Croeso!

Blog ar gyfer pobl sy'n dysgu Cymraeg yn ardal Aberteifi yw hwn. Mae'n cynnwys adnoddau ac erthyglau sy'n berthnasol i'n dosbarthiadau sgwrsio. Byddwn ni'n trafod ystod eang o destunau yn ystod y flwyddyn (garddio, byd y natur, byd busnes a gwaith, hanes lleol, coginio, tafodiaith, barddoniaeth i enwi ond rhai o'r pynciau) gan edrych ar wahanol fathau o'r iaith. Croeso i bawb sydd am ddatblygu eu sgiliau Cymraeg.

Saturday 27 April 2013

Mwy na geiriau....


    Mae Llywodraeth Cymru am wella’r gwasanaethau i siaradwyr Cymraeg, fel ei 
    bod yn cwrdd â’u hanghenion nhw a hefyd gwneud yn siŵr eu bod yn cael y gofal gore 
    posib. Mae’n golygu y bydd y gwasanaethau trwy’r broses ofal i gyd ar gael yn 
   Gymraeg, felly fe fydden nhw’n gallu defnyddio’r iaith sy’n gallu dod yn naturiol
   iddyn nhw i gyfleu eu hanghenion yn llawer mwy effeithiol.

Fe fydd pawb yn elwa - y defnyddiwr, teulu, gofalwyr, a hefyd y gwasanaethau i gyd; iechyd gofal a chymdeithasol. 

Mae tystiolaeth ymchwil a gynhaliwyd yn 2011 yn dangos mai ar sail galw yn hytrach nag angen y mae gwasanaeth Cymraeg yn cael ei ddarparu ar hyn o bryd. Mae’r rhan fwyaf o achosion yr ymchwil yn dangos fod yna ddiffyg cydraddoldeb, beth bynnag fo oedran y defnyddiwr.


Gwenan Prysor


Sgript

Mae Gwenan Prysor yn disgrifio’r amser hwnnw pan geson nhw wybod bod eu mab yn diodde o lewcemia, a’r berthynas a ddatblygodd rhyngddi hi a’r nyrsys oedd yn siarad Cymraeg yma yng Nghymru a hefyd yr ochr draw i’r ffin yn Ysbyty Alder Hay

Wel y sefyllfa oedden ni ynddo oedd bod Deio wedi cael ei ddiagnosio efo lewcemia, a odden ni’n derbyn gwasanaeth yn Glan Clwyd a hefyd yn Alder Hay yn Lerpwl. Be ddigwyddodd o ran yr iaith Gymraeg oedd, chi’n gwybod, cymysgedd wir. Yn Glan Clwyd roedd ‘na dipyn o staff yn siarad Cymraeg yna, ond yn Lerpwl hefyd, yn Alder Hay mi oedd ‘na chydig o staff yn siarad Cymraeg, ac oedd rhywun yn gallu ffeindio nhw allan yn reit fuan - oedd yn enwa ni wrth gwrs yn awgrymu ‘yn bod ni’n dod o Gymru, a oedd ‘na amball i nyrs yn gweithio ar y ward, a hefyd oedd un o’r doctoriaid oedd ddim yn gweithio’n uniongyrchol efo ni, ond mi oedd o’n siarad Cymraeg, ac oedd hynny’n rhoi ryw deimlad mwy cartrefol rhywsut, ‘fatha bod ‘na bobl yn ‘yn dallt ni ac yn ymwybodol o’n cefndir ni ella ynde.

Yr effaith o ran defnydd o’r Gymraeg oedd bod rhywun yn teimlo yn mwy cartrefol, ac yn teimlo bod rhywun yn medru rhoi ei stori drosodd yn gliriach. Ond dwi ddim isio awgrymu bod rhaid i bawb yn y gwasanaeth iechyd siarad Cymraeg achos yn un peth fydd hwnna byth yn mynd i ddigwydd. Ond hefyd, mae ‘na rôl i bobl sy’ ddim yn siarad Cymraeg o fewn y Gwasanaeth Iechyd achos ma’ na bosib dallt pobl heb siarad yr iaith, ond wrth fod yn sensitif a helpu pobl allu cyfleu be ma nhw isio gyfleu yn gliriach ‘lly.

On i yn teimlo bod bobl heb ddigon o hyder i siarad Cymraeg ac oherwydd bod gen i ddiddordeb yn y pwnc yma o’n i’n trio gneud o’n haws iddyn nhw a deud dio’m yn bwysig be ‘di lefel eich Cymraeg chi, nid arholiad Cymraeg ydi hwn, ond ffordd o neud person bach chwech oed i demlo’n mwy cartrefol mewn lle diarth iawn, a mewn ffordd bo’ nhw’n sylweddoli ‘na nid amdan eu hanghenion nhw a’u defnydd nhw o’r Gymraeg mae’r Gwasanaeth Iechyd ond am neud profiad cleifion mwya’ bregus cymdeithas yn teimlo’n fwy cartrefol mewn sefyllfa o bryder ac ofn mae’n debyg.

O’n i’n treulio lot o amser ar y ward yn Ysbyty Glan Clwyd - nyrsys yn deud ‘O, ‘di Nghymraeg i ddim digon da’ ac o’n i’n deud ‘thyn nhw mewn ffordd mwya ffeind fedrwn i ‘lly, ‘dydi hwn ddim amdanach chi wir, ma’ hwn amdan ‘yn hogyn bach i angan y gwasanaeth gora fedar o gael’, a wedyn trio defnyddio hynny o sgilia’ iaith sydd gynnyn nhw, mor fychan ne’ mor ddiffygiol ydi hwnnw yn eu barn nhw. Mae ‘chydig iawn yn helpu lot i jest torri’r ffinia’ ‘na lawr a neud i bobl deimlo’n gartrefol, achos hwnna wedyn ‘di’r allwedd i gynnig gwasanaeth a gofal o safon uwch.



Hywel Jones



Mae gan wraig Hywel Jones Alzheimers, ac mae Hywel wedi cael profiad uniongyrchol o ddelio gyda’r gwasanaethau gofal, wrth iddyn nhw chwilio am gartref addas i Siân ei wraig

Fy sefyllfa bersonol i ydi bod fy ngwraig, Siân, yn diodde o dementia cynnar. Mae hwn yn bwnc anodd oherwydd mae’n rhaid gwahaniaethu rhwng y gwasanaethau arbennig ‘da ni wedi’u derbyn fel teulu, a’r gwasanaethau ddyle fod ar gael drwy gyfrwng y Gymraeg. 

Mae’r gwasanaeth cefnogol yn y cartref wedi gallu darparu drwy gyfrwng y Gymraeg, Crossroads gan bennaf, tan cafodd Siân ofal mwy hirdymor, sef bore a phnawn. Doedden ni ddim yn gallu cael person Cymraeg drwy’r dydd bob dydd. Ac yn anffodus o’n i’n teimlo fod cael rhyw fath o gysondeb yn y person oedd yn dod i weld Siân yn bwysicach efalle na thorri y gofal Cymraeg a’i rannu fo rhwng Cymraeg a Saesneg gwahanol bobl. Felly fe fu’n rhaid i ni benderfynu, na, fe sticiwn ni efo’r ofalwraig yma oherwydd mae ganddi berthynas dda hefo Siân ac mae hi hefyd yn gwybod sut mae Siân yn meddwl ac yn gweithio a be mae hi eisio, er nad ydi hi’n siarad Cymraeg. 

A nawr dyma ni bellach yn symud ymlaen i’r cam nesaf rwan i geisio chwilio am gartref gofal i Siân. ‘Da chi wir wedi ceisio dod o hyd i gartref gofal? Mae’n broses erchyll. ‘Sna’m un rhestr ganolog i gael. Does ‘na ddim un. Oni bai mod i’n credu mor gry’, falla bydden ni’n '..ia, iawn', a dwi'n gweld aml i deulu sy'n '..ia,’ achos bod y gofal. Na, dydi’r sefyllfa ddim yn iawn. Dwi’n cofio un enghraifft bach - mynd i gwarfod efo Siân o’n i. Ym, do you want a cup of tea Mr beth bynnag oedd o, ac oedd ei wraig o hefo fo. ‘Be wedodd e nawr?’ Chi'n gwbod? Ddyle hynna ddim digwydd.


No comments:

Post a Comment