Croeso!

Blog ar gyfer pobl sy'n dysgu Cymraeg yn ardal Aberteifi yw hwn. Mae'n cynnwys adnoddau ac erthyglau sy'n berthnasol i'n dosbarthiadau sgwrsio. Byddwn ni'n trafod ystod eang o destunau yn ystod y flwyddyn (garddio, byd y natur, byd busnes a gwaith, hanes lleol, coginio, tafodiaith, barddoniaeth i enwi ond rhai o'r pynciau) gan edrych ar wahanol fathau o'r iaith. Croeso i bawb sydd am ddatblygu eu sgiliau Cymraeg.

Tuesday 13 November 2012

Cywair - Enghreifftiau

Diolch i Ganolfan Bedwyr am y deunydd hwn.

CYWEIRIAU’R IAITH – TAFLEN 3

Darllenwch y chwe dyfyniad isod a rhowch sgôr o 1 (anffurfiol iawn) i 5 (ffurfiol iawn) am bob un. Eglurwch yn fyr ar sail ba nodweddion yr ydych yn gwneud hynny (gweler Taflen 2 am enghreifftiau posib).

1
Yn ei hanfod, yr un ddadl yw’r ddadl wrth-gynganeddol â chŵyn y bobl hynny dros y canrifoedd sydd wedi lladd ar yr iaith Gymraeg oherwydd ei bod yn sefyll yn ffordd cynnydd. O’r Llyfrau Gleision (Ni ddaw cynnydd tra phery iaith y tafarnau a’r ffeiriau) at ‘sosialaeth ryngwladol’ honedig gwleidyddion diweddar [a fynegir yn uniaith Saesneg] (Ni ddaw rhyddid tra phery iaith snobs dosbarth canol y capeli), yr un yw’r ddadl. A’r un yw’r gwallau yn y ddadl – priodolir i’r iaith gyfan nodweddion rhai o’i siaradwyr, a drysir rhwng CYFRWNG Y DWEUD A’R HYN A DDYWEDIR.

(o ‘Tacsi i’r Tywyllwch’ gan Emyr Lewis, yn Taliesin, 114 Gwanwyn 2002)

Sgôr o 1 (anffurfiol iawn) i 5 (ffurfiol iawn):
Ar sail y nodweddion:

2
Tra mod i’n eistedd yma’n sgrifennu mae hi’n agosáu at ddiwedd blwyddyn, neu at ddechrau un – a dibynnu sut y’ch chi’n edrych ar bethau – ac mae hi’n anodd peidio â bod yn ddigalon neu’n besimistaidd. Dwi’n clywed sŵn y ffair yn cynyddu yn fy nghlustiau ond teimlaf yn drist hyd at ddagrau pan ddaw Rhagfyr i gau’r drws yn glep yn nau wyneb Ionawr. Dwi’n gwybod ei bod hi’n gychwyn ar flwyddyn newydd; ail gyfle i wneud yn well wedi llanast y deuddeg mis a fu. Ond fedra’ i ddim ond teimlo’n isel o golli’r hen flwyddyn, waeth pa mor shimpil oedd hi. Ac mi wn i y bydda’ i’n gwneud addunedau dim ond er mwyn cau sŵn y gwacter allan o ‘mhen; codi fy nghalon drwy gadw cwmni i mi fy hun yn fy nűwch wrth weld blwyddyn arall yn diflannu i un o gorneli tywyll y cof.

(o ‘Clustfeinio’ gan Elinor Wyn Reynolds, yn Taliesin, 114 Gwanwyn 2002)

Sgôr o 1 (anffurfiol iawn) i 5 (ffurfiol iawn):
Ar sail y nodweddion:

3
Mae hanes diweddar pentrefi Cefnpennar a Chwmpennar yn ne Cymru, yn debyg iawn i rai o bentrefi cefn gwlad Pen Llŷn.
Dyna pam fod criw o bentrefwyr wedi teithio i fyny i Lithfaen yr wythnos ddiwetha’ gyda’u Aelod Cynulliad, Pauline Jarman, gyda’r bwriad o weld sut y gallan nhw ddysgu oddi wrth brofiadau pobol Llŷn.
Pan ddaeth y penderfyniad i gau’r ysgol leol yng Nghefnpennar yn yr 1980au, fe syrthiodd y fwyell ar y swyddfa bost a’r siop leol hefyd.
Ers hynny, mae triglion y ddau bentre’ bach yng Nghwm Cynon wedi gorfod teithio’r milltir a hanner i Aberpennar i gael nwyddau a gwasanaethau.

(o ‘Popeth yn lleol’ gan Barry Thomas yn Golwg, 14.22, Chwefror 14 2002)

Sgôr o 1 (anffurfiol iawn) i 5 (ffurfiol iawn):
Ar sail y nodweddion:

4
Mae’n swyddogol bellach. Rydyn ni’n genedl cwbl boncyrs! Fe brofwyd hynny nos Fercher a dydd Iau diwetha’. Y cyfan oedd wedi digwydd oedd ymddiswyddiad Graham Henry fel hyfforddwr ein tîm rygbi cenedlaethol, ac fe aeth pawb yn wallgo’ bost. Mi fasach chi’n credu ein bod ni o fewn trwch blewyn i ddiwedd y byd.
Roedd ein cyfryngau torfol wedi colli pob rheolaeth, ac fe aeth gwrthrychedd newyddiadurol allan drwy bob ffenest olygyddol yng Nghaerdydd. Y fath ffwlbri a diffyg cydbwysedd! Afraid dweud mwy am y gwallgofrwydd anfaddeuol.

(o ‘Y Gair Ola’ gan Gwilym Owen yn Golwg, 14.22, Chwefror 14 2002)

Sgôr o 1 (anffurfiol iawn) i 5 (ffurfiol iawn):
Ar sail y nodweddion:

5
Digwydd sylwi ar yr hysbysiad yn y Cambrian News – a chael fy nhemtio!
Hysbysiad am gais i fod yn ddyn hufen iâ yn Ynys-las dros yr haf.
Ac roedd y syniad yn apelio’n fawr.
Y traeth eang. Y bryniau oddi amgylch. Dyfroedd yr aber yn newid eu ffurf byth a beunydd. Aberdyfi rhwng môr a mynydd yr ochr draw.
Ac yn fwy na dim, marchnad helaeth – cyfle i werthu hufen iâ gorau Cymru i lu o gwsmeriaid newydd. Ehangu – dyna’r gair. Gadael y caban yma ar y prom yn Aber yn nwylo cyfaill, a chwilio am farchnadoedd gwahanol, fel mae’r ffermwyr yn ei wneud.
A phwy a ŵyr? Efallai y byddai rhywun pwysig o Tesco neu Sainsbury’s yn dod heibio ar wyliau, ac yn prynu fy hufen iâ, ac yn cael cymaint o flas arno nes…nes…
Ie, gallwn weld fy hun yn darparu hufen iâ wrth y dunnell i ryw gwmni mawr, ac yn gwneud ffortiwn i mi fy hun. Prynu tŷ newydd wedyn. Prynu car newydd sbon am y tro cyntaf erioed hefyd. Syr David efallai, gydag amser. Yr Arglwydd David?
Ond dyma fi’n rhoi’r gorau i’r holl freuddwydion ffôl. Dewch heibio eto yr haf nesaf ‘ma – bydda’ i’n dal wrthi yn y caban bach ar y prom. Oherwydd yn y bôn rwy’n gwybod fod yr hen adnod yn gwbl wir; ‘Nid yw bywyd dyn yn sefyll ar amlder y pethau sydd ganddo.’

(o ‘Ar Lan y Môr’ gan Dai Hufen Iâ yn Yr Angor, Chwefror 2002)

Sgôr o 1 (anffurfiol iawn) i 5 (ffurfiol iawn):
Ar sail y nodweddion:

6
Dyna’n fras bum pwynt damcaniaeth. Eu nodi a wnaf, a’u trafod rywbryd eto. Ond amlyga’r ymarferiad syml hwn - plentynnaidd o syml, hwyrach – yr hyn sydd amlwg ddigon i mi, sef nad oes modd i feirniad llenyddol beidio â choleddu damcaniaethau llenyddol - syniadau am werth a diben llenyddiaeth – hyd yn oed os nad yw’n mynychu cynadleddau a gynhelir dan nawdd Cymdeithas y Dyneiddwyr Rhyddfrydol.

( o ‘Camfarnu neu Garfanu Beirniad Llenyddol?’ gan Tudur Hallam yn Taliesin, 114 Gwanwyn 2002)

Sgôr o 1 (anffurfiol iawn) i 5 (ffurfiol iawn):
Ar sail y nodweddion:

No comments:

Post a Comment