Croeso!

Blog ar gyfer pobl sy'n dysgu Cymraeg yn ardal Aberteifi yw hwn. Mae'n cynnwys adnoddau ac erthyglau sy'n berthnasol i'n dosbarthiadau sgwrsio. Byddwn ni'n trafod ystod eang o destunau yn ystod y flwyddyn (garddio, byd y natur, byd busnes a gwaith, hanes lleol, coginio, tafodiaith, barddoniaeth i enwi ond rhai o'r pynciau) gan edrych ar wahanol fathau o'r iaith. Croeso i bawb sydd am ddatblygu eu sgiliau Cymraeg.

Friday 15 February 2019

Gwibdaith i ogledd Ceredigion

Ar ddiwrnod hynod o braf yng nghanol mis Chwefror aeth dosbarth Sgwrsio Uwch 2 o Aberteifi ar daith i ogledd y sir, gan ddechrau yn swyddfeydd Y Lolfa yn Nhal-y-bont.

Mae yna ddwy ochr i'r busnes, sef argraffu a chyhoeddi, esboniodd Garmon Gruffudd, mab i Robat Gruffudd a sefydlodd y cwmni yn 1967. Erbyn hyn, mae gwasg Y Lolfa yn cyhoeddi dros 50 o lyfrau Cymraeg bob blwyddyn a rhyw 20 o lyfrau Saesneg. Cymraeg yw iaith y busnes sy'n cyflogi 20 o bobl mewn ardal wledig.

Un o gyhoeddiadau cyntaf Y Lolfa oedd Lol, y cylchgrawn dychanol, sydd wedi bod yn enwog am dynnu blewyn o drwyn y Sefydliad Cymraeg dros y degawdau, ac mae'r cwmni'n falch o'i wreiddiau radical hyd heddiw.

Er i ddyfodiad Kindle a dyfeisiadau electronig tebyg achosi pryder i'r diwydiant, roedd gwerthiant llyfrau traddodiadol ar gynnydd, meddai Garmon, a ffaith hynod ddiddorol oedd bod llawer o nofelau Cymraeg yn gwerthu mwy o gopïau o'u cymharu â nofelau Saesneg gan awduron llai adnabyddus.

Wedi taith dywys trwy'r gweithdy a'r warws, lle y teimlodd sawl aelod o'r grŵp eu bod nhw wedi cyrraedd y nefoedd, bu cyfle i brynu llyfrau yn siop Y Lolfa.



Ymlaen â ni wedyn i Dre'r-ddol a'r Cletwr, caffi a siop wrth ymyl yr A487. Cawsom groeso cynnes a chyflwyniad arall gan Nigel Callaghan sydd yn aelod o'r grŵp a sefydlodd y fenter gymunedol sy'n cynnwys llyfrgell Gymraeg a chyfleusterau eraill.

Heddiw mae'r Cletwr yn cyflogi rhyw 12 o bobl leol yn y caffi a'r siop mewn adeilad trawiadol iawn.

Dywedodd Nigel fod pentrefi Tre Taliesin a Thre'r-ddol yn wynebu dyfodol ansicr iawn pan gaeodd y garej, siop y pentref a chyfleusterau eraill tua deng mlynedd yn ôl, ond fe ddaeth y gymuned at ei gilydd i ddechrau'r gwaith caled o godi arian a sefydlu'r fenter sydd erbyn hyn yn llwyddiant ysgubol.





No comments:

Post a Comment