Croeso!

Blog ar gyfer pobl sy'n dysgu Cymraeg yn ardal Aberteifi yw hwn. Mae'n cynnwys adnoddau ac erthyglau sy'n berthnasol i'n dosbarthiadau sgwrsio. Byddwn ni'n trafod ystod eang o destunau yn ystod y flwyddyn (garddio, byd y natur, byd busnes a gwaith, hanes lleol, coginio, tafodiaith, barddoniaeth i enwi ond rhai o'r pynciau) gan edrych ar wahanol fathau o'r iaith. Croeso i bawb sydd am ddatblygu eu sgiliau Cymraeg.

Sunday 17 November 2019

Addysg Gymraeg - prinder athrawon

Diolch i BBC Cymru Fyw


Dim ond chwarter targed Llywodraeth Cymru wnaeth gymhwyso fel athrawon i ddysgu Cymraeg fel pwnc uwchradd y llynedd.

Targed y llywodraeth ar gyfer 2018/19 oedd cael 48 o bobl i gwblhau ymarfer dysgu fel athrawon Cymraeg, ond dim ond 12 wnaeth hynny.

Dywedodd undeb athrawon UCAC bod y ffigwr yn "frawychus o isel".

Fe wnaeth nifer yr athrawon uwchradd sydd wedi cymhwyso gyda Chymraeg fel pwnc ostwng yn raddol o 35 yn 2014/15 i 22 yn 2017/18, cyn gostwng ymhellach i 12 yn 2018/19.
Mae nifer yr athrawon sydd wedi cymhwyso ar gyfer pob pwnc wedi gweld gostyngiad sylweddol hefyd - o 569 yn 2014/15 i 388 yn 2018/19.

'Testun pryder'

Un ysgol sydd wedi wynebu her o ran penodi athro pwnc Cymraeg yn y gorffennol yw Ysgol Gyfun Cwm Rhondda.

Yn ôl y pennaeth, Rhian Morgan Ellis mae'n "destun pryder".

Mae'r ysgol wedi gorfod hysbysebu "nifer o weithiau" i gael athro Cymraeg, yn ôl Ms Ellis.

"Buom ni'n chwilio am arweinydd y Gymraeg rhyw flwyddyn neu ddwy yn ôl, fe hysbysebon ni dair gwaith a neb yn trio," meddai.

Y llynedd fe rybuddiodd adran Gymraeg Prifysgol Aberystwyth am y gostyngiad sylweddol yn nifer y disgyblion sy'n sefyll yr arholiad Cymraeg Safon Uwch.

Dywedodd pennaeth dros dro yr adran, Eurig Salisbury bod hynny'n lleihau'r nifer sy'n astudio'r Gymraeg mewn prifysgolion, gan felly arwain at lai yn gwneud ymarfer dysgu yn y pwnc.

'Pwnc blaenoriaeth'

Dywedodd llefarydd ar ran Llywodraeth Cymru: "Mae nifer yr athrawon sy'n addysgu Cymraeg fel pwnc mewn ysgolion uwchradd neu ganol wedi cynyddu o 1,164 yn 2015-16 i 1,202 yn 2018-19.

"Rydym wedi clustnodi'r Gymraeg fel pwnc blaenoriaeth er mwyn cyrraedd targed y miliwn o siaradwyr Cymraeg erbyn 2050.

"Drwy ein cynllun Iaith Athrawon Yfory, rydym yn parhau i gynnig £5,000 ychwanegol i athrawon dan hyfforddiant sy'n bwriadu dysgu Cymraeg neu drwy gyfrwng y Gymraeg, yn ogystal â hyd at £17,000 mewn grantiau a benthyciadau, y pecyn cyllid myfyrwyr mwyaf hael yn y DU. 

"Rydym wedi comisiynu rhaglen hyfforddi ran-amser a hyfforddiant seiliedig ar waith newydd i ddarparu llwybrau amgen i addysgu. Rydym hefyd yn darparu cyllid sy'n anelu at gynyddu nifer y myfyrwyr sy'n cymryd Cymraeg Lefel A, i hybu niferoedd o athrawon Cymraeg y dyfodol."

No comments:

Post a Comment