Idiomau’r Wythnos
Hoelio
Hoel/hoelen
(b) hoelion
1. Hoelio sylw rhywun
Bydd y
cynllun yn ceisio hoelio sylw ar fusnes ac arian
Mae'n gyfle
gwych i weithio gyda chynhyrchwyr a chyfarwyddwyr profiadol, a fydd yn gallu'ch
helpu i gyfleu eich neges mewn ffordd sy'n hoelio sylw.
2.
Taro’r
hoelen ar ei phen
Dwi'n meddwl roedd Damon Albarn a Peter
Hitchens wedi taro hoelen ar ei phen yn eu hymateb am Live8.
Mae y dalent o daro'r hoel yu ei phen genych, Mr.
Denman," ebe'r Capten,
"Mae'r bachgen wedi taro'r hoel ar ei phen,"
ebai yntau,
Roedd yn wastad yn bwrw’r hoelen ar ei phen ac roedd
ymhlith miloedd a ymladdodd dros ei wlad, er nad oedd yn credu mewn rhyfel.
3.
Hoelion
wyth
Mae'r ymadrodd yn cyfeirio at hoelion wyth modfedd sef
hoelion mawr ac felly byddent yn hoelion pwysig cryf yn dal darnau pwysig mewn
adeilad neu rywbeth arall.
Mae 5 cangen yng nghymdeithas Yr Hoelion Wyth, sef Sion
Cwilt, Wes Wes (Gogledd Sir Benfro), Hen-Dy-Gwyn, Beca (Efailwen) ac Aberporth.
Cwrdd uwaith y mis am 8 o'r glochish.
Un o hoelion wyth Cymdeithas Tai Clwyd yn
dychwelyd i'r tîm.
No comments:
Post a Comment