Croeso!

Blog ar gyfer pobl sy'n dysgu Cymraeg yn ardal Aberteifi yw hwn. Mae'n cynnwys adnoddau ac erthyglau sy'n berthnasol i'n dosbarthiadau sgwrsio. Byddwn ni'n trafod ystod eang o destunau yn ystod y flwyddyn (garddio, byd y natur, byd busnes a gwaith, hanes lleol, coginio, tafodiaith, barddoniaeth i enwi ond rhai o'r pynciau) gan edrych ar wahanol fathau o'r iaith. Croeso i bawb sydd am ddatblygu eu sgiliau Cymraeg.

Sunday 6 October 2019

Y Cylch Sialc - Gwenno

Ffynhonnell: Pecyn Adnoddau Theatr Genedlaethol Cymru

Cantores a chwaraewr allweddellau ydy Gwenno Mererid Saunders. 

Cafodd ei geni yng Nghaerdydd ar 23 Mai 1981. Bu’n aelod o Academi Dawns Wyddelig Seán Éireann-McMahon er pan oedd hi'n bump oed, ac roedd hefyd yn aelod o gast ‘Lord of the Dance’ gyda Michael Flatley. 

Bu Gwenno yn gantores bop – yn canu gan fwyaf drwy gyfrwng y Gymraeg a Chernyweg – gan ryddhau dwy EP unigol, Môr Hud yn 2002, a Vodya yn 2004. Mae hi wedi teithio’r byd gyda Pnau(Empire of the Sun) ac Elton John. Yn Rhagfyr 2005 cyrhaeddodd ei halbwm Y Dydd Olaf restr fer un o brif siartiau cerddoriaeth Prydain – y tro cyntaf erioed i albwm Cymraeg ei hiaith gyrraedd y safle yma.

Gofynnwyd i Gwenno gyfansoddi cerddoriaeth wreiddiol ar gyfer y ddrama Y Cylch Sialc, a hi hefyd fydd yn cymryd rhan y Cyfarwydd yn y ddrama.

 Cyfweliad:

https://www.youtube.com/watch?v=WqsF9ocpaRc 

No comments:

Post a Comment