Croeso!

Blog ar gyfer pobl sy'n dysgu Cymraeg yn ardal Aberteifi yw hwn. Mae'n cynnwys adnoddau ac erthyglau sy'n berthnasol i'n dosbarthiadau sgwrsio. Byddwn ni'n trafod ystod eang o destunau yn ystod y flwyddyn (garddio, byd y natur, byd busnes a gwaith, hanes lleol, coginio, tafodiaith, barddoniaeth i enwi ond rhai o'r pynciau) gan edrych ar wahanol fathau o'r iaith. Croeso i bawb sydd am ddatblygu eu sgiliau Cymraeg.

Thursday 19 September 2019

Y Cylch Sialc

Un o'r prosiectau cyffrous newydd y byddwn yn trin a thrafod gyda chefnogaeth Theatr Genedlaethol Cymru yn ystod tymor yr hydref fydd trosiad newydd sbon gan Mererid Hopwood o Y Cylch Sialc, un o ddramâu pwysicaf Bertholt Brecht.

Dyma ragflas a disgrifiad o'r ddrama. 

http://theatr.cymru/portfolio/ycylchsialc/ 

Yn y dyddiau mwyaf gwaedlyd, mae pobl dda yn byw.”
 
Mae chwyldro ar droed a’r ddinas ar dân. Yn y dryswch, mae babi’n cael ei adael ar ôl.

Mae merch ifanc yn aberthu popeth er mwyn achub y plentyn. Â’r wlad dan warchae a milwyr yn eu herlid, mae hi’n benderfynol o’i warchod, doed a ddelo. Ond mewn byd llygredig, a yw cariad yn ddigon?

Am y tro cyntaf erioed, mae Theatr Genedlaethol Cymru yn troedio i fyd Bertolt Brecht gyda throsiad newydd i’r Gymraeg gan Mererid Hopwood a cherddoriaeth wreiddiol yn cael ei pherfformio’n fyw gan Gwenno. Mewn cynhyrchiad newydd trawiadol, mae’r clasur hwn o’r ugeinfed ganrif yn byrlymu â cherddoriaeth, hiwmor tywyll a chymeriadau bywiog; stori epig am wneud daioni mewn byd sy’n llawn drygioni.


Cyfarwyddwr: Sarah Bickerton



No comments:

Post a Comment