Croeso!

Blog ar gyfer pobl sy'n dysgu Cymraeg yn ardal Aberteifi yw hwn. Mae'n cynnwys adnoddau ac erthyglau sy'n berthnasol i'n dosbarthiadau sgwrsio. Byddwn ni'n trafod ystod eang o destunau yn ystod y flwyddyn (garddio, byd y natur, byd busnes a gwaith, hanes lleol, coginio, tafodiaith, barddoniaeth i enwi ond rhai o'r pynciau) gan edrych ar wahanol fathau o'r iaith. Croeso i bawb sydd am ddatblygu eu sgiliau Cymraeg.

Tuesday, 13 November 2012

Cywair - pa fath o iaith?

Diolch i Ganolfan Bedwyr am y deunydd hwn.

CYWEIRIAU’R IAITH –  BETH YW CYWAIR?

Mae anghytuno hyd yn oed ymhlith arbenigwyr; darllenwch y dyfyniadau isod:
• ‘Mewn astudiaeth ar y Gymraeg, defnyddia Clayton (1978) y label cywair (register). Ond mae i’r enw hwn hanes amrywiol yn y maes o astudio amrywiaeth iaith, ac mae tuedd i’w ddefnyddio yn label cyffredinol ar gyfer sawl math o amrywiaeth.’
Bob Morris Jones yn Ar Lafar ac ar Bapur (GAA, 1993)
• ‘I have used the term ‘style’…to refer to language variation which reflects changes in situational factors, such as addressee, setting, task, or topic. Some linguists describe this kind of language variation as ‘register’ variation. Others use the term ‘register’ more narrowly to describe the specific vocabulary associated with different occupational groups. The distinction is not always clear…’
Janet Holmes yn An Introduction to Sociolinguistics (Longman, 1992)
• ‘Register: a socially defined variety of language, e.g. scientific, legal, etc.’
(Crystal, D., Cambridge Encyclopedia of Language 2nd edition. (CUP, 1998)
• ‘Iaith fydd yn gweddu i’r gynulleidfa ac yn addas i’r pwrpas.’
(Gwefan Canolfan Bedwyr, www.bangor.ac.uk)
Pa un o’r dyfyniadau hyn sy’n apelio fwyaf atoch?

CYWEIRIAU’R IAITH – TAFLEN 1b

At ddibenion eich gwaith ysgrifennu yn y coleg, mae’n debyg mai’r diffiniad symlaf (a’r hawsaf) yw’r olaf, sef diffiniad Canolfan Bedwyr:
‘Iaith fydd yn gweddu i’r gynulleidfa ac yn addas i’r pwrpas’
Wrth ddewis y cywair priodol felly, rhaid nodi:
• Pwy yw eich cynulleidfa? (e.e. darlithydd, tiwtor, arholwr, cyd-fyfyrwyr, cyfaill) Pa mor ffurfiol/anffurfiol?
• Beth yw’r sefyllfa? (e.e. academaidd, personol, cyfeillgar, niwtral) Pa mor ffurfiol/anffurfiol?
• Beth yw’r cyfrwng? (e.e. traethawd, papur arholiad, anerchiad, adolygiad, ymateb personol, e-bost) Pa mor ffurfiol/anffurfiol?
O ddadansoddi’r gwahanol elfennau hyn a phenderfynu pa mor ffurfiol/anffurfiol yw bob un, gallwch werthuso pa gywair sy’n briodol i’ch neges chi.
Ond cofiwch:
  •  Nid dau begwn â gofod mawr rhyngddyn nhw yw’r ffurfiol a’r anffurfiol, ond graddfa sy’n symud yn raddol o’r naill begwn i’r llall.
1 2 3 4 5
ANFFURFIOL --------------------------------------------------------------------------FFURFIOL
  •  Yn gyffredinol iawn, bellaf oll yr ewch chi oddi wrth yr elfennau sy’n nodweddu’r iaith lafar a’r tafodieithol, agosaf oll yr ewch chi at y ffurfiol a’r ysgrifenedig. (Ond cofier am rai eithriadau llenyddol, e.e. Un Nos Ola’ Leuad, sy’n defnyddio tafodiaith i adrodd stori’r nofel.)
Ar Daflen 2 fe welwch rai elfennau sy’n nodweddu’r ffurfiol a’r anffurfiol

CYWEIRIAU’R IAITH - TAFLEN 2

Rhai elfennau sy’n nodi’r gwahaniaeth rhwng y cywair ffurfiol a’r anffurfiol

 
ANFFURFIOL

FFURFIOL

berfau cwmpasog neu beriffrastig, e.e. mae’r plant yn cerdded i’r ysgol/wneiff y plant gerdded i’r ysgol

berfau cryno e.e. cerdda’r plant i’r ysgol

ffurf amhersonol gwmpasog, e.e. cafodd y drych ei falu, malodd rhywun y drych

ffurf amhersonol gryno e.e. malwyd y drych

negyddu: dim e.e. ddarllenodd Siôn ddim y papur
ni e.e. ni ddarllenodd Siôn y papur

cwestiynau: ddarllenodd X y papur?

a ddarllenodd X y papur?

yn tydyn/on’d ŷn nhw: mae’r gwleidyddion yn gwybod pob dim, on’d ŷn nhw/yn tydyn?

oni(d): onid yw’r gwleidyddion yn gwybod pob dim?

peidiwch â … cherdded ar y glaswellt

na: na cherddwch ar y glaswellt

os: gofynnodd os oedd yr aelodau’n fodlon
a: gofynnodd a oedd yr aelodau’n fodlon

nhw

hwy/hwynt

ffurfiau ar rai ansoddeiriau e.e. gwyn, syml, byr, du ayb

wen, gwynion, seml, fer,byrion, duon ayb

defnydd helaeth ar ‘wnaeth’ a ‘ddaru’ fel berfau cynorthwyol

amser y ferf

y dyn yma/y ddynes yma/y bobl yma

hwn/hon/y bobl hyn

os mae, pan mae
os yw, pan yw
diffyg treiglad llaes e.e. ci a cath

cadw’r treiglad llaes e.e. ci a chath

dim ‘h’ o flaen llafariaid o flaen ffurfiau perthnasol y rhagenw perthynnol e.e. ein amser

cadw’r ‘h’ e.e. ein hamser




Mae rhai geiriau ac ymadroddion penodol hefyd yn medru dynodi ffurfioldeb, e.e.:
megis
oblegid
bid siwr
diau
A allwch chi feddwl am enghreifftiau pellach?

No comments:

Post a Comment