Croeso!

Blog ar gyfer pobl sy'n dysgu Cymraeg yn ardal Aberteifi yw hwn. Mae'n cynnwys adnoddau ac erthyglau sy'n berthnasol i'n dosbarthiadau sgwrsio. Byddwn ni'n trafod ystod eang o destunau yn ystod y flwyddyn (garddio, byd y natur, byd busnes a gwaith, hanes lleol, coginio, tafodiaith, barddoniaeth i enwi ond rhai o'r pynciau) gan edrych ar wahanol fathau o'r iaith. Croeso i bawb sydd am ddatblygu eu sgiliau Cymraeg.

Monday 8 April 2013

Ffermydd gwynt - geirfa



ynni (g) - energy  
ynni adnewyddol/adnewyddadwy - renewable energy
ffynhonellau adnewyddadwy - renewable sources
cynhyrchu - to produce
hunan-gynhaliol - self-sustaining
isadeiledd (g) - infrastructure
pwerdai - power stations
nwy - gas
glo - coal
ynni niwclear - nuclear energy
ynni heulol/ynni'r haul - solar energy
trydan (g) - electricity
cynaliadwy - sustainable
ymrwymo - to commit

[Darn o Blog Menai]


Efallai ei bod werth aros yma i edrych ar ambell i ffaith. Mae'r DU yn gwneud defnydd cymharol drwm o ynni - er mai tua 1% o boblogaeth y Byd sy'n byw yma, gwneir defnydd o tua 2% o'r ynni sy'n cael ei ddefnyddio tros y Byd. Daw tua tri chwarter y trydan a gynhyrchir yn y DU o bwerdai nwy a glo, gyda niwclear ar tua 15% a dulliau adnewyddadwy yn llai na hanner hynny.
Mae'r DU wedi ymrwymo i gwrdd a tharged o gynhyrchu 15% o'i thrydan o ffynonellau adnewyddadwy erbyn 2015. Tua 6.7% ydi'r ffigwr ar hyn o bryd. 'Dydi hyn ddim yn darged arbennig o uchelgeisiol - mae targed yr Undeb Ewropeaidd yn ei gyfanrwydd yn 20%, ac mae'r Alban yn bwriadu cyflenwi 100% o'i hanghenion trwy ddulliau adnewyddadwy erbyn 2020. Does yna ddim digon o bwer wedi ei ddatganoli i'r Cynulliad i ddylanwadu ar bethau llawer y naill ffordd na'r llall, a 'dydi llywodraeth Carwyn Jones ddim eisiau'r pwer chwaith. Esiampl arall o ddiffyg uchelgais llwyr y Blaid Lafur Gymreig.

O edrych yn benodol ar ynni gwynt, ar ddiwedd 2009 roedd y DU yn cynhyrchu 3.2% o'i hynni trwy'r dull hwnnw. Y ffigyrau ar gyfer Denmarc oedd 24%, Sbaen 14.4%, Portiwgal 14%, iwerddon 10.1%, Yr Almaen 9.3%. Mae Prydain ymysg prif fewnforwyr trydan y Byd - oherwydd nad ydi'r capasiti presenol yn ddigonol i gwrdd a'n anghenion. Yn wir mae'r Grid Cenedlaethol wedi ei gysylltu a grid yr Iseldiroedd i bwrpas mewnforio trydan.




Yn bersonol, ac mewn cyd-destun Cymreig, y pwynt pwysig yw ein bod yn cynhyrchu mwy o ynni na 'rydym yn ddefnyddio (cynhyrchu tua 9% o ynni y DU, defnyddio tua 6.7%), felly byddwn i'n disgwyl i flogiwr Plaid ddadlau na ddylai tirlun Cymru gael ei chwalu ar gyfer rhywbeth na fydd pobl Cymru yn ei ddefnyddio nac yn elwa ohonno.

Ro'n i meddwl ein bod wedi dysgu gwersi o Dryweryn a.y.y.b, ond ella fod ceisio sgorio ryw bwynt gwleidyddol neu ddau yn bwysicach....
O.N - mae angen dadl ehangach am ynni yng Nghymru, ac mae angen canolbwyntio ar ynni adnewyddol, yn ogystal a creu ynni cymunedol, ble byddai cymunedau'n dod yn llwyr hunan-gynhaliol. Bydd angen i'r Cynulliad gael grym llwyr dros ynni yng Nghymru er mwyn cyflawni hyn, yn ogystal a chymryd y grym dros isadeiledd ynni ag ati oddi wrth y cwmniau cyflenwi mawr.







No comments:

Post a Comment