pobl leol fod yn falch fod y siop yn y dre gan
eu bod yn gwerthu'r "pants gorau yn y byd".
Mae'r Gymdeithas wedi ailfrandio'r siop fel ("Methiant & Siom")
Meddai Hazel Charles Evans, sydd wedi bod yn ymgyrchu ers blynyddoedd:
“Yn ogystal â chael hwyl am
ben cymeriad Mark Spencer heddiw, rydyn ni'n lansio ymgyrch i Gymreigio
Marks and Spencer. Byddwn ni'n cyhoeddi cyfres o brotestiadau a
digwyddiadau i bwyso ar y siop dros y misoedd i ddod. Bydd y nesaf ar
ddydd Sadwrn 29ain Mehefin am 11 o’r gloch pryd y byddwn ni'n cyflwyno
pants i'r siop i ddangos iddyn nhw fod eu polisi iaith yn “pants”. Rydyn
ni'n gofyn i bobl ddod â phants gyda nhw i'r brotest neu i'w gadael
gyda ni ar stondin y Gymdeithas yn Eisteddfod yr Urdd.
“Rydyn ni wedi cael problemau
gyda Marks and Spencer ers blynyddoedd. Yn ddiweddar fe wnaeth rhai o
staff y siop gwrdd gyda ni cyn iddyn nhw ail-frandio'r siop yng
Nghaerfyrddin. Er nad oedden nhw'n bwriadu gwneud popeth roedden ni'n
gofyn amdano roedden ni'n eithaf gobeithiol. Ond aeth arwyddion newydd
lan yn y siop yn ddiweddar – rhai uniaith Saesneg. Mae hynny'n gam nôl o
ran y cwmni. Methiant ydyn nhw, ac mae'n Siom i ni. Rydyn yn eu
hail-frandio yn siop "Methiant a Siom"
“Mae'r cymeriad Mark Spencer yn dod i Gaerfyrddin heddiw i ddangos yn
union beth yw agwedd y siop tuag at Gaerfyrddin a'r Gymraeg – does dim
diddordeb na pharch gyda nhw tuag aton ni, eu prif ddiddordeb yw gwneud
elw.”
Mae Cymdeithas yr Iaith yn galw ar Marks and Spencer i sicrhau:
1.Arwyddion parhaol a dros dro yn ddwyieithog
2. Staff sy'n siarad Cymraeg a bod recriwtio staff Cymraeg3. Defnydd o’r uchelseinydd yn ddwyieithog
4. Cynnyrch o Gymru’n cael ei labelu fel cynnyrch o Gymru yn hytrach na Phrydain
No comments:
Post a Comment