Croeso!

Blog ar gyfer pobl sy'n dysgu Cymraeg yn ardal Aberteifi yw hwn. Mae'n cynnwys adnoddau ac erthyglau sy'n berthnasol i'n dosbarthiadau sgwrsio. Byddwn ni'n trafod ystod eang o destunau yn ystod y flwyddyn (garddio, byd y natur, byd busnes a gwaith, hanes lleol, coginio, tafodiaith, barddoniaeth i enwi ond rhai o'r pynciau) gan edrych ar wahanol fathau o'r iaith. Croeso i bawb sydd am ddatblygu eu sgiliau Cymraeg.

Wednesday 13 May 2020

Alun Elidyr: Peidiwch anghofio am gefn gwlad

https://www.bbc.co.uk/cymrufyw/52618257


Mae'r pandemig Covid-19 wedi effeithio ar bob rhan o gymdeithas, ym mhob cwr o Gymru, ond mae'r firws wedi effeithio ar gymunedau gwledig mewn ffyrdd gwahanol i'r canolfannau mwy poblog.

Yn ôl y ffermwr a'r cyflwynydd teledu, Alun Elidyr, o Ryd-y-main ger Dolgellau, mae sawl her yn wynebu trigolion cefn gwlad Cymru; o'r diffyg rhyngrwyd effeithiol i'r unigrwydd sy'n dod o ganlyniad i reolau hunan ynysu.

"(Mae) gan i gyflymder gwe o 0.8MB yr eiliad - mae'r peth yn jôc i ddweud y gwir, er gwaetha'r holl addewidion gwag sydd wedi bod," meddai Alun wrth drafod pa mor ymarferol yw gweithio o adref.

Dydi'r sefyllfa anodd yng nghefn gwlad ddim yn rhywbeth newydd yn ôl Alun: "Da ni wedi gweld hyn o'r blaen wrth gwrs. Fe welon ni bygythiad Chernobyl i'n cig oen ni, BSE a chlefyd y gwartheg gwallgof yn difetha'r farchnad cig eidion, clwy'r traed ar genau yn difa wyth miliwn o'n hanifeiliaid ni - y rhan helaeth ohonyn nhw'n hollol iach, ond dyna oedd panig yr ymateb a gafwyd gan ein rheolwyr ni.
"Ac wrth gwrs roedd eira mawr yn 2013 gyda miloedd o ddefaid wedi eu claddu dan eira ac roedd hi bron yn amhosib i'w hachub i gyd.

Unigrwydd

"Cofiwch amdanom ni yng nghefn gwlad, dyna i gyd ydi'r erfyniad sydd genna' i ar hyn o bryd.
"Meddyliwch yn lleol o hyn ymlaen, a fanna fe all bob un ohonom ni wneud rhywfaint o wahaniaeth."

"Mae unigrwydd yn broblem fawr yng nghefn gwlad - llawer llai ohonom ni o gwmpas erbyn hyn, a phobl yn mynd yn hŷn ac yn dal i weithio yng nghefn gwlad, ddim yn gallu gweld eu teuluoedd ar hyn o bryd oherwydd bod nhw mewn oed sydd yn beryg ar gyfer Covid-19. Ond mae yna fendithion i dechnoleg a rŵan mae'n rhaid ni fod yn agored iddo.

 'Angen mwy o galon'

"Be bynnag ddaw nesa, 'da ni ddim eisiau mynd yn ôl i beth oedd yn normal cynt - da ni eisiau rhywbeth gwell. Da ni ddim eisiau'r normal a fu, mae angen mwy o galon ym mhopeth sy'n digwydd yn ein byd ni, ac yn lleol fe allwn ni roi'r galon yna i mewn, a'r cydymdeimlad.

"Mae 'na ben draw i hyn wrth gwrs, ac mi ddaw hwnnw yn ei dro ac mi wneith wahaniaeth pan ddawn ni allan ohono yn well pobl a gwell cymdeithas gobeithio.

No comments:

Post a Comment