Croeso!

Blog ar gyfer pobl sy'n dysgu Cymraeg yn ardal Aberteifi yw hwn. Mae'n cynnwys adnoddau ac erthyglau sy'n berthnasol i'n dosbarthiadau sgwrsio. Byddwn ni'n trafod ystod eang o destunau yn ystod y flwyddyn (garddio, byd y natur, byd busnes a gwaith, hanes lleol, coginio, tafodiaith, barddoniaeth i enwi ond rhai o'r pynciau) gan edrych ar wahanol fathau o'r iaith. Croeso i bawb sydd am ddatblygu eu sgiliau Cymraeg.

Thursday 21 February 2019

Dafydd Llywelyn yn cwrdd â dysgwyr Aberteifi

Fe ddaeth Comisiynydd Heddlu Dyfed Powys i Gastell Aberteifi ar yr 21ain o Chwefror i siarad â grŵp mawr o ddysgwyr a phobl eraill o'r ardal.



Cawson ni glywed am hanes personol Dafydd a'i wreiddiau yn Nyffryn Teifi, ei yrfa, ei resymau dros sefyll yn yr etholiad yn 2016 a swyddogaethau'r Comisiynydd. Y pethau pwysicaf, meddai, oedd gosod strategaeth ar gyfer y llu, bod yn llais y cyhoedd ar faterion plismona a gosod cyllideb flynyddol yr heddlu.

Yna cododd y gynulleidfa nifer o gwestiynau ynglŷn â blaenoriaethau'r heddlu a'r heriau sy'n wynebu'r llu mewn ardal wledig anferth. Mae Dyfed Powys yn cynnwys hanner tirwedd Cymru.

Mynegodd Dafydd bryderon mawr am sgil-effeithiau Brexit, yn enwedig y goblygiadau i borthladdoedd de-orllewin Cymru a'r hyn a allai ddigwydd pe bai prisiau bwyd a thanwydd yn codi'n gyflym o ganlyniad.

Pwnc arall oedd cyffuriau a'r problemau cymdeithasol sy'n dod yn eu sgil. Roedd y Comisiynydd o blaid dad-droseddoli rhai agweddau ar ddefnydd personol o gyffuriau ac agor ystafelloedd cyffuriau diogel ar gyfer defnyddwyr wedi llwyddiant cynlluniau tebyg yn y Swistir a Denmarc.

Dyma gyfle gwych i ddysgwyr gymryd rhan mewn cyfarfod Cymraeg a thrafod ystod eang o bynciau pwysig.




No comments:

Post a Comment