Croeso!

Blog ar gyfer pobl sy'n dysgu Cymraeg yn ardal Aberteifi yw hwn. Mae'n cynnwys adnoddau ac erthyglau sy'n berthnasol i'n dosbarthiadau sgwrsio. Byddwn ni'n trafod ystod eang o destunau yn ystod y flwyddyn (garddio, byd y natur, byd busnes a gwaith, hanes lleol, coginio, tafodiaith, barddoniaeth i enwi ond rhai o'r pynciau) gan edrych ar wahanol fathau o'r iaith. Croeso i bawb sydd am ddatblygu eu sgiliau Cymraeg.

Monday 6 May 2019

Menyw, dynes, menywod a merched

Sbardunodd Vaughan Roderick sgwrs ddifyr ar Twitter gyda'r cwestiwn yma:

Fi'n gofyn yn betrusgar! Oes unrhwy un arall yn credu bod y gair  'dynes' yn sexist? Onid yw 'menyw' yn llawer gwell? Dyma rai o'r atebion: Iola Wyn: "Dynes ydw i, yn dod o Bow St, reit yng nghanol Cymru. Dwi’n sicr ddim yn ferch - dim ond Dad+Mam all fy ngalw i yn hynny. Ond gan nad yw dynesod wedi’i fathu,‘di gorfod cyfaddawdu gyda Dynes/Menywod. I nghlust i, ma dyn yn gweiddi ‘menyw!’ yn 🙉
, ond derbyn fod clustie pawb yn wahanol." Norman Charles: "Wi'n meddwl ei fod [h.y. y gair 'dynes'] yn ogleddol ac llai ffurfiol o bosibl. Gwell gen i menyw. Wedi gweud hynny, roedd dyn yn arfer golygu dyn neu fenyw ac yn treiglo yn ôl y cyd-destun."
Arwyn Jones: Dynes faswn i yn ei ddeud yn naturiol. Ond does dim ffurf lluosog. Wedyn ni ogleddwyr yn gorfod dewis:
Merched = girls
Gwragedd= wives
Ai dyna pam fod

yn defnyddio “menyw”? Elliw Gwawr: Dwi’n defnyddio dynes yn naturiol. Ond dwi’n defnyddio menyw wrth ddarlledu. Teimlo ei fod yn fwy ffurfiol a hefyd dwi’n dioyn o fengrel felly mae’n eithaf naturiol i newid rhwng geiriau gogleddol a deheuol.
Iwan Wyn Rees: Dyma sylw JMJ (h.y. yr ysgolhaig John Morris Jones) yn llawn. Mae’n bosib mai ‘benyw’ a ystyriai’n safonol, nid ‘menyw’. Teg ystyried ‘dynes’ yn (draddodiadol) ansafonol, ond ‘sexist’? Yn deall y gwrthwynebiad i ‘merched’ yn y de, ond ymddengys fod tinc rhy dafodieithol i ‘menywod’ gan y gogs - fel ‘dynes’ i’r hwntw!

"dynes is a N.Walian vulgarism which has found its way into recent literature; it does not occur in the Bible or any standard work."

No comments:

Post a Comment